Fel chi, rydyn ni wedi cael llond bol ar y lefelau annerbyniol o dipio anghyfreithlon sy’n digwydd yn y fwrdeistref sirol.
Dyna pam rydyn ni wedi cyflwyno camerâu Teledu Cylch Caeëdig symudol a fydd yn caniatáu i ni fod yn hyblyg ac ymateb i adroddiadau o dipio anghyfreithlon, yn enwedig lle rydyn ni’n gweld digwyddiadau dro ar ôl tro. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y camerâu hyn yn ein cynorthwyo i ddal ac erlyn troseddwyr; a gwella ein cymunedau lleol yn y pen draw.
“Rydyn ni’n mynd ar ôl troseddwyr yn weithredol”
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydyn ni wedi rhoi cynnig ar lawer o ymgyrchoedd ac wedi cynnig cyngor cyffredinol i’r rhai sy’n parhau i dipio’n anghyfreithlon, ond digon yw digon erbyn hyn ac rydyn ni’n mynd ar ôl troseddwyr.
“Nid dim ond llond llaw o drigolion sy’n defnyddio eu ceir i dipio sbwriel yn anghyfreithlon. Mae troseddwyr “dyn mewn fan” hefyd, sy’n cynnig eu gwasanaethau danfon i sgip, yn aml ar Facebook neu wefannau tebyg, yna’n gyrru i ardal neilltuedig i’w dipio. Gan adael dim dewis i’r cyngor ond cael gwared ag o.
“Ni allwn ddioddef hyn mwyach. Byddwn bellach yn defnyddio adnoddau i glirio unrhyw dipio anghyfreithlon, a hefyd i ddirwyo’r rhai sy’n gyfrifol.
Os dewch chi ar draws tipio anghyfreithlon yn eich ardal leol, neu tra byddwch chi allan yn rhywle arall, gallwch chi roi gwybod amdano ar-lein (https://www.wrecsam.gov.uk/service/cysylltu/rhowch-wybod-amdano) neu drwy ffonio ein Canolfan Gyswllt. Peidiwch â chyffwrdd na symud y gwastraff, oherwydd fe allech chi fod yn ymyrryd â’r dystiolaeth a allai ein helpu i ddal y bobl sy’n gyfrifol.
Eich cyfrifoldeb chi ydyw
Efallai eich bod chi’n meddwl eich bod yn cymryd cyfrifoldeb drwy dalu rhywun i gasglu a chael gwared ar eich gwastraff; ond mae’n bwysig eich bod yn gwirio sut a ble y bydd eich gwastraff yn mynd yn y pen draw. Fel arall fe allech chi gael ‘Rhybudd Cosb Benodedig’ os canfyddir bod eich gwastraff yn cael ei dipio’n anghyfreithlon.
Gallwch ofyn am weld ‘trwydded cludwr gwastraff’ gan unrhyw un sy’n cynnig y math hwn o wasanaeth, er nad yw hyn o reidrwydd yn gwarantu y byddant yn cael gwared ar eich gwastraff yn iawn. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am wybodaeth am waredu! Ni chaniateir i wasanaeth ‘dyn mewn fan’ ddefnyddio ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, gan fod y rhain at ddefnydd trigolion yn unig.
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Mae ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref wedi’u lleoli ym Mrymbo, Plas Madoc ac Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam. Drwy gymryd yr amser i ddefnyddio’r rhain, gallwch fod yn sicr na fydd eich gwastraff yn cael ei dipio’n anghyfreithlon ac mae’n fwy tebygol o gael ei ailgylchu os yn bosibl.
Gallwch ddarganfod mwy am y rhain yma (defnyddiwch y ddolen isod) gan gynnwys amseroedd agor https://www.wrecsam.gov.uk/service/ffyrdd-eraill-o-ailgylchu-yn-wrecsam/canolfan-ailgylchu-gwastraff-y-cartref
Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar-lein.
ADNEWYDDWCH EICH CASGLIADAU BIN GWYRDD