Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc – cefnogi Gofalwyr Ifanc arwrol yng Ngogledd Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Yn cael sylw arbennig > Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc – cefnogi Gofalwyr Ifanc arwrol yng Ngogledd Cymru
Yn cael sylw arbennigY cyngor

Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc – cefnogi Gofalwyr Ifanc arwrol yng Ngogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 16, 2021 4:23 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Young Carer
RHANNU

Mae un o bob deuddeg o blant yn ymgymryd â rôl gofalwr ifanc ar ryw bwynt yn ystod eu plentyndod… a dyma ein harwyr di-glod o bob cymuned yn Wrecsam.

Cynnwys
  • Beth mae bod yn ofalwr ifanc yn ei olygu felly?
  • Chwaraewyr Serennog
  • Sut i wneud cais am gerdyn

Maent yn aml yn helpu i ofalu am riant neu frawd/chwaer sydd o bosibl yn sâl neu’n anabl, ac maent yn cario cyfrifoldeb pwysig ar eu hysgwyddau ifanc.

Mae’n Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc heddiw (Mawrth 16) ac yn ddiwrnod lansio cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Yn ystod y cyfnod clo, roedd yn amlwg nad oedd nifer ohonom yn gwerthfawrogi’r gwaith y maent yn ei wneud, ac mae rhai gofalwyr ifanc hyd yn oed wedi wynebu camdriniaeth neu wedi cael eu gwrthod wrth geisio casglu eitemau hanfodol i’w teuluoedd.

O ganlyniad, mae cerdyn newydd wedi’i lansio – Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru sy’n anelu at helpu i gydnabod ein harwyr ifanc gwych yma yn Wrecsam a gweddill Gogledd Cymru.

Mae gofalwyr ifanc wedi gofyn am y cerdyn hwn – fel bod pawb, athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol a siopau’n ymwybodol o’u cyfrifoldebau, ac yn gallu cynnig cefnogaeth ychwanegol iddynt lle bo angen.

Beth mae bod yn ofalwr ifanc yn ei olygu felly?

Dywedodd Amy, 12 oed o Wrecsam: “Mae bod yn ofalwr ifanc yn gallu bod yn hwyl, ond mae hefyd yn gallu bod yn anodd ac yn waith caled.”

Chwaraewyr Serennog

Mae’r cerdyn yn rhan o fenter genedlaethol sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol a grwpiau gofalwyr. Ac yng Ngogledd Cymru, mae Clwb Pêl Droed Wrecsam yn cefnogi’r lansiad – er mawr foddhad i’n harwyr lleol. Mae’r clwb yn dweud fod:  “Pawb o’r clwb, o’n perchnogion, Rob McElhenney a Ryan Reynolds, i’n rheolwr a’n chwaraewyr, yn credu bod gofalwyr ifanc yn wych ac yn ysbrydoliaeth i ni oll, ac yn haeddu cydnabyddiaeth a chefnogaeth.”

“Bydd y clwb yn gwella proffil gofalwyr ifanc pan fydd yn ffrydio ei gêm yn erbyn Eastleigh heno – felly archebwch docyn a gwyliwch y gêm heno i glywed mwy! https://page.inplayer.com/wrexhamafc/

Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam: “Mae gofalwyr ifanc yn gwneud gwaith gwych ac yn ymgymryd â chyfrifoldebau pwysig.

“Mae sawl ‘seren’ yn y byd pêl-droed, ond mae gofalwyr ifanc yn ‘sêr’ i ni oll.. ac mae’n wych fod ein clwb pêl droed lleol yn cefnogi lansiad y cerdyn adnabod.

“Mae’r pandemig wedi gwneud pethau hyd yn oed yn fwy heriol i nifer o ofalwyr ifanc, ac maent bellach yn fwy tebygol o gael eu herio wrth ymweld â siopau neu ymgymryd â thasgau eraill y mae oedolion fel arfer yn eu gwneud.

“Felly gobeithiaf y bydd y cynllun hwn yn gwneud gwahaniaeth, ac yn eu helpu i deimlo’n fwy hyderus yn yr ysgol ac wrth siopa ar gyfer eu teulu.”

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Mae’n wych fod Clwb Pêl Droed Wrecsam wedi cytuno i gefnogi ein gofalwyr ifanc, nid yn unig yma yn Wrecsam ond ar draws Gogledd Cymru hefyd, ac rwy’n siŵr y bydd pob gofalwr ifanc yn gwerthfawrogi’r cymorth hwn.

“Mae nifer o ofalwyr ifanc wedi profi problemau yn ystod y cyfnod clo, ond mae’r rhain wedi amlygu’r holl dasgau y maent yn ymgymryd â hwy er mwyn gofalu am eu hanwyliaid. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cyfraniad a’u gwaith caled i gyflawni’r tasgau hyn, yn ogystal â mynd i’r ysgol a dal i fyny gyda gwaith ysgol.

“Gobeithiwn y bydd y cerdyn hwn yn helpu i wneud bywyd ychydig yn haws iddynt wrth iddynt barhau â’r rôl ofalu bwysig hon.”

“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch yn bersonol i’r Cynghorydd Phill Wynn sydd wedi bod ar flaen y gad â’r fenter hon yn Wrecsam.”

Sut i wneud cais am gerdyn

A ydych chi’n ofalwr ifanc ac angen cerdyn adnabod, neu ychydig o gefnogaeth a chyfle i gyfarfod gofalwyr ifanc eraill?

Os ydych chi’n byw yn Wrecsam, ffoniwch Gofalwyr Ifanc WCD / Credu ar 01597 823800.

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae Cyfrifiad 2021 ar ei anterth yn Wrecsam Mae Cyfrifiad 2021 ar ei anterth yn Wrecsam
Erthygl nesaf Wrexham Acton Park Gorsedd Stones Helpwch ni i Gadw Wrecsam yn Daclus i gefnogi Caru Cymru – a chadw Wrecsam yn rhydd o sbwriel

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English