Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dathlu llwyddiannau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Dathlu llwyddiannau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Digwyddiadau

Dathlu llwyddiannau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 9, 2025 10:35 am
Rhannu
Darllen 2 funud
eisteddfod wrecsam 2025
RHANNU

Clywodd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn ei gyfarfod diweddar fod prifwyl Wrecsam ymhlith yr Eisteddfodau mwyaf llwyddiannus ers blynyddoedd.

Yn ôl y trefnwyr, tyrrodd miloedd i’r Maes yn Is-y-Coed ar gyrion Wrecsam yn ystod mis Awst, gyda’r ŵyl yn talu’i ffordd. Eleni, cafwyd mwy o siaradwyr Cymraeg newydd nag erioed, a nododd 17% o ymwelwyr fod ymweld â’r Eisteddfod neu gymryd rhan yn y gweithgareddau cymunedol cyn yr ŵyl wedi’u helpu i ddysgu Cymraeg neu wedi’u hysbrydoli i ddechrau dysgu’r iaith.

Mae ymchwil ar ddiwedd yr ŵyl yn dangos bod nifer yr ymwelwyr am y tro cyntaf wedi mwy na dyblu ers Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016 – y tro diwethaf i’r ŵyl gael ei chynnal ger y ffin. Yn ogystal, dywedodd 93% o ymwelwyr eu bod yn bwriadu dychwelyd yn y dyfodol.

Hwn oedd cyfarfod olaf Gethin Thomas fel Cadeirydd y Cyngor, a diolchwyd iddo am ei ymroddiad a’i gyfraniad dros y blynyddoedd. Yn ogystal â bod yn Gadeirydd, bu’n Is-lywydd Llys yr Eisteddfod. Talwyd teyrnged hefyd i’r Is-gadeirydd, Heulwen Jones, wrth iddi gwblhau ei chyfnod o chwe blynedd.

Yn dilyn marwolaeth D Hugh Thomas, Cymrawd yr Eisteddfod, yn gynharach eleni, a phleidlais ymysg aelodau’r Cyngor, cyhoeddodd Nic Parry, Llywydd y Llys a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli, y bydd Gethin Thomas yn cael ei anrhydeddu’n Gymrawd yn ystod Eisteddfod y Garreg Las y flwyddyn nesaf. Gyda dim ond pum Cymrawd, dyma’r anrhydedd uchaf a roddir am oes o wasanaeth i’r Brifwyl.

Ar ddiwedd y cyfarfod, cyhoeddwyd mai Siân Eirian, cyn Gyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau, fydd yn olynu Gethin Thomas fel Cadeirydd y Cyngor, gyda’r cyn-aelod Seneddol Elfyn Llwyd yn Is-gadeirydd. Bydd y ddau’n dechrau eu swyddi ym mis Ionawr am gyfnod o dair blynedd.

Dathlu llwyddiannau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Dathlu llwyddiannau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Dathlu llwyddiannau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Dathlu llwyddiannau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Dathlu llwyddiannau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Dathlu llwyddiannau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Dathlu llwyddiannau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Dathlu llwyddiannau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol Parking Wrecsam v Watford – dewch i barcio a theithio
Erthygl nesaf The Maelor School in Penley, Wrexham Canmol Ysgol Maelor am ethos cynhwysol, addysgu effeithiol ac arweinyddiaeth gref yn Adroddiad diweddaraf Estyn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Elevate Conference
Digwyddiadau

Cynhadledd Am Ddim Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam yn Dychwelyd 6 Tachwedd

Medi 30, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Digwyddiadau

Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam

Medi 23, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English