Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd ar y blog hwn yr wythnos ddiwethaf (29.5.20).
Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw
• Arhoswch gyda ni wrth i ni geisio ailddechrau rhai o’n gwasanaethau, yn unol â newidiadau i’r cyfyngiadau ar symud dros y misoedd nesaf. Gwerthfawrogwn eich amynedd a’ch cefnogaeth.
• Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhoi negeseuon ar Twitter gyda chyngor defnyddiol i’ch helpu i ddiogelu rhag twyll y system olrhain.
• Bydd ysgolion yn ailagor ar 29 Mehefin. Peidiwch â phoeni…mae eich ysgol eisoes wedi dechrau trefnu pa ddyddiau y bydd eich plant yn gallu mynychu, a byddent yn rhoi gwybod i chi mewn digon o amser.
• Mae seremonïau priodas a phartneriaeth sifil wedi cael eu hatal dros dro tan 31 Gorffennaf.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Bydd pethau’n wahanol…
Wrth i ni addasu i’n ‘arferion newydd’ – ac wrth i rai mesurau cyfyngiadau ar symud ddechrau llacio – efallai eich bod yn ystyried pryd fydd gwasanaethau amrywiol y cyngor ar gael unwaith eto.
Fel yr ydych yn ymwybodol, rydym wedi gallu ailagor eich canolfannau ailgylchu gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol yn eu lle.
Rydym wedi dechrau cynnal rhai o’n cyfarfodydd y cyngor drwy ddefnyddio Zoom. Bydd ein hysgolion yn ailagor ar 29 Mehefin, gyda mesurau diogelwch priodol yn eu lle.
Felly, rydym yn gwneud camau bychain tuag at adferiad.
Ond mae’n rhaid i ni wneud pethau’n wahanol, ac mae’n bwysig nad ydym yn gweithredu’n rhy gyflym a dechrau gwasanaethau heb gynllunio’n ofalus.
Rydym yn parhau i fod mewn argyfwng iechyd cyhoeddus, ac mae’n rhaid i ni gydbwyso’r peryglon i staff a thrigolion gyda’r dyhead i ailddechrau gwasanaethau eto.
Bydd yn amser hir cyn i’r DU ddod allan o’r argyfwng. Felly hyd yn oed wrth i ni geisio cael mwy o wasanaethau’r cyngor yn ôl i’r drefn arferol, bydd y ‘drefn arferol’ yn newydd.
Er enghraifft, mae cadw pellter cymdeithasol yn golygu nad allwn gael yr un nifer o bobl yn ein hadeiladau.
Bydd pethau’n wahanol i chi, fel cwsmeriaid ac aelodau o’r cyhoedd, a byddent yn wahanol i ni… fel staff a chynghorwyr.
Mae pobl yn Wrecsam wedi bod yn hynod o amyneddgar a chefnogol dros y misoedd diwethaf, wrth i ni atal gwasanaethau neu newid y ffordd yr ydym yn eu darparu.
Felly, arhoswch gyda ni wrth i ni geisio ailddechrau rhai o’n gwasanaethau yn raddol, yn unol â newidiadau i’r cyfyngiadau ar symud dros y misoedd nesaf.
Gwerthfawrogwn eich amynedd a’ch cefnogaeth.
Diolch.
Diogelwch eich hunain rhag twyll y system olrhain
Fel yr ydych yn ymwybodol, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyflwyno’r rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu ers 1 Mehefin.
Y nod yw arwain Cymru allan o’r pandemig drwy system monitro iechyd yn y gymuned, gan gynnwys ‘olrhain cyswllt’ – dull profedig o reoli lledaeniad clefydau heintus.
Mae’n cynnwys olrhain y bobl sydd wedi dod i gyswllt â rhywun gyda chlefyd heintus, a rhoi gwybod iddynt beth i’w wneud (e.e. cael prawf, hunan ynysu).
Felly os ydych wedi dod i gyswllt â rhywun sydd wedi cael cadarnhad bod ganddynt Covid-19, efallai y byddwch yn derbyn galwad gan weithiwr sy’n olrhain cyswllt.
Mae’r rhaglen yn hynod o bwysig ar gyfer Cymru, ac mae’n bwysig ein bod oll yn cydweithredu er mwyn chwarae ein rhan.
Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn wyliadwrus o dwyll posibl. Mae’r neges Twitter hon gan Heddlu Gogledd Cymru yn cynnig cyngor …
Mae'r gwasanaeth Profi a Thracio yn hanfodol bwysig, ond mae hefyd yn rhoi'r cyfle i droseddwyr esgus bod yn olrheinwyr er mwyn cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol.
Gwarchodwch eich hun drwy sicrhau fod yr un ar ben arall y ffon yn rhywun dilys.
👉https://t.co/BfSvXbU1zj pic.twitter.com/JnSlt3LWfH
— Heddlu Gogledd Cymru (@HeddluGogCymru) June 3, 2020
Ysgolion yn ailagor ar 29 Mehefin
Yn gynharach yr wythnos hon – cyhoeddodd Kirsty Williams – Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru y bydd ysgolion yn ailagor ddydd Llun, 29 Mehefin.
Byddent yn parhau i fod ar agor tan ddydd Gwener, 24 Gorffennaf.
Y nod yw rhoi cyfle i ddisgyblion “ddod i’r ysgol, dal fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi”.
Pwysleisiodd y Gweinidog na fyddai holl ddisgyblion yn mynychu bob diwrnod, ac ni fydd mwy na thraean yn yr ysgol ar un adeg.
Bydd eich ysgol yn cysylltu â chi
Yr wythnos nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau i helpu i sicrhau bod dychwelyd i’r ysgol yn digwydd mewn ffordd esmwyth ac mor ddiogel â phosibl, ac mae asesiadau risg hefyd yn cael eu cynnal mewn ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol.
Fodd bynnag, mae’n bosibl na fydd holl ysgolion yn gallu cynnig yr un lefel o ddarpariaeth – oherwydd ffactorau megis capasiti yr adeilad a staffio – a’r flaenoriaeth fydd sicrhau bod disgyblion a staff mor ddiogel â phosibl.
Mae eich ysgol eisoes wedi dechrau trefnu pa ddiwrnodau y bydd eich plant yn gallu mynychu, a byddent yn rhoi gwybod i chi mewn da bryd cyn 29 Mehefin.
Felly peidiwch â phoeni…nid oes angen i chi gysylltu â’ch ysgol ar hyn o bryd.
Byddwch hefyd yn darparu gwybodaeth am gludiant ysgol ac am drefniadau cinio ysgol cyn gynted â phosibl.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Priodasau a phartneriaethau sifil wedi’u gwahardd tan 31 Gorffennaf
Ar 24 Mawrth, gwaharddodd Gwasanaeth Cofrestru Wrecsam holl seremonïau priodas, partneriaeth sifil a seremonïau eraill (adnewyddu addunedau, enwi babanod ac ati) mewn lleoliadau trwyddedig tan yr hysbyswyd yn wahanol.
Roedd y gwaharddiad hwn tan 30 Mehefin i ddechrau, Fodd bynnag, wrth i fesurau cadw pellter cymdeithasol barhau i fod yn rhan o’n bywydau, rydym wedi penderfynu ymestyn y gwaharddiad tan 31 Gorffennaf.
Os cewch eich effeithio gan y drefn hon, cysylltwch â ceremonies@wrexham.gov.uk – rhowch eich enw, dyddiad, lleoliad y briodas a rhif ffôn cyswllt – a byddwn yn cysylltu â chi.
Gwasanaethau Cofrestru Eraill
Yn anffodus, ni allwn ddarparu apwyntiadau ar gyfer genedigaethau, hysbysiadau o briodas na seremonïau dinasyddiaeth. Rhown wybod i chi pan all apwyntiadau ailddechrau drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Fodd bynnag, gall rieni barhau i hawlio Budd-Dal Plant neu Gredyd Cynhwysol cyn cofrestru genedigaeth eu plentyn.
All yr arian hwn gynorthwyo eich busnes? Gwnewch gais erbyn 30 Mehefin
Rydym wedi cynorthwyo 1,914 o fusnesau a masnachwyr yn y fwrdeistref sirol drwy ddarparu £22.77m mewn grantiau busnes ers dechrau’r cyfyngiadau ar symud.
Mae hyn yn cynnwys elusennau bychain a chlybiau chwaraeon cymunedol yn dilyn y rheolau cymhwysedd newydd.
Fodd bynnag, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y bydd y cynllun grantiau yn cau ar gyfer ceisiadau ar 30 Mehefin.
Felly mae hwn yn alwad ar gyfer unrhyw fusnes sydd heb dderbyn benthyciad busnes neu gyllid gan y Gronfa Cadernid Economaidd, i fynd i’n gwefan i weld os ydynt yn gymwys – ac os ydynt – i wneud cais.
Cewch yr holl wybodaeth berthnasol ar ein safle, gan gynnwys meini prawf newydd ar gyfer elusennau bychain a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol.
Rydym yn gofyn i berchnogion siopau, swyddfeydd, siopau trin gwallt, garej a gorsafoedd petrol yn benodol, a chanolfannau neu adeiladau cymunedol nad ydynt yn perthyn i’r cyngor ystyried gwneud cais.
Nodyn Atgoffa – ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19
Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:
• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth) oddeutu 5pm.
• Datganiadau dyddiol gan Lywodraeth Cymru tua 12.30pm.
• Sesiynau briffio swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19