Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cymorth gyda chostau byw – dewch o hyd i’r hyn y mae gennych hawl iddo
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cymorth gyda chostau byw – dewch o hyd i’r hyn y mae gennych hawl iddo
ArallY cyngor

Cymorth gyda chostau byw – dewch o hyd i’r hyn y mae gennych hawl iddo

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 18, 2022 1:13 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Cymorth gyda chostau byw
RHANNU

O ran costau byw, gallai gwneud yn siŵr eich bod yn hawlio’r holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

Cynnwys
  • Hawliwch yr hyn y mae gennych hawl iddo
  • Sesiynau galw heibio i gael gwybodaeth
  • Cadwch yn gynnes
  • Cymorth ymarferol i gymunedau

Mae grantiau a budd-daliadau amrywiol a allai eich helpu â phethau fel cynhesu eich cartref, anfon eich plant i’r ysgol a thalu eich rhent.

Gallwch hefyd gael cyngor ar sut i leihau eich biliau tŷ, a gofalu am eich iechyd os ydych yn poeni am arian.

Yn ddiweddar, bu i Gyngor Wrecsam sefydlu gweithgor trawsbleidiol arbennig i roi cymaint â phosibl o gymorth i gymunedau lleol, ac mae’n annog pobl i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael.

Hawliwch yr hyn y mae gennych hawl iddo

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar wefan y cyngor ar www.wrecsam.gov.uk

Mae’n cynnwys gwybodaeth am fudd-daliadau a grantiau, argymhellion ar sut i leihau eich biliau tŷ, ymdopi â phryderon ariannol a materion cysylltiedig eraill.

Gallwch hefyd ffonio Canolfan Cyngor ar Bopeth am gyngor cyffredinol a thalebau banciau bwyd ar 0300 330 1178 (dydd Llun, Mercher a Gwener 9.30am-2pm).

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Sesiynau galw heibio i gael gwybodaeth

Mae sesiynau galw heibio i gael cyngor, lle gallwch siarad â rhywun wyneb yn wyneb, hefyd yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd ar draws y fwrdeistref sirol.

  • Dydd Gwener, 18 Tachwedd 2022 – Llyfrgell y Waun, 10am – 2pm
  • Dydd Gwener, 2 Rhagfyr 2022 – Llyfrgell Coedpoeth, 2pm – 5pm
  • Dydd Gwener, 16 Rhagfyr 2022 – Llyfrgell Rhos, 11am – 3pm
  • Dydd Gwener, 6 Ionawr 2023 – Llyfrgell Gwersyllt, 2pm – 5pm
  • Dydd Gwener, 20 Ionawr 2023 – Llyfrgell Rhiwabon, 2pm – 5pm
  • Dydd Gwener, 3 Chwefror 2023 – Llyfrgell Llai, 2pm – 5pm
  • Dydd Gwener, 17 Chwefror 2023 – Llyfrgell Wrecsam, 10am – 2pm

Dewch draw i gael gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael.

Ac os ydych chi’n denant tŷ Cyngor, gallwch fynd i un o’r digwyddiadau canlynol i gael cyngor ar arbed ynni, lleihau biliau, cyngor ar ddyledion a chymorth ariannol:

  • Dydd Gwener, 18 Tachwedd – Canolfan Adnoddau Gwersyllt, 10am-1pm
  • Dydd Llun, 21 Tachwedd – Canolfan Gymunedol Johnstown, 1pm-4pm
  • Dydd Iau, 24 Tachwedd – Canolfan Hamdden Plas Madoc, 1pm-3pm

Cadwch yn gynnes

Gyda biliau tanwydd yn codi, mae llawer o bobl yn poeni am wresogi eu cartrefi’r gaeaf hwn.
Oeddech chi’n gwybod bod yr holl lyfrgelloedd cyhoeddus ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam wedi agor eu drysau i ddarparu ‘Llochesau Cynnes’?
Mae’r rhain yn llefydd y gallwch fynd iddynt i gadw’n gynnes ac yn gyfforddus yn ystod y dydd.
Mae’r llyfrgelloedd sy’n cymryd rhan yn cynnwys Brynteg, Cefn Mawr, y Waun, Coedpoeth, Gwersyllt, Llai, Owrtyn, Rhos, Rhiwabon a Wrecsam.

Cymorth ymarferol i gymunedau

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, sy’n cadeirio’r grŵp: “Mae’r argyfwng costau byw yn her anferth ac mae’n mynd i fod yn aeaf anodd i lawer o bobl.

“Dyna pam mae’r holl bleidiau gwleidyddol ar y Cyngor yn gweithio gyda’i gilydd i geisio darparu cymaint o gymorth ymarferol â phosibl i’n cymunedau.

“Dyna pam rydym yn darparu cymorth ychwanegol i Fanc Bwyd Wrecsam, Canolfan Cyngor ar Bopeth ac asiantaethau lleol eraill hefyd.

“Os nad ydych wedi gwneud eisoes, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa gefnogaeth y mae gennych hawl iddo. Ewch ar wefan y Cyngor am wybodaeth, neu ewch i un o’n digwyddiadau galw heibio i gael cymorth a chyngor.”

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Grantiau Lleoedd Cynnes – mynegiant o ddiddordeb

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Shopping in Wrexham Late Night Football Club yn cael ei ffilmio yn Wrecsam gan y BBC cyn pob un o gemau Cymru
Erthygl nesaf Road clean up Gwaith cynnal a chadw arferol priffyrdd i fynd rhagddo

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English