Mae enillwyr y gystadleuaeth ‘Dylunio Arwydd’ atal baw cŵn wedi cael eu dathlu mewn noson wobrwyo arbennig yn siambr y maer.
Gwahoddodd y gystadleuaeth ddisgyblion ysgolion cynradd o bob rhan o Wrecsam i greu dyluniadau lliwgar, trawiadol sy’n atgoffa perchnogion cŵn i lanhau baw eu cŵn a helpu i gadw ein cymunedau lleol yn lân a chroesawgar.
Cafodd y dyluniadau buddugol eu dewis o geisiadau a gyflwynwyd gan ysgolion ledled y fwrdeistref, gyda’r disgyblion llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfarfod y cyn-Faer Tina Mannering a mynychu noson wobrwyo arbennig yn siambr y maer.
Lansiwyd y gystadleuaeth i annog plant i rannu neges bwysig mewn ffordd greadigol, wrth helpu i godi ymwybyddiaeth o’r effaith y gall baw cŵn ei chael ar fannau cyhoeddus.
Bydd y dyluniadau buddugol nawr yn cael eu troi’n arwyddion go iawn, a fydd yn cael eu gosod o amgylch cymunedau lleol i atgoffa perchnogion cŵn i wneud y peth iawn.
Enillwyr
Lottie Williams-Roberts, 7 oed, Ysgol Gynradd Parc Borras
Cynan Jones, 7 oed, Llanarmon Dyffryn Ceiriog
Emilia Mackenzie, 7 oed, Ysgol y Parc
Leo O’Halloran, 7 oed, Ysgol Rhos-ddu
Tilly Owen, 10 oed, Ysgol y Santes Fair, Owrtyn
Makanaka Mahohoma, 8 oed, Ysgol Clawdd Wat
Halli Hughes, 8 oed, Ysgol Bro Alun
Jackson Evans, 9 oed, Ysgol Cefn Mawr
Ava Canning, 8 oed, Ysgol Maes y Mynydd
Eliza Mary Bellis, 11 oed, Ysgol Plas Coch
Amelia Jones, 10 oed, Ysgol yr Hafod
Ava Daltry, 9 oed, Ysgol y Waun
Mae baw cŵn yn parhau i fod yn fater sy’n effeithio ar gymunedau ledled Wrecsam, bydd yr arwyddion hyn yn helpu i rannu neges syml ond pwysig; codwch faw eich ci.




