Bydd gorfodi parcio yn ailddechrau yn Wrecsam gan fod cyfyngiadau cyfnod clo y Coronafeirws yn cael eu llacio.
I ddechrau, bydd Swyddogion Gorfodi yn cynnig cyngor i’r rhai nad ydynt yn parcio ym meysydd parcio canol y dref ynglŷn â lle i barcio’n ddiogel ac yn gywir, cyngor ar ble mae’r ardaloedd casglu, a ble y gellir parcio i unrhyw un sy’n byw yng nghanol y dref.
Cofiwch am y cyfyngiadau amser yn y meysydd parcio i sicrhau bod llefydd ar gael ym meysydd parcio tymor byr wrth i ymwelwyr ddod i’r dref i gefnogi canol y dref.
Fe atgoffir ymwelwyr i ganol y dref bod parcio’n rhad ac am ddim ym mhob un o’n meysydd parcio tan ddiwedd mis Medi.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Yn ystod y cyfnod clo, roedd lleiafrif bychan o yrwyr yn credu ei bod hi’n iawn iddynt barcio yn unrhyw le, gan gynnwys ar balmentydd ac mewn ardaloedd penodol i gerddwyr. Ond rŵan wrth i’r dref brysuro gan fod y cyfyngiadau ar deithio ac agor siopau wedi’u llacio, mae’n hanfodol fod pobl yn parcio’n gyfrifol i sicrhau mynediad diogel i bawb. Defnyddiwch y meysydd parcio yng nghanol y dref, ac mae’r rhai sy’n cael eu rhedeg gan Gyngor Wrecsam yn rhad ac am ddim i’w defnyddio ar hyn o bryd, defnyddiwch nhw’n gyfrifol ac yn ddiogel er mwyn cefnogi canol y dref ac unrhyw un sy’n gweithio yno ac yn ymweld.
Gallwch ddysgu mwy yma:
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN