Categori: Pobl a Lle

  • 2,022 o geginau newydd…a dal i gyfrif

    2,022 o geginau newydd…a dal i gyfrif

    Mae Cyngor Wrecsam ar y trywydd cywir i gyflawni’r safon newydd ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

    Mae’r Cyngor yn moderneiddio ei 11,200 o gartrefi i sicrhau eu bod yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru erbyn 2020.

    Mae adroddiad diweddar i’n Pwyllgor Craffu Tai a’r Amgylchedd yn dweud bod cynnydd yn ‘hynod o gadarnhaol’.

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    Buddsoddiad mwyaf erioed

    Mae sawl tenant yn cael ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd. Mae gwelliannau eraill hefyd fel systemau gwres canolog newydd, ailosod toeau, llwybrau gardd, ffensys ac ynysu waliau allanol lle bo angen.

    Mae’r gwaith a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:

    • 2,022 o geginau newydd
    • 2,039 o ystafelloedd ymolchi newydd
    • 563 o systemau gwres canolog
    • 981 o achosion o ailweirio trydanol
    • 868 eiddo yn cael eu hail-doi
    • 79 eiddo wedi cael gwaith insiwleiddio waliau allanol
    • 540 eiddo wedi cael llwybrau gardd, ffensys a gwelliannau allanol eraill

    Cafodd rhaglen ariannu o £163m (i’w fuddsoddi hyd at 2020) ei gymeradwyo gan Fwrdd Gweithredol y Cyngor yn 2016.

    Buddsoddwyd £52m, y swm uchaf erioed rhwng mis Ebrill 2016 a mis Ebrill 2017, gan gynnwys grant atgyweirio mawr £7.5m gan Lywodraeth Cymru.

    Buddion ychwanegol

    Mae’r economi leol wedi elwa hefyd, gyda dros 60 o brentisiaid – gan gynnwys nifer sy’n astudio yng Ngholeg Cambria – yn cael eu cyflogi gan gontractwyr y cyngor.

    Gallwch ddysgu mwy am Safon Ansawdd Tai Cymru ar ein prif wefan (DOLEN), gan gynnwys amserlen yn dangos pryd y cyflawnir gwaith yn eich ardal chi.

    Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

  • Mae O Dan y Bwâu yn ddigwyddiad cerddorol anhygoel… a dyma pam

    Mae O Dan y Bwâu yn ddigwyddiad cerddorol anhygoel… a dyma pam

    Cymerwch Safle Treftadaeth y Byd. Ychwanegwch ychydig o gerddoriaeth, tân gwyllt ac awyrgylch gŵyl gwefreiddiol. Beth gewch chi?

    O Dan y Bwâu!

    Am y bumed flwyddyn yn olynol bydd y gyngerdd awyr agored hon yn cael ei chynnal ar odre Traphont Ddŵr Pontcysyllte – rhan o Safle Treftadaeth y Byd Wrecsam.

    DERBYNIWCH NEWYDDION A GWYBODAETH GAN GYNGOR WRECSAM YN SYTH BIN DRWY FY NIWEDDARIADAU.

    Mae’r tocynnau ar gyfer y cyngerdd bellach ar werth, ond os oes arnoch chi angen rhywbeth i’ch atgoffa o wychder y digwyddiad yma, gwyliwch ein pigion gorau o’r llynedd…

    Trefnir y digwyddiad gan Gyngor Wrecsam ac mae’n cynnwys rhai o fandiau gorau’r fro.

    Mae yna ffair fach i blant, digon o luniaeth ac arddangosfa dân gwyllt anhygoel ar ddiwedd y noson – gan oleuo’r draphont ddŵr fawreddog yn erbyn y gorwel.

    Felly peidiwch ag oedi – archebwch eich tocynnau rŵan cyn iddyn nhw fynd i gyd.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.eventbrite.co.uk/e/underneath-the-arches-2017-tickets-34302291076″]ARCHEBU FY NHOCYNNAU [/button]

  • 8 peth y gallwch ei wneud yr haf hwn – am ddim!

    8 peth y gallwch ei wneud yr haf hwn – am ddim!

    Gyda’r gwyliau yn nesáu, bydd rhieni a gofalwyr yn ceisio meddwl am ffyrdd newydd i ddifyrru plant.

    Mae’n hawdd anghofio am yr holl bethau gwych ar eich carreg drws, felly dyma 8 o bethau hwyliog i’w gwneud gyda’ch plant yr haf hwn.

    Ac maent i gyd am ddim. Canlyniad!

    CEWCH NEWYDDION CYFLYM A GWYBODAETH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    1. Amgueddfa Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

    Mae’r amgueddfa yn lle gwych i blant ac mae’n cael digon o adolygidau 5-seren gan rieni hapus.

    Dilynwch dudalen Facebook yr amgueddfa.

    2. Parc Gwledig Tŷ Mawr

    O fewn tafliad carreg i Draphont Ddŵr Pontcysyllte, mae’r parc gwledig bendigedig hwn yn cynnig llawer o hwyl awyr agored – gan gynnwys anifeiliaid, cae chwarae a theithiau cerdded a safleoedd picnic.

    3. Diwrnod Chwarae Wrecsam

    Pwll tywod enfawr, chwaraeon dŵr, chwarae gyda sothach a siglo ar y rhaffau. Mae o ’mlaen!

    Bydd Wrecsam yn dathlu Diwrnod Chwarae Cyhoeddus ddydd Mercher, 2 Awst.

    4. Parc Gwledig Dyfroedd Alyn

    Parc gwledig gwych arall lle gall plant losgi egni, profi natur a chael hwyl.

    5. Llyfrgell Wrecsam

    Mae plant yn caru llyfrau. Felly gall ymweliad â’ch llyfrgell leol fod yr ateb perffaith.

    Mae hefyd yn lle gwych i wneud gwaith cartref a phrosiectau’r haf yn ystod gwyliau’r ysgol.

    6. Hyfforddiant tennis am ddim yn Bellevue

    Mae yna lawer yn digwydd ym Mhark Bellevue yr haf hwn, gan gynnwys hyfforddiant tennis am ddim ar ddydd Iau, 3 Awst.

    7. Clwb ffilm yn y Stiwt

    Allwch chi ddim curo hud y ffilmiau. Ewch i’r clwb ffilm i blant a phobl ifanc yn Theatr y Stiwt Rhos.

    8. Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant

    Archwiliwch y teithiau cerdded yn y coetir cyfagos, cysylltwch â natur a mwynhau’r amrywiol weithgareddau sy’n gyfeillgar i blant ym Melin y Nant.

    Wrth gwrs, mae yna bob amser y siawns y gall rhywbeth newid – gall gweithgaredd gael ei ganslo, ei ohirio neu ei symud, er enghraifft.

    Felly os ydych angen tawelwch meddwl, mae’n syniad da i gysylltu â’r lleoliad neu drefnwyr cyn cychwyn.

    Cewch newyddion cyflym a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRU[/button]