Rydym newydd anfon ein rownd olaf o ffeithiau ailgylchu ar ein tudalennau Facebook a Twitter, felly rhag ofn i chi fethu un o’r rhain, dyma ein saith ffaith ailgylchu olaf 🙂
Ffaith 1- Gellir ailgylchu cynwysyddion plastig bwyd Indiaidd/Tsieineaidd gyda phlastig eraill ar ymyl y palmant yn eich bocs gwyrdd/bocs canol. Ond sicrhewch eich bod wedi eu golchi cyn eu hailgylchu.
Gellir ailgylchu cynwysyddion plastig bwyd Indiaidd/Tsieineaidd gyda phlastig eraill ar ymyl y palmant yn eich bocs gwyrdd/bocs canol. Ond sicrhewch eich bod wedi eu golchi cyn eu hailgylchu #wrecsam #ailgylchu pic.twitter.com/RJEljuDo9g
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) August 6, 2019
Ffaith 2- A oeddech chi’n gwybod bod Siop Ailddefnyddio yng Nghanolfan Ailgylchu Bryn Lane a gaiff ei chynnal gan elusen leol wych? P’un a ydych chi’n rhoi neu’n prynu, mae popeth yn mynd at achos da.
Ffaith 3- Gwneud barbiciw? Ewch a’ch cadi bwyd tu allan a rhowch unrhyw esgyrn a gwastraff ynddo wrth basio. Mae’n gwneud hi’n llawer haws glanhau wedyn…ond sicrhewch eich bod yn cau’r caead i rwystro unrhyw bryfaid.
Ffaith 4- NI ELLIR ailgylchu tiwbiau past dannedd ar ymyl y palmant. Rhowch y rhain yn eich gwastraff cyffredinol os gwelwch yn dda.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Ffaith 5- Gellir ailgylchu hambyrddau cig plastig gyda phlastig eraill ar ymyl y palmant yn eich bocs gwyrdd/ bocs canol…ond gwnewch yn siŵr eich bod wedi’u golchi cyn eu hailgylchu.
Ffaith 6- Rhedeg allan o fagiau cadi? Clymwch un gwag i handlen eich cadi ar eich diwrnod casgliadau ac mi wnawn ni adael rholyn newydd i chi. Mae mor syml â hynny!
Rhedeg allan o fagiau cadi? Clymwch un gwag i handlen eich cadi ar eich diwrnod casgliadau ac mi wnawn ni adael rholyn newydd i chi. Mae mor syml â hynny! #wrecsam #ailgylchu pic.twitter.com/lho69IZje0
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) August 11, 2019
Ffaith 7- A oeddech chi’n gwybod eich bod yn gallu ailgylchu tybiau siocled mawr (Celebrations, Quality Street, Roses ac ati) gyda phlastig eraill ar ymyl y palmant yn eich bocs gwyrdd/bocs canol?
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION