Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ailwampio Canol y Dref – Ar Ei Ffordd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ailwampio Canol y Dref – Ar Ei Ffordd
Pobl a lleY cyngor

Ailwampio Canol y Dref – Ar Ei Ffordd

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 22, 2018 4:19 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
City Centre Events
RHANNU

Mae cynlluniau ar gyfer gwelliannai i ganol y dref wedi cael eu dadorchuddio a’u croesawu gan bobl fusnes arweiniol canol y dref.

Cynnwys
  • “Yn unol ag Uwchgynllun Canol y Dref”
  • “Newyddion Rhagorol”
  • “Chwarae rhan bwysig mewn denu busnesau newydd”

Bydd £420,000 yn cael ei wario ar Stryt y Frenhines a Stryt y Gobaith a fydd yn cael palmant newydd, goleuadau stryd, dodrefn stryd, tirlunio, seddau a phlanhigion.

Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Ebrill i ailosod y llusernau golau ar y stryd a bydd y gwaith gosod palmant newydd yn dechrau fis Mehefin a bydd disgwyl iddo gymryd 10 wythnos i’w gwblhau.

“Yn unol ag Uwchgynllun Canol y Dref”

Bydd detholiad o ddeunyddiau cerrig naturiol yn cael eu defnyddio i ail-wynebu’r ardaloedd palmant ac sy’n cyd-fynd â’r Uwchgynllun Canol y Dref. Bydd y biniau presennol yn cael eu ffeirio am rai newydd gyda’r biniau gwreiddiol yn cael eu symud i ardaloedd eraill yn y fwrdeistref sirol.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Bydd y rheiliau a’r arwyddion yn cael eu hailwampio gyda seddau newydd yn cael eu gosod gyda’r hen seddau’n cael eu symud i ardaloedd eraill o’r fwrdeistref sirol. Ar golofnau golau stryd bydd llusernau LED yn cael eu gosod, mewn steil addurniadol, tebyg i ardaloedd canol trefi eraill.

“Newyddion Rhagorol”

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n newyddion rhagorol ar gyfer canol y dref a byddwn yn ymgysylltu’n llawn gyda’r rheiny sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y gwaith, gan gynnwys Fforwm Canol y Dref, Grŵp Llywio Canol y Dref, busnesau ac aelodau etholedig, a bydd y gwaith a gynllunnir yn achosi cyn lleied â phosibl o darfu ar fusnesau yn yr ardal.

Ychwanegodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae’r gwaith a gynllunnir yn rhan allweddol o ganol y dref a bydd yn cael ei groesawu gan fusnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

“Chwarae rhan bwysig mewn denu busnesau newydd”

Mae dau ŵr busnes o ganol y dref wedi croesawu’r newydd. Cytunodd Alex Jones, perchennog Bank a Chadeirydd Fforwm y Canol Dref a Sam Regan, perchennog Gwesty’r Lemon Tree a Chadeirydd Bwrdd Rheoli Cyrchfan Wrecsam, bod y dref wir angen gwelliannau a bod hyn yn sicr yn gam i’r cyfeiriad cywir: “Rydym yn croesawu’r newyddion hwn a byddwn yn cysylltu gyda’r Cyngor yn rheolaidd ynghylch y gwaith a bydd pawb yn gallu gweld dros eu hunain sut y bydd yn dod yn ei flaen. Byddant hefyd yn chwarae rhan bwysig mewn denu busnesau newydd i ganol y dref.”

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

Ailwampio Canol y Dref - Ar Ei Ffordd
wrexham news
Rhannu
Erthygl flaenorol wrexham Nifer yr ymwelwyr i ganol y dref yn cynyddu ac yn “rheswm dros fod yn obeithiol”
Erthygl nesaf Cofiwch! Dyw’r gaeaf ddim yn dod i ben tan ddiwedd Mawrth Cofiwch! Dyw’r gaeaf ddim yn dod i ben tan ddiwedd Mawrth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English