Wrth i Sul y Cofio nesáu ac wrth i ni baratoi i gofio mewn ffordd wahanol, rydym wedi ychwanegu marciau ffordd arbennig iawn yn yr ardal o amgylch Cofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru ar Fodhyfryd
Dywedodd y Cyng David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Bydd Sul y Cofio yn wahanol iawn eleni a bydd llawer ohonom yn dod i’r ardal i osod ein torchau a’n croesau ein hunain dros y dyddiau nesaf a gobeithio y bydd pawb yn gwerthfawrogi’r ychwanegiadau.
“Arhoswch adref ar gyfer Sul y Cofio eleni, a chofiwch yr aberthau a wnaed gan ein cymuned lluoedd arfog ddoe a heddiw. Fel mae digwyddiadau diweddar yn Wrecsam ac ar draws y DU yn dangos, mae eu gwasanaeth yn dal i fod yn bwysig iawn ar gyfer ein diogelwch ac rydym yn gwybod y byddant yn parhau i wasanaethu eu gwlad ym mhob ffordd bosibl.”
Meddai’r Cyng David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n siŵr y bydd pawb sy’n eu gweld dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf yn gwerthfawrogi’r marciau.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG