Oeddech chi’n gwybod bod gan ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol (YG) parhaus hawl i ofyn am adolygiad achos mewn rhai amgylchiadau?
Gall unrhyw berson sydd wedi adrodd i asiantaethau am dri digwyddiad ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn cyfnod o chwe mis ofyn am adolygiad achos YG.
Gellir defnyddio’r Sbardun Cymunedol (Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) os ydych chi (fel y dioddefwr unigol) wedi gwneud y canlynol:
- Adrodd i ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Heddlu Gogledd Cymru, landlord cofrestredig neu’r bwrdd iechyd am o leiaf dri achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cyfnod o chwe mis.
- Rhoi gwybod am bob un o’r digwyddiadau hyn o fewn mis iddynt ddigwydd.
- Rydych chi’n credu nad yw eich cwyn wedi cael sylw priodol neu nad oes unrhyw gamau gweithredu wedi’u cymryd.
Ni ellir defnyddio’r broses Adolygu Achosion YG i roi gwybod am droseddau cyffredinol, gan gynnwys troseddau casineb neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gan fod Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi digwydd yn ddiweddar, dyma gyfle da i atgoffa ein hunain am y broses.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol dros Bartneriaethau a Diogelwch Cymunedol: “Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn anghyfforddus ac yn frawychus, ac ar ei waethaf fe all ddifetha bywydau a dinistrio cymunedau. Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth o’r broses Adolygu Achosion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol fel ffordd o gadw trigolion yn ddiogel.”
Gallwch ddysgu mwy am Adolygiadau Achos YG ar ein gwefan.
Sut i roi gwybod am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Os ydych chi’n ddeiliad contract gyda Chyngor Wrecsam, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.
Neu gallwch roi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru yn uniongyrchol drwy ffonio 101 (999 mewn argyfwng), neu ar eu gwefan.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.




