Nid yw’r ffaith eich bod yn gweithio yn yr Adran TGCh yn golygu mai eich breuddwyd yw gweithio yn Silicon Roundabout yn Llundain :-/
Os ydych yn weithiwr TGCh proffesiynol talentog a chreadigol sydd yn chwilio am swydd sydd ddim yn golygu gorfod cwffio drwy draffig y ddinas bob bore, efallai bod eich swydd nesaf yn agosach na’r ydych yn feddwl.
I ddweud y gwir, rydym yn chwilio am Uwch Ddadansoddydd Technegol i helpu edrych ar ôl y gweinyddwyr a diogelwch ein ysgolion.
Oes gennych chi ddiddordeb? Darllenwch ymlaen …
Prosiect cyffrous
Ym mis Gorffennaf 2019 cyhoeddodd Gweinidog Addysg Cymru gyllid o £50m ar gyfer rhaglen TGCh mewn ysgolion.
Bydd y Rhaglen Trawsnewid Hwb yn newid tirlun technoleg addysg, ac os byddwch yn ymuno â ni, byddwch yn helpu i ddarparu isadeiledd digidol newydd ar gyfer 70 ysgol yn Wrecsam.
Mae’n brosiect cyffrous a fydd o fudd i filoedd o bobl ifanc, ac efallai byddwch yn gweithio ar safle mewn dosbarth ysgol un diwrnod, ac ar ddiwrnod arall yn cyflwyno datrysiadau arloesol yn yr ystafell bwrdd.
Felly mae llawer iawn o amrywiaeth, creadigrwydd a boddhad swydd yn y rôl hon.
Y sgiliau rydym yn chwilio amdanynt…
Fel uwch aelod o’r tîm, byddwch yn darparu arweinyddiaeth ar lefel uchel o arbenigedd technegol ar weinyddwyr, LAN, diogelwch, data wrth gefn a gwasanaethau cyfeiriadur gweithredol.
Hefyd byddwch yn gyfrifol am ymchwilio ac argymell cynnyrch a thechnolegau allweddol.
Wrth gwrs, byddwch yn brofiadol ac yn meddu ar gymwysterau addas. Ond (mae hyn yn bwysig) byddwch yn unigolyn brwdfrydig a chyfforddus wrth reoli eich amser eich hun.
Gyrfa sy’n rhoi llawer o foddhad + chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
Os ydych yn byw yng Ngogledd Cymru, Swydd Gaer, Swydd Amwythig neu Gilgwri, mae’n debyg eich bod o fewn pellter teithio hawdd (mae gan Wrecsam gysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd da iawn).
Os ydych yn chwilio am gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, mae yna ddigon o resymau dros ymgeisio.
Er enghraifft, mae ein cynllun gweithio’n hyblyg yn golygu y gallwch symud oddi wrth y 9 tan 5 a gorffen yn gynnar un diwrnod ac yn hwyrach ar ddiwrnod arall. Mae’n ymwneud â darparu gwasanaethau ac ymateb i anghenion ein ysgolion…ond mae hyblygrwydd yn gweithio’r ddwy ffordd.
Byddwch hefyd yn cael gwyliau hael, mynediad i gynllun pensiwn a buddiannau gweithwyr eraill.
Sut i Ymgeisio
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 8 Tachwedd 2019 felly os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ‘Thîm Wrecsam’, ewch amdani.
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer sgwrs anffurfiol am y swydd ewch i’n gwefan.
GWNEWCH GAIS RŴAN