Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiad cyfredol yn Y Waun
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Digwyddiad cyfredol yn Y Waun
Arall

Digwyddiad cyfredol yn Y Waun

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 16, 2020 11:40 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Chirk
RHANNU

Rydym yn gweithio ar sail aml asiantaeth gyda’r Heddlu, y gwasanaeth Tân ac Achub, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â’r tân yn Kronospan.

Mae’r tân o dan reolaeth, serch hynny mae natur y tân yn golygu y bydd yn parhau i fudlosgi am beth amser.

Rydym yn ymwybodol fod preswylwyr yn poeni am effeithiau’r mwg ond gallwn eich sicrhau er bod y mwg yn annifyr, mae’r mwg yn deillio o’r pren sydd yn llosgi, ac nid yw’n gysylltiedig â’r ffatri ei hun.

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Bydd ansawdd aer yn cael ei fonitro oherwydd natur estynedig y digwyddiad. Mae Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd wedi bod yn Y Waun yn monitro’r mwg ers iddynt gael gwybod am y digwyddiad.

Mae staff Iechyd a Diogelwch Corfforaethol wedi cysylltu ag ysgolion a rhoddwyd cyngor priodol iddynt. Byddwn yn parhau i fod mewn cyswllt gyda phob partner sydd yn ymwneud â’r digwyddiad a sefydliadau cymunedol.

Yn y cyfamser, y cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ydi:

“Os ydych chi mewn man sy’n cael ei effeithio gan y mwg, arhoswch y tu mewn a chaewch y drysau a’r ffenestri, ond agorwch nhw eto er mwyn cael aer i mewn i’ch cartref ar ôl i’r mwg basio. Os oes rhaid i chi fod y tu allan, osgowch yr ardaloedd sy’n cael eu heffeithio gan fwg neu lwch, neu cyfyngwch yr amser y byddwch chi’n ei dreulio tu allan. Dylai modurwyr sy’n teithio drwy’r mwg gau eu ffenestri, diffodd yr aerdymheru a chadwch dyllau aer y car ar gau.

Gall mwg lidio llwybrau anadlu, y croen a’r llygaid sy’n arwain at dagu a brest dynn, diffyg anadl a phoen yn y frest. Gall hyn hefyd olygu fod problemau megis asthma yn gwaethygu; dylai pobl sydd ag asthma gario eu anadlydd gyda nhw drwy’r amser.

Gall aroglau sy’n gysylltiedig â thanau achosi dicter, straen a phryder, cyfog, cur pen neu benysgafnder. Mae’r rhain yn ymatebion cyffredin i aroglau, yn hytrach na’r sylweddau sy’n achosi’r arogl. Fe allwn ganfod aroglau ar lefelau sydd yn llawer is na’r lefelau sydd yn gallu achosi niwed i’n hiechyd.

Dylai unrhyw un sy’n poeni am eu symptomau gysylltu â’u Meddyg Teulu neu NHS Direct ar 0845 46 47. Mae’r symptomau’n diflannu’n gyflym fel rheol ac ni ddylent arwain at broblemau iechyd hir dymor.

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Scam Amazon Prime Fraud Rhybudd ynghylch twyll newydd Amazon Prime
Erthygl nesaf family friendly arts and crafts Clwb celf a chrefft newydd sy’n gyfeillgar i deuluoedd!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

wall proposal
ArallPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr

Mehefin 23, 2026
housing development plan
Arall

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Mai 18, 2026
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Mawrth 17, 2026
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
30
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Chwefror 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English