Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen A ydym ni yn dal i wneud ein rhan? Rhoi’r cyfle i bobl gydag anableddau i weithio
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > A ydym ni yn dal i wneud ein rhan? Rhoi’r cyfle i bobl gydag anableddau i weithio
ArallY cyngor

A ydym ni yn dal i wneud ein rhan? Rhoi’r cyfle i bobl gydag anableddau i weithio

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 12, 2019 5:13 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham Council News
RHANNU

Rai misoedd yn ôl penderfynodd Cyngor Wrecsam i newid y ffordd y mae’n helpu pobl gydag anableddau i gael cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli.

Cynnwys
  • Beth oedd y newidiadau’n ei olygu?
  • Caffi Dyfroedd Alun
  • Pam fod cynghorwyr yn edrych ar y newidiadau?

Felly sut mae’r newidiadau hynny’n dod yn eu blaen?

Dyna fydd y cwestiwn allweddol pan fydd ein Pwyllgor Craffu Diogelu yn cwrdd ar Ebrill 17.

Bydd Cynghorwyr yn adolygu’r cynnydd ers i’r newidiadau gael eu cytuno gan y Bwrdd Gweithredol fis Hydref diwethaf, ac fe fyddant yn edrych ar yr effaith ar ddefnyddwyr gwasanaeth.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Beth oedd y newidiadau’n ei olygu?

Ers mis Hydref mae’r gwasanaeth golchi Coverall a’r gwasanaeth sy’n profi dyfeisiau symudol (a ddefnyddiwyd i brofi dyfeisiau trydanol) wedi cau, ac mae Le Café wedi ei leihau i ddarparu ar gyfer Canolfan Alluogi Cunliffe yn unig lle mae wedi ei leoli.

Felly beth oedd y meddylfryd y tu ôl i’r cau?

Wel….yn hytrach na bod ynghlwm â rhedeg y ‘busnesau’ hyn gall gweithwyr cefnogi nawr roi eu hamser i helpu pobl i gael cyfleoedd wedi eu teilwra’n well yn eu cymunedau – gan gysylltu gyda chyflogwyr, elusennau a phrosiectau cymunedol.

Roedd y prosiectau mewn gwirionedd yn fusnesau a ddefnyddiai lawer o amser y staff. Roeddem yn teimlo y gellid treulio’r amser yn well yn helpu pobl i ganfod cyfleoedd mewn mannau eraill.

Caffi Dyfroedd Alun

Roedd y newidiadau hefyd yn golygu dod o hyd i rywun i ddod yn gyfrifol am redeg y caffi ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, sydd hefyd yn darparu cyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau.

Mae elusen lleol Groundwork Gogledd Cymru wedi cymryd prydles saith mlynedd gyda’r bwriad o ddatblygu’r Caffi a’r cyfleusterau Cynadledda ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun yn ogystal â pharhau i ddarparu cyfleoedd gwaith.

Pam fod cynghorwyr yn edrych ar y newidiadau?

Mae gan y cyngor nifer o bwyllgorau craffu. Eu swyddogaeth yw i archwilio – neu graffu – materion allweddol, polisïau a phenderfyniadau, ac i wneud argymhellion.

Sut mae’r cyngor yn gweithio: pwyllgorau

Dywedodd y Cynghorydd Derek Wright, sy’n cadeirio’r Pwyllgor Craffu Diogelu: “Mae’n bwysig iawn fod pobl ag anableddau yn gallu cael gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli, felly – hyd yn oed yn y cyfnod hwn o galedi parhaus – mae angen i ni sicrhau ein bod yn dal i ddarparu gwasanaeth o ansawdd.

“Fel pwyllgor craffu rydym wedi cael y dasg o edrych ar benderfyniadau allweddol fel hwn ac fe fyddwn yn clywed am y cynnydd ac yn ystyried a yw’r trefniadau newydd yn diwallu anghenion y bobl yr ydym yma i’w helpu a’u cefnogi.”

Bydd y pwyllgor yn seilio eu trafodaeth o amgylch adroddiad gan y Cynghorydd Joan Lowe – aelod o’r Bwrdd Gweithredol gyda chyfrifoldeb arweiniol dros y gwasanaethau cymdeithasol.

Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn Neuadd y Dref, Wrecsam ddydd Mercher, Ebrill 17 am 4pm.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwrando ar y drafodaeth, gallwch ei gwylio’n fyw ar wasanaeth gweddarlledu’r cyngor…..neu gallwch ei gwylio’n ddiweddarach.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.public-i.tv/core/l/cy_GB/”]GWYLIWCH Y CYFARFOD[/button]

Bydd y pwyllgor hefyd yn clywed am y cynllun Lleoedd Diogel.

Mae’r cynllun yn annog siopau, caffis, cwmnïau tacsi a busnesau lleol eraill i ddarparu lleoedd y gall pobl ddiamddiffyn fynd iddynt os ydynt yn teimlo’n bryderus pan maent allan.

Fe fyddwn yn rhoi gwybod i chi am y prosiect mewn neges flog ar wahân.

Rhannu
Erthygl flaenorol Sgyrsiau Rhyngweithiol JBerg Films yng Ngŵyl Geiriau Wrecsam Sgyrsiau Rhyngweithiol JBerg Films yng Ngŵyl Geiriau Wrecsam
Erthygl nesaf Croeso’n ôl i Alan Johnson Croeso’n ôl i Alan Johnson

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor
Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch
Arall Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 24, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English