Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen A allaf gael ad-daliad os na fydd digwyddiad yn cael ei gynnal?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > A allaf gael ad-daliad os na fydd digwyddiad yn cael ei gynnal?
Arall

A allaf gael ad-daliad os na fydd digwyddiad yn cael ei gynnal?

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 25, 2021 3:13 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
A allaf gael ad-daliad os na fydd digwyddiad yn cael ei gynnal?
RHANNU

Oherwydd cyfyngiadau Covid, mae peth amser wedi mynd heibio ers i lawer ohonom fod mewn digwyddiad byw megis gig gerddoriaeth neu gomedi.

Mae cefnogi digwyddiadau byw yn ffordd wych o helpu’r diwydiant byw i ailafael ynddi ar ôl cyfnod hir o fethu gweithredu.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Fodd bynnag, efallai na fydd digwyddiadau a gynlluniwyd yn gallu cael eu cynnal.

Pe bai hyn yn digwydd, rydym wedi cynnull gwybodaeth ddefnyddiol er mwyn rhoi gwybod beth allwch chi ei wneud er mwyn cael eich arian yn ôl.

Cyngor cyffredinol ynghylch digwyddiadau a ganslwyd

Cael ad-daliad am docyn i ddigwyddiad

Os gwnaethoch chi brynu eich tocyn gan werthwr swyddogol, gellwch gael ad-daliad os bydd y trefnydd yn canslo, yn symud neu’n gohirio’r digwyddiad. Bydd y trefnydd yn dweud wrthych sut i gael ad-daliad.

Rydych yn annhebygol o gael ad-daliad os gwnaethoch chi brynu eich tocyn gan wefan ailwerthu (neu wefan docynnu eilaidd), gwerthwr preifat, neu wefan lle mae ffans yn gwerthu tocynnau ymysg ei gilydd.  Nid oes gennych hawl i ad-daliad os ydych yn newid eich meddwl ynghylch mynd, neu’n sylweddoli na allwch fynd mwyach.

Mwy na thebyg mai dim ond wynebwerth y tocyn – y swm sydd wedi’i nodi arno – a gewch yn ôl. Efallai y gwnaiff rhai gwerthwyr ad-dalu’r pris postio os caiff digwyddiad ei ganslo cyn i’r tocynnau gael eu hanfon, er enghraifft. Os bu’n rhaid ichi dalu ffi archebu neu ffi cerdyn, efallai na chewch mo’r rhain yn ôl.

Ni chewch unrhyw gostau teithio neu gostau llety yn ôl, fel arfer, oni bai eu bod yn rhan o becyn a oedd yn cynnwys y tocyn.

Ewch i wefan gwerthwr y tocyn er mwyn gweld eu telerau a’u hamodau ac er mwyn canfod pa rwymedigaethau sydd wedi eu hepgor neu eu cyfyngu.

Os bydd cwmni’n rhoi’r gorau i fasnachu neu’n mynd i’r wal

Chwiliwch am fanylion y gweinyddwr neu’r derbynnydd – yr unigolyn sy’n setlo dyledion y masnachwr. Bydd enwau’r gweinyddwyr hynny fel arfer ar wefan y cwmni sydd wedi mynd i’r wal. Bydd arnoch angen y wybodaeth hon os bydd angen ichi wneud hawliad.

Pan fyddwch yn gwybod yn bendant fod cwmni wedi mynd i’r wal ac nad ydych wedi cael yr hyn sy’n ddyledus ichi, gellwch geisio cael eich arian yn ôl drwy:

Gofrestru hawliad fel credydwr – Pan ydych yn cofrestru hawliad fel credydwr, fe’ch ychwanegir i restr o bawb y mae ar y cwmni arian iddynt. Bydd pobl eraill, banciau er enghraifft, yn cael eu talu’n gyntaf, felly efallai na chewch chi ddim byd.

Gellwch wneud ‘hawliad adran 75’ drwy ddarparwr eich cerdyn credyd os oedd yr eitem neu’r gwaith yn costio mwy na £100 ac os gwnaethoch chi dalu gyda cherdyn credyd.

Gellwch wneud ‘hawliad yn ôl’ drwy eich banc neu ddarparwr eich cerdyn os gwnaethoch chi dalu gyda cherdyn debyd.

Mae cyngor defnyddiol pellach ar gael ar wefan https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/. Gellwch roi gwybod am broblemau a dod o hyd i gyngor i ddefnyddwyr ar y wefan hon neu drwy ffonio 0808 2231133.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Bus Services Amhariad ar Wasanaethau Bws Arriva Midland
Erthygl nesaf Radi Peidiwch â chael eich perswadio i adael i rywun glirio eich rheiddiaduron

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

wall proposal
ArallPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr

Mehefin 23, 2026
housing development plan
Arall

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Mai 18, 2026
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Mawrth 17, 2026
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
30
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Chwefror 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English