Categori: Busnes ac Addysg

  • 5 ffordd rhwydd o ddechrau defnyddio’r cwmwl ar unwaith

    5 ffordd rhwydd o ddechrau defnyddio’r cwmwl ar unwaith

    Efallai y byddwch yn synnu i ddysgu eich bod eisoes yn defnyddio’r Cwmwl mewn rhyw ffordd yn eich busnes, ac efallai’n gwneud hynny’n anfwriadol.

    Os ydych chi’n defnyddio e-bost, y cyfryngau cymdeithasol, marchnata e-bost neu’n storio ffeiliau ar-lein… rydych chi eisoes yn defnyddio’r Cwmwl.

    Mae’r cwmwl yn anferth ac mae’n gallu bod yn frawychus i geisio ei ddeall. Fodd bynnag, does dim angen iddo fod mor gymhleth â hynny. Gall y cwmwl (yn ei holl ffurfiau) gefnogi busnesau o unrhyw faint a gall gynnig manteision gwirioneddol heb wneud newidiadau mawr ym mhrosesau eich busnes.

    Dyma rai ffyrdd syml y gallwch ddefnyddio’r cwmwl i arbed arian i’ch cwmni, gwella diogelwch ar-lein a chynyddu cynhyrchiant gweithwyr.

    Copi wrth gefn o’ch data

    Cyn i chi wneud unrhyw newidiadau i brosesau eich busnes, mae’n werth ystyried sut gall y cwmwl helpu i ddiogelu’r hyn rydych chi’n ei wneud yn barod. Gall defnyddio’r cwmwl i gadw copi wrth gefn o’ch data helpu os yw eich system yn methu neu os oes llifogydd yn y swyddfa, er enghraifft. Mae cadw copi wrth gefn ar y cwmwl yn rhoi tawelwch meddwl bod gennych ffordd ddiogel a rhwydd o gadw eich busnes i fynd, hyd yn oed os oes trychineb.

    Gweithio o unrhyw le

    Does dim angen swyddfa foethus neu fan gweithio personol arnoch i gynnal busnes effeithiol. Mae defnyddio lle storio ar-lein, fel Dropbox neu Google Cloud Storage, yn golygu bod eich ffeiliau a’ch dogfennau wedi eu storio yn y cwmwl, yn hytrach na’n lleol ar gyfrifiadur penodol.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

    Mae’r cwmwl yn eich galluogi i weithio pan fydd yr awen yn eich taro neu pan fo angen gweithio’n hyblyg y tu hwnt i’r oriau swyddfa 9 tan 5 arferol. P’un ai os ydych chi’n teithio i gyfarfod, bod angen ffeiliau arnoch ar gyfer cyfarfod munud olaf gyda chleient, neu pan fydd staff yn gweithio gartref, mae’r cwmwl yna i chi. Mae’n hawdd cael mynediad ato a gall pob aelod o staff weithio ar yr un dudalen drwy gysoni’n awtomatig.

    Cynlluniau twf hyblyg

    Er bod cynllunio ar gyfer y dyfodol yn bwysig, gall fod yn anodd mesur pa mor gyflym fydd y busnes yn tyfu. Mae ceisio amcangyfrif graddfa’r twf a chydbwyso eich uchelgais gyda’ch gallu yn nhermau amser, gofod ac adnoddau yn gallu bod yn anodd. Gall y cwmwl helpu i leihau’r pwysau yma trwy roi mynediad at adnoddau a llwyfannau o feintiau gwahanol (i gynyddu neu i leihau yn ôl eich anghenion) heb unrhyw fuddsoddiad o flaen llaw.

    Symleiddio rheoli prosiectau

    Os ydych chi’n cael trafferth rheoli mwy nag un prosiect neu gadw llygad ar lawer o dasgau gwahanol neu statws amserlenni gweithwyr gwahanol, yna mae llwyfannau rheoli prosiectau’r cwmwl yn cynnig ffordd wych o gadw’r holl wybodaeth hon mewn un lle sy’n hawdd i’w reoli. Mae llwyfannau fel Basecamp yn ffordd wych o wella cydweithrediad staff, cadw golwg ar dasgau, a helpu chi i gyflawni eich targedau.

    Integreiddio eich llwyfannau

    Mae’r byd yn symud fwyfwy at y cwmwl, felly nawr yw’r amser delfrydol i fynd i’r afael â normaleiddio’ch defnydd o’r cwmwl yn eich busnes. Efallai y cewch eich synnu gan y gwahanol adnoddau a systemau y gallwch chi eu hintegreiddio i arbed amser wrth gyfuno gwahanol brosesau. Sylweddolodd LilBits, sy’n fusnes adnoddau synhwyrol, y gallen nhw arbed “oriau ac oriau” o waith trwy gysylltu eu systemau MailChimp, Shopify a CRM yn y cwmwl. Faint o amser allech chi ei arbed trwy gyfuno rhai o’ch systemau?

    Os hoffech chi ragor o gyngor i helpu eich busnes i symud i’r cwmwl, cofrestrwch gyda gwasanaethau Cyflymu Cymru i Fusnes er mwyn cael mynediad at ddigwyddiadau rhad ac am ddim ac arweiniad un i un gan ein Cynghorydd Busnes Digidol.

    Gan Cyflymu Cymru i Fusnesai.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Hoffi cwmni pobl?  Edrychwch ar y swyddi hyn…

    Hoffi cwmni pobl? Edrychwch ar y swyddi hyn…

    Noder bod y swydd yma bellach wedi cau i geisiadau – dyddiad cau oedd ar Dydd Gwener 29 Mehefin.

    Yma yng Nghyngor Wrecsam, mae pwynt cyswllt cyntaf gyda’r cyhoedd yn hynod bwysig i ni.

    Mae gan ein staff sgiliau pobl ardderchog a byddant bob amser yn trin pawb fel unigolyn. Maent yn gwneud i gwsmeriaid deimlo’n gartrefol, tra’n ymddwyn yn broffesiynol bob amser.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

    Ydy hyn yn ymddangos yn debyg i chi?

    Os ydy, a’ch bod yn chwilio am gyfle newydd, yna gwrandewch…gall hwn fod yr amser perffaith.

    Mae gennym ddwy swydd wag ar gyfer Ymgynghorwyr Gwasanaeth Cwsmeriaid ar hyn o bryd: un dros dro ac un parhaol.

    Os ydych eisiau ein helpu i roi’r gwasanaeth gorau posibl i bobl leol, yna cysylltwch nawr.

    A sbïwch ar hyn. Gall gweithio i’r cyngor fod yn ddewis gyrfaol da – mae fel arfer yn cynnwys pensiwn, lwfans gwyliau da, sefydlogrwydd cymharol a hyblygrwydd.

    Ond byddwch yn gyflym…y dyddiad cau ar gyfer y ddwy swydd yw dydd Gwener, 29 Mehefin.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm”] Gwych … Ddangoswch y SWYDD [/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/”] Na… Dw i’n iawn ddiolch [/button]

  • Eisiau gweithio yng nghalon llywodraeth leol?

    Eisiau gweithio yng nghalon llywodraeth leol?

    Ydych chi’n arweinydd naturiol? Ydych chi’n awyddus i gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau canolog yn y llywodraeth leol? Efallai dyma’r swydd i chi …

    Rydym yn chwilio am rywun i arwain y Tîm Gwasanaethau Democrataidd i ddarparu cefnogaeth weinyddol o ansawdd uchel i’r Cyngor a’r Bwrdd Gweithredol. Byddwch hefyd yn rhoi cefnogaeth i bob cyfarfod arall sy’n ffurfio rhan o strwythur rheoli gwleidyddol y cyngor.

    Swnio’n ddiddorol? Darllenwch ymlaen…

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

    Beth fydd ei angen arnoch chi

    Mae angen i chi gael profiad sylweddol o reoli staff neu dimau a chyfarfodydd pwyllgor ffurfiol mewn sefydliad tebyg. Bydd angen i chi hefyd ddehongli a chymhwyso deddfwriaeth.

    Byddwch yn gyfathrebwr ardderchog a byddwch yn gallu cwrdd â dyddiadau cau tyn yn gyson.

    Os nad ydych eisoes yn gweithio mewn llywodraeth leol, gall gweithio i gyngor fod yn ddewis gyrfa dda. Fel arfer mae’n dod â phensiwn, lwfans gwyliau da, sefydlogrwydd cymharol a hyblygrwydd.

    Y dyddiad cau yw dydd Gwener, Gorffennaf 13 … felly peidiwch ag aros … ymgeisiwch nawr!

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm?v_id=133E8ED3-9066-F4F9-F8540387B3DDB1F1″] Gwych … Ddangoswch y SWYDD [/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/”] Na… Dw i’n iawn ddiolch [/button]

  • Creu gemwaith eich hun gyda chanllaw arbenigwr …

    Creu gemwaith eich hun gyda chanllaw arbenigwr …

    Mae hwn yn gyfle gwych!

    Yn dosbarth meistr ddiweddaraf Tŷ Pawb, sy’n addas ar gyfer pob gallu, byddwch chi’n gallu creu crogdlws gyda chyfarwyddyd arbenigol gan Jeweler Karen Williams!

    Yn dylanwadu gwaith Karen mae ffurfiau naturiol a geir ar hyd lan y môr. Byddwch yn defnyddio ffynonellau tebyg i ysbrydoli eich crogdlws ac i archwilio’r broses o wneud marciau mewn metel.

    Mae croeso i chi ddod â’ch trysor eich hun i’r dosbarth – casys hadau, dail, pethau wedi’u canfod ar y traeth neu ddefnyddio rhywbeth o’r casgliad.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

    I ddechrau byddwch yn arbrofi gan ddefnyddio copr ac archwilio amrywiaeth o dechnegau gwead. Yna byddwch yn datblygu eich cynllun mewn arian; gyda llawer o forthwylio, ac yna llifio ar y fainc a sodro arian i gwblhau eich crogdlws.

    Sut i gymryd rhan

    • Cynhelir dosbarth meistr gemwaith undydd ddydd Sadwrn 7 Gorffennaf, 10.30am-4.30pm.
    • Y gost yw £60 (mae pris consesiwn o £45 ar gael i fyfyrwyr a phobl dros 60 oed).
    • Addas ar gyfer dechreuwyr.
    • Archebu yn hanfodol! Cysylltwch â Tŷ Pawb ar 01978 292093 neu e-bostiwch typawb@wrexham.gov.uk

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    Each i wefan Tŷ Pawb yma.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://bit.ly/2s6hsrw”] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Dewch i werthu a phrynu yn Sêl top fwrdd Tŷ Pawb…

    Dewch i werthu a phrynu yn Sêl top fwrdd Tŷ Pawb…

    Ydych chi’n dymuno cael gafael ar fargen neu werthu eich eitemau diangen eich hun?

    Dewch draw i Sêl top fwrdd Tŷ Pawb!

    Os nad ydych chi erioed wedi bod i Sêl top fwrdd o’r blaen, meddyliwch amdano fel gwerthu cist car dan do!

    Gall unrhyw un sy’n dymuno gwerthu eitemau ar y diwrnod gysylltu â chi i archebu bwrdd (mawr neu fach) lle gallwch chi werthu’ch eitemau.

    I siopwyr, mae hyn yn golygu y gallai fod pob math o eitemau ar werth,
    felly beth am ddod a chael golwg?

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

    Beth sydd angen i chi wybod

    • Cynhelir y Sêl top fwrdd ar ddydd Sul 1 Gorffenaf.
    • Dylai’r gwerthwr gyrraedd 9.00am i sefydlu.
    • Bydd y gwerthiant ei hun yn dechrau 10.00am.
    • Os hoffech chi ddod a gwerthu eitemau, gallwch archebu bwrdd mawr am £10, neu fwrdd bach am £5.

    I archebu bwrdd neu i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, e-bostiwch typawb@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 292093.

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    Each i wefan Tŷ Pawb yma.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://bit.ly/2s6hsrw”] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Parlwr Te yn agor yng nghysgod Safle Treftadaeth Y Byd

    Parlwr Te yn agor yng nghysgod Safle Treftadaeth Y Byd

    Mae hen gapel a oedd yn prysur adfeilio wedi cael adfywiad diolch i gwpwl a wnaeth roi gorau i’w swyddi i wireddu eu breuddwyd o redeg parlwr te.

    Ymgymrodd partneriaid busnes Sally Roberts a Carl Pottenger o Drefor, ger Llangollen, y prosiect heriol yn 2016 i drosi hen gapel Bryn Seion ar Ffordd yr Orsaf i ‘Pontcysyllte Chapel Tea Room,’ ger Traphont Ddŵr enwog Thomas Telford. Enillodd y Traphont Ddŵr Statws Treftadaeth Byd yn 2009 sydd wedi bod yn hwb enfawr i’r ardal wrth iddynt weld cynnydd yn niferoedd ymwelwyr ers hynny.

    Sylwodd Sally a Carl fod darpariaeth bwytai safonol cyfagos sy’n gwerthu rhai o’r cynnyrch lleol gorau ar gael ar gyfer yr ymwelwyr hynny yn fwlch yn y farchnad.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

    Cafodd y prosiect heriol hwb enfawr gan grant o £30,000 dan y Cynllun Cymorth Buddsoddi Mewn Twristiaeth Llywodraeth Cymru. Maent nawr yn cyflogi 12 o staff llawn amser, rhan amser ac achlysurol.

    Carl oedd yn goruchwylio’r adnewyddiad, gan sicrhau eu bod yn cyflogi crefftwyr lleol i gwblhau’r gwaith. Dechreuodd Sally ddod o hyd i, a gwneud ceisiadau am nawdd, cyn rhoi gorau i’w swydd ym manc y stryd fawr y llynedd i ganolbwyntio ar y prosiect llawn amser.

    Mae cam dau’r prosiect yn barod wedi cychwyn gan drawsnewid y gweddill o’r adeilad i fod yn bum ystafell wely modern ac agored – dwy ar y llawr gwaelod gan gynnwys un gyda mynediad anabl a thair ar y llawr uchaf. Y bwriad yw y bydd dwy ystafell wely wedi eu cwblhau ac ar gael erbyn canol mis Gorffennaf.

    Dywedodd Sally Roberts: “Roedd prynu’r capel yn sicr yn ragolwg eithaf brawychus, ond roeddwn wedi sylwi arno’n adfeilio o ddydd i ddydd yn y blynyddoedd diwethaf a theimlais y byddai’n barlwr te a llety gwely a brecwast gwych. Felly pan gwrddais â Carl, penderfynodd y ddau ohonom ei wneud yn gyd-fenter gan fachu ar y cyfle i brynu’r adeilad.

    “Rydym wedi derbyn gymaint o gefnogaeth gan gynghorwyr gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Busnes yng Nghymru, yn ogystal â’r gymuned. Rydym nawr yn canolbwyntio ar ddenu mwy o ymwelwyr o ardaloedd pellach. Mae’n bwysig ein bod yn cadw cysylltiad agos gyda meysydd eraill yn ardal y draphont ddŵr er mwyn gwella profiad ymwelwyr yn yr ardal oherwydd mae twristiaeth yn rhan mor allweddol o’r cymunedau hyn, yn enwedig gan ein bod mor agos i Langollen.”

    Dywedodd Carl Prottenger, a fagwyd ar ochr arall y draphont ddŵr ym Mroncysyllte: “Roedd y capel mewn cyflwr gwael ar ôl i ni ei brynu, ond ni chafodd hynny effaith ar ein penderfyniad. Penderfynom yn fuan iawn ein bod ni eisiau creu ‘waw ffactor’ go iawn wrth gerdded trwy’r drysau, a chredaf i ni gyflawni hynny gyda chymorth rhai o’r crefftwyr lleol gwych sydd wedi gweithio gyda ni. Rydym hyd yn oed wedi gwneud i’r gwaith coed gyd-fynd â’r pulpud gwreiddiol yr ydym wedi ei gadw fel rhan allweddol o’r safle.”

    Agorwyd drysau ‘Pontcysyllte Tea Room’ ym mis Chwefror ac fe’i agorwyd yn swyddogol gan yr Arglwydd Elis-Thomas, AC a Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ddydd Llun, 18 Mehefin 2018.

    Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig grantiau dan y Cynllun Cymorth Buddsoddi Mewn Twristiaeth ar gyfer ‘Prosiectau Nodweddiadol sy’n Sefyll Allan.’

    Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: Hoffwn longyfarch Sally a Carl ar eu gweledigaeth o botensial yr adeilad hanesyddol hwn a’i droi yn barlwr te arbennig. Yn ogystal â safle croesawu ychwanegol i’r ymwelwyr sy’n cael eu denu gan y Safle Treftadaeth Byd eiconig hwn, maent hefyd yn creu swyddi newydd yn y sector twristiaeth yng ngogledd ddwyrain Cymru. Gydag awyrgylch Capel Cymreig, y Traphont Ddŵr cyfagos ym Mhontcysyllte a’r cynnyrch Cymreig ar werth – mae gan ‘Pontcysyllte Chapel Tea Room’ naws am le arbennig a stori wych i’w hadrodd. Rwyf yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi’r fenter hon, ac rwyf yn dymuno’n dda i’r perchnogion wrth iddynt gwblhau’r cam nesaf o’r prosiect, sef y ddarpariaeth llety.”

    Dywedodd y Cynghorydd Rondo Roberts, Canghellor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer ward Cefn Gwlad Llangollen: “Mae Sally a Carl wedi ymroi gymaint o’u hamser, ymdrech ac arian i sicrhau bod y prosiect hwn yn llwyddiant, a hefyd wedi rhoi hwb i’r economi lleol gan greu swyddi newydd sbon a defnyddio cyflenwyr lleol trwy gydol y broses. Byddent yn parhau i wneud hyn wrth i’r busnes dyfu gan weithio gyda chynhyrchwyr bwyd yr ardal leol i roi gwir flas ar y profiad Cymreig. Dymunaf bob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol.”

    Mae’r holl Luniau/Fideos trwy garedigrwydd Mark Fetherstone

    Dilynwch ‘Pontcysyllte Chapel Tearoom’ ar Facebook a Twitter @ponttearoom

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Mae eich llais yn bwysig!

    Mae eich llais yn bwysig!

    Ydych chi’n aelod o’r gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn Wrecsam?

    Dyma’ch cyfle i gael dweud eich dweud. Fe’ch gwahoddir i fynychu cyfarfod rhanbarthol cyntaf ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng ngogledd Cymru.

    Pa unai ydych chi’n aelod o’r gymuned Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, yn gefnogwr neu’n ymarferydd, dewch draw i’r fforymau ymgynghori rhanbarthol rheolaidd cyntaf ar gyfer gogledd Cymru.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

    Dewch i ymuno â thrafodaeth ynglŷn â sut fywyd sydd gan bobl lleiafrifoedd ethnig. Gyda’ch gilydd gallwch gynnig datrysiadau i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau yn cwrdd ag anghenion Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn well.

    Fe fydd y cyfarfod yn gyfle gwych i ddod i adnabod eich gilydd a chwrdd â phobl newydd. Fe fydd yn gyfle i chwilio am ffyrdd i fynd i’r afael â hiliaeth a gwella mynediad pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig at wasanaethau yn ogystal â bod yn lle agored iddynt siarad am faterion sy’n effeithio ar y gymuned.

    Fe fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Nhŷ Pawb, ddydd Mercher, 27 Mehefin rhwng 12.30 – 2.30pm.

    I gael rhagor o wybodaeth

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Cydnabyddiaeth wych i gylch chwarae lleol

    Cydnabyddiaeth wych i gylch chwarae lleol

    Mae Little Gems a Little Treasures yn Ysgol Gynradd Victoria wedi cael gwobr wych gan Lywodraeth Cymru.

    Mae eu hymrwymiad i sicrhau iechyd eu rhai bach – gan gynnwys maetheg, iechyd y geg, gweithgarwch corfforol, chwarae, iechyd meddyliol ac emosiynol, lles a pherthnasoedd – wedi ennill gwobr Cynllun Iechyd a Chynaliadwyedd Cyn Ysgol iddynt.

    Maent hefyd wedi ennill gwobr Tiny Tums i gydnabod y bwyd y maen nhw’n ei baratoi a’i weini yn ogystal â’r Wobr Arian ar gyfer Cynllun Brwsio Dannedd Cynllun Gwên. Mae ganddynt fan awyr agored gwych i blant chwarae a dysgu yn ogystal â safonau uchel o ran diogelwch a hylendid.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

    Mae’r Cynllun Lleoliadau Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy yn gweithredu ar draws Cymru ac mae’n cael ei reoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gefnogi yn lleol gan Dîm Ysgolion Iach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

    Dywedodd Nerys Bennion, Swyddog Lleoliadau Cyn-Ysgol Iach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, “Mae Little Treasures a Little Gems wedi dangos bod iechyd a lles cyffredinol plant a staff yn flaenllaw iawn yn y lleoliad. Mae amgylchedd y lleoliad yn hyfryd y tu mewn a’r tu allan. Maent yn cofleidio pob menter sy’n gallu helpu i ddylanwadu ar arfer yn y lleoliad a gwneud y profiad i staff a phlant yn un arbennig iawn. Rwy’n siŵr y byddant yn parhau i hyrwyddo amgylchedd iach a hapus ar gyfer y plant a fydd yn derbyn eu gofal yn y dyfodol.”

    Dywedodd Janet Lloyd, goruchwyliwr y lleoliad; “Rydym wrth ein bodd o fod wedi cyflawni’r wobr a bydd iechyd a lles ein plant i gyd yn parhau i gael ei gynnwys drwy ein harfer.”

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Mae math newydd o oriel wedi agor yn Tŷ Pawb…

    Mae math newydd o oriel wedi agor yn Tŷ Pawb…

    Bydd siopwyr yn gallu tretio eu hunain yn Nhŷ Pawb, diolch i siop newydd sbon sydd wedi agor ei drysau bellach!

    Cafodd Gallery 01 ei ddatgelu’n swyddogol i’r cyhoedd gan Faer Wrecsam, y Cyng Andy Williams, mewn agoriad mawreddog ddydd Gwener.

    Mae’r siop newydd, sy’n seiliedig yn arcêd y de yn Nhŷ Pawb, yn arbenigo mewn brandiau mawr ar gyfer dillad achlysurol, gemwaith, esgidiau, persawr ac anrhegion, yn ogystal â chynnyrch bath a chorff.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

    Siop newydd ac unigryw i Wrecsam

    Dywedodd Ashley Vaughan-Pearson, Rheolwr Gallery 01: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi llwyddo i ddiogelu un o’r unedau siop yn Nhŷ Pawb. Mae cyflwr presennol y cynnig siopa yn Wrecsam yn gwneud lle ar gyfer siopau fel ni i baratoi’r ffordd ar gyfer rhagor o siopau annibynnol a all gyflwyno rhywbeth newydd ac unigryw i Wrecsam.

    “Nid yw pawb am brynu dillad ar-lein heddiw. Maen nhw am allu gweld, teimlo a rhoi cynnig ar yr eitemau a gallu siarad wyneb i wyneb gyda’r staff sy’n gweithio yno.

    “Rwyf hefyd wrth fy modd bod fy chwaer, Lea, wedi gallu ymuno â ni ar gyfer yr agoriad. Mae hi’n gweithio fel parafeddyg Ymateb Cyntaf HART (Tîm Ymateb Ardal Beryglus) ym Manceinion ac enillodd wobr Merch y Flwyddyn yn 2017 am fod yn un o’r ymatebwyr cyntaf pan ddigwyddodd bomio Arena Manceinion.

    2018 yw blwyddyn y ferch, ac mae hon yn siop sy’n arbenigo mewn dillad ac ategolion merched felly ni allwn feddwl am unrhyw un mwy delfrydol ac ysbrydoledig i’m helpu i agor y siop, na Lea.”

    Mwy o fusnesau newydd yn agor yn Tŷ Pawb

    Gallery 01 yw un o dri busnes newydd i agor yn Nhŷ Pawb yn yr wythnosau diwethaf. Mae’r ddau arall yn cynnwys Stiwdio Trin Gwallt Kamilla, a Teenage Wildlife, sy’n gwerthu casgliad eclectig o recordiau finyl a dillad retro.

    Dywedodd y Maer: “Rwyf wrth fy modd o weld manwerthwr arall o ansawdd uchel yn symud i Dŷ Pawb. Mae’r stoc yma yn edrych yn wych, ac rwy’n siŵr y bydd ymwelwyr newydd wrth eu bodd gyda beth sydd ar gael.

    “Gyda’r ddau fusnes arall yma sydd wedi agor yn ddiweddar, a’r farchnad a stondinau neuadd fwyd presennol, mae hyn yn newyddion cadarnhaol iawn i Wrecsam a cham arall i’r cyfeiriad iawn i’n rhoi ar fap cyrchfannau siopa deniadol.”

    Dywedodd y Cyng Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’n hyfryd gweld y stondinau marchnad yn Nhŷ Pawb yn cynnwys gymaint o amrywiaeth o fusnesau eclectig.

    “Mae rhywbeth i bawb yma, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn helpu i barhau i ddenu ymwelwyr newydd dros yr haf a thyfu enw da Tŷ Pawb fel un o’r prif atyniadau yn y dref. Mae’r cyfuniad o farchnadoedd, celf a digwyddiadau cymunedol yn Nhŷ Pawb yn gyflawniad gwych i’r dref a rhywbeth y dylem fod yn falch iawn ohono.”

    Mae Gallery 01 ar agor o 10 am-5:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9:30 am-5:30pm ar ddydd Sadwrn.

    Yn y llun (chwith i’r dde): Ashley Vaughan-Pearson (Perchennog, Gallery 01), Y Cyng Andy Williams (Maer Wrecsam), Luke Williams (mab y Maer), Lea Vaughan.

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    Each i wefan Tŷ Pawb yma.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://bit.ly/2s6hsrw”] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Yr hynod rhyfeddol a’r lleol –  Arddangosfeydd newydd ar eu ffordd i Tŷ Pawb…

    Yr hynod rhyfeddol a’r lleol – Arddangosfeydd newydd ar eu ffordd i Tŷ Pawb…

    Mae Tŷ Pawb yn paratoi i lansio dwy arddangosfa gelf newydd gyffrous i bawb eu mwynhau!

    Bydd arddangosfa ‘Wrexham is the Name’ yn dathlu Wrecsam ei hun ac mae wedi’i hysbrydoli gan storïau lleol ac wedi’i chreu gan artistiaid lleol.

    Bydd ‘Nascent Inclinations’ yn gyfle i weld gwaith graddedigion celfyddyd gain dawnus o Brifysgolion ledled ein rhanbarth lleol.

    Bydd y ddwy arddangosfa ar gael i’w gweld yn rhad ac am ddim a bydd pob math o waith gwreiddiol a dyfeisgar yn cael eu harddangos. Bydd rhywbeth ar gael i bawb ei fwynhau!

    Byddwn hefyd yn cynnal agoriad arbennig i gyflwyno’r arddangosiadau newydd pan fyddant yn lansio ddydd Sadwrn 30 Mehefin.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

    Wrecsam yw’r Enw

    Ydych chi’n cofio Dydd Llun Pawb? Bydd yr arddangosfa newydd hon yn ailgipio’r diwrnod hwnnw pan ddaeth miloedd o bobl i ganol tref Wrecsam i ddathlu agoriad Tŷ Pawb.

    Ym mis Tachwedd y llynedd, dewisodd Tŷ Pawb chwech o artistiaid i greu swfenîr a ysbrydolwyd gan stori benodol o orffennol Wrecsam.

    Dewiswyd y chwe stori a ysbrydolodd y swfeniriau gan y cyhoedd yr haf diwethaf o restr hir o 25 ohonynt, ac fe’u datblygwyd gan yr artistiaid Sophia Leadill, John Merrill, Marcus Orlandi, Nicholas Pankhurst, Martha Todd a Bedwyr Williams.

    Arweiniodd y prosiect at gasgliad amrywiol o arteffactau, o gyhoeddiadau argraffedig i sgarffiau pêl-droed.

    Bydd yr arddangosfa newydd yn cynnwys chwech o swfeniriau ar thema Wrecsam ynghyd â gwrthrychau a delweddau eraill.

    Bydd y gweithiau byrlymus, digrif a theimladwy yn cael eu harddangos ochr yn ochr ag eitemau amrywiol o ddogfennaeth Dydd Llun Pawb yn ogystal â chyfweliadau â phob un o’r chwech artist.

    Rydym yn parhau i gasglu storïau fel rhan o’r arddangosfa hon. Os oes gennych stori am Wrecsam yr hoffech ei rhannu, dewch draw a llenwch un o’n cardiau stori yn Oriel 2 yn Nhŷ Pawb!

    Tueddiadau Eginol

    Bydd yr arddangosfa hon yn gyfle i ddathlu cyfoeth o ddoniau artistig newydd o’r ardal leol.

    Bydd partneriaid gan gynnwys Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Phrifysgol Hope Lerpwl yn cael eu cynrychioli gan dri artist graddedig rhagorol.

    Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys gwaith myfyrwyr o gyrsiau ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caer, Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol John Moores Lerpwl.

    Bydd ‘Nascent Inclinations’ yn agor ar y cyd ag arddangosfa ‘Wrexham is the Name’ ddydd Sadwrn 30 Mehefin 2018 a bydd ymlaen tan 14 Gorffennaf yn Oriel Un.

    Dewch draw i’r digwyddiad agoriadol.
    Byddwn yn cynnal digwyddiadau agoriadol yn rhad ac am ddim ddydd Sadwrn 30 Mehefin i gyflwyno’r ddwy arddangosfa newydd.

    Bydd nifer o’r artistiaid, myfyrwyr ac unigolion sy’n cymryd rhan yn yr arddangosfeydd yn bresennol a bydd lluniaeth ar gael.

    Croeso i bawb fynychu!

    Arddangosfa y gall gogledd Cymru fod yn falch o

    Dywedodd Jo Marsh, Arweinydd y Celfyddydau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb: “Mae’r broses o ddatblygu’r chwe swfenîr o’n harddangosfa Wrexham is the Name wedi dadorchuddio storïau rhyfedd a rhyfeddol.

    “Mae’r chwech artist wedi gwneud gwaith ardderchog wrth ddehongli’n treftadaeth a chreu rhywbeth y bydd ymwelwyr Tŷ Pawb am ei feddiannu a’i drysori.

    “Mae dod â’r doniau rhagorol o’r chwe sefydliad lleol ar gyfer ein harddangosfa Nascent Inclinations yn ddehongliad cwbl unigryw ond cywir o genhadaeth Tŷ Pawb.

    “Nid yn unig y mae’n arddangos allbwn artistig anhygoel ein rhanbarth, mae hefyd yn tynnu sylw at leoliad daearyddol manteisiol Wrecsam. Mae hon yn arddangosfa y gall gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr fod yn falch ohoni.”

    Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn nhreftadaeth Wrecsam i ymweld â’r arddangosfa hon yn Nhŷ Pawb. Mae’n enghraifft ardderchog o’n cymunedau lleol sy’n cynnwys eu hunain ym mywyd Tŷ Pawb.

    “Mae’r swfeniriau a gynhyrchwyd wedi cael eu hysbrydoli gan nifer o atgofion o’r Wrecsam a fu, ac rwy’n siŵr y bydd y cyhoedd yn cael atgofion yr un mor annwyl amdanynt.”

    • Bydd arddangosfa ‘Wrecsam Ydi’r enw’ i’w gweld yn Nhŷ Pawb o 30 Mehefin tan 19 Awst yn Oriel 2.
    • Bydd arddangosfa ‘Tueddiadau Eginol’ i’w gweld yn Nhŷ Pawb o 30 Mehefin tan 15 Gorffennaf yn Oriel 1
    • Bydd y digwyddiadau agoriadol ar gyfer y ddwy arddangosfa yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn 30 Mehefin – 1pm ar gyfer Wrecsam Ydi’r Enw a 5pm ar gyfer Tueddiadau Eginol
    • Mae’r holl arddangosfeydd a digwyddiadau agor yn rhad ac am ddim i fynychu

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    Each i wefan Tŷ Pawb yma.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://bit.ly/2s6hsrw”] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]