Mae ein Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod ddydd Mawrth ac mae’r rhaglen newydd gael ei chyhoeddi ar-lein felly fe fyddwch yn gwybod beth fydd yn cael ei drafod.
Y mis hwn, maen nhw’n ystyried y Rhaglen Gyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai, gan gynnwys gosod y rhent y bydd gofyn i’n tenantiaid ei dalu yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Fe fyddant hefyd yn ystyried rhoi prydles newydd am 25 i Glwb Pêl-droed Penycae er mwyn gallu sicrhau cyllid i wella’r cyfleusterau.
Bydd y cyfarfod yn dechrau am 10am a bydd yn cael ei we-ddarlledu. Gallwch ei wylio yma .
Gallwch weld y rhaglen lawn yma.
Ddim yn siŵr sut mae ein pwyllgorau’n gweithio? Mae gwybodaeth isod fydd efallai’n ddefnyddiol i chi:
Siaradwr Cymraeg? Helpwch ni i wella ein gwasanaethau Cymraeg.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=803&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”] CWBLHEWCH EIN HYMGYNGHORIAD RŴAN [/button]