Wrth i ni nesáu at gyfnod prysur masnachu gyda’r nos y Nadolig yng nghanol y ddinas, byddwn yn cau Stryt Yorke o Ddôl yr Eryrod at y Stryt Fawr a’r Stryd Fawr o Stryt Caer i Stryt yr Abad.
Bydd y ffyrdd ar gau rhwng 6pm a 6am bob dydd Gwener a dydd Sadwrn ar y penwythnosau canlynol:
- Dydd Gwener 25 Tachwedd a dydd Sadwrn 26 Tachwedd
- Dydd Gwener 2 Rhagfyr a dydd Sadwrn 3 Rhagfyr
- Dydd Gwener 9 Rhagfyr a dydd Sadwrn 10 Rhagfyr
- Dydd Gwener 16 Rhagfyr a dydd Sadwrn 17 Rhagfyr
- Dydd Gwener 23 Rhagfyr a dydd Sadwrn 24 Rhagfyr
- Dydd Gwener 30 Rhagfyr a dydd Sadwrn 31 Rhagfyr
Bydd arwyddion i ddangos y llwybrau amgen a bydd mynediad i gerddwyr drwy gydol y cyfnod cau.
Bydd mynediad yn cael ei gynnal i’r busnesau hynny o fewn y ffordd ar gau, ond anogwn i berchnogion busnes weithio o amgylch yr amseroedd hyn lle bynnag bosibl er mwyn gwneud y mwyaf o fuddion cau’r ffordd.
Mae angen cau’r ffyrdd yn dilyn cais gan Heddlu Wrecsam gan eu bod yn dweud bod mwy o bobl yng nghanol y ddinas yn ystod y nos ac mae ganddynt bryderon am ddiogelwch y cyhoedd.
Ni fydd hwn yn sefyllfa barhaol a byddwn yn parhau i edrych am ddatrysiadau tymor hirach i wella diogelwch ar y ffyrdd a materion traffig yng nghanol y ddinas.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol ar gyfer yr Amgylchedd, “Mae’n bwysig sicrhau diogelwch y cyhoedd ar nosweithiau prysur iawn ac oherwydd hyn rydym wedi penderfynu, ar gais yr heddlu, i gau’r ffyrdd a enwir ar y dyddiadau uchod.
“Ni fydd hwn yn sefyllfa barhaol a byddwn yn parhau i edrych am ddatrysiadau tymor hirach i wella diogelwch ar y ffyrdd a materion traffig yng nghanol y ddinas.”
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI