Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen FOCUS Wales yn enwi 60 o artistiaid ar gyfer gwŷl 2018
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 19-20 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > FOCUS Wales yn enwi 60 o artistiaid ar gyfer gwŷl 2018
ArallPobl a lle

FOCUS Wales yn enwi 60 o artistiaid ar gyfer gwŷl 2018

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 26, 2018 3:10 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
FOCUS Wales yn enwi 60 o artistiaid ar gyfer gwŷl 2018
RHANNU

Mae FOCUS Wales, a soniwyd llynedd am effaith eu gwŷl ar ein heconomi, yn barod i gyflwyno Gwŷl bythgofiadwy arall, ar ôl cyhoeddi 60 o artistiaid newydd ar gyfer 2018 – gan ei gadw ymysg un o ddigwyddiadau gorau yn Ewrop.;

Cynnwys
  • “Canmoliaeth o fri gan y Cylchgrawn Clash a’i debyg
  • “Hwb Cymraeg i ddychwelyd”
  • “Digwyddiad mwy a gwell”

Ymysg yr artistiaid newydd hyn mae: y DJ, y cynhyrchydd recordiau a’r cerddor ‘A Guy Called Gerald’ – “Ni ailddiffiniodd unrhyw un ddiwylliant clwb y DU gymaint gyda chymeriad ac angerdd Prydeinig, gan greu cerddoriaeth i’r traed a’r pen fel ei gilydd” DJ Magazine. Bydd Gerald yn cynnal set DJ yn ogystal â chyflwyno sgwrs yng nghynhadledd FOCUS Wales.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

“Canmoliaeth o fri gan y Cylchgrawn Clash a’i debyg

Wedi’u cyhoeddi hefyd mae Hilang Child -sydd wedi cael eu harwyddo i Bella Union yn ddiweddar – llysenw Ed Riman, cerddor o dras hanner Cymraeg, hanner Indiaidd, sydd wedi cael clod gan y Cylchgrawn ‘Clash’ a ‘Line of Best Fit’.

Bydd Ani Glass, cerddor dwyieithog o’r math pop electro yn cefnogi Jane Weaver ddydd Iau, 10 Mai yn Eglwys San Silyn. Yn ogystal â hynny bydd y cerddorion roc seicedelig ‘Hippies Vs Ghosts’. ffefrynnau BBC Radio 6 Music, yn dychwelyd o Ffrainc i arddangos eu cerddoriaeth newydd yn yr wŷl.

Ydd yr artistiaid hyn yn cael cwmni rhestr hir o ychwanegiadau cyffrous, yn cynnwys artistiaid o: Ganada, Catalonia, Ffrainc, Japan, De Affrica a Taiwan. Ewch i
http://www.focuswales.com i weld rhestr lawn o gyhoeddiadau newydd.

Bydd FOCUS Wales hefyd yn cynnwys perfformiadau gan:

This Is The Kit | Gaz Coombes | Gengahr | Bill Ryder-Jones | Euros Childs | Jane Weaver| 9Bach | Kate Rusby | Damo Suzuki (o CAN) | Gallops | Boy Azooga | Gary Lucas (Captain Beefheart / Jeff Buckley) | Dream State | Stella Donnelly | The Gentle Good gyda’r Mavron Quartet (Enillydd Gwobr Cerddoriaeth Cymru) | a llawer mwy, gyda dros 300 o berfformiadau dros 3 diwrnod, yn cynnwys artistiaid o Awstralia, Canada, Catalonia, Estonia, yr Almaen, Hwngari, Iwerddon, Japan, Corea, yr Iseldiroedd, De Affrica, Sweden, Taiwan ac Unol Daleithiau America!

“Hwb Cymraeg i ddychwelyd”

Roedd Hwb Cymraeg yn ychwanegiad newydd y llynedd – digwyddiad cyfrwng Cymraeg sy’n arddangos artistiaid Cymraeg ac yn hybu’r iaith. Cynhaliwyd y digwyddiad mewn pabell ar Sgwâr y Frenhines, a bu’n llwyddiant ysgubol gyda nifer o siaradwyr Cymraeg mewn amgylchedd hollol Gymraeg am y tro cyntaf ers amser hir. Roedd siaradwyr di Gymraeg wedi cael eu hysbrydoli gan yr atmosffer cyfeillgar hefyd.

“Digwyddiad mwy a gwell”

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Economi: “Dylai trefnwyr FOCUS Wales ymfalchïo yn eu cyflawniadau – o un flwyddyn i’r llall maent yn trefnu digwyddiad mwy a gwell, gan helpi i roi Wrecsam ar y map yn y broses, drwy arddangos eu sin gerddoriaeth sy’n ffynnu, i gynulleidfa fawr ar draws y DU ac ymhellach. Mae’r ymwelwyr hyn yn dod â miloedd i’r economi lleol, sy’n fuddiol i fusnesau a masnachwyr lleol. Mae eu digwyddiadau yn boblogaidd iawn ac wedi’u trefnu mewn modd proffesiynol ac rydw i’n gobeithio’n wir y caf fynd i un neu ddau dros benwythnos 10 – 12 Mai.”

Mae tocynnau i’r wŷl ar werth am £40 drwy fynd i www.focuswales.com/tickets yn ogystal â Bank Street Coffee, Wrecsam a’r Siop y Leader ar Stryd Fawr Wrecsam.

Bydd FOCUS Wales yn cael ei gynnal dros 10, 11 a 12 Mai mewn amryw o leoliadau yn Wrecsam, a gellir prynu strapen arddwrn 3 diwrnod i gael mynediad i bob digwyddiad FOCUS Wales wrth fynd i www.focuswales.com/tickets am £40 yr un.

Caiff FOCUS Wales ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Wrecsam.

FOCUS Wales yn enwi 60 o artistiaid ar gyfer gwŷl 2018Hilang Child

FOCUS Wales yn enwi 60 o artistiaid ar gyfer gwŷl 2018Ani Glass

Efallai y byddwch yn dymuno darllen ein herthyglau blaenorol:

Beth syn dod a 330000 i wrecsam bob blwyddyn

Perfformiwr comedi cymraeg yn dod i hwb cymraeg yn focus wales

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Byw’n Iachach mewn 5 Cam (Cost-Effeithiol) Byw’n Iachach mewn 5 Cam (Cost-Effeithiol)
Erthygl nesaf Gwaith Ail-wynebu ar yr A483 Gwaith Ail-wynebu ar yr A483

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English