Bydd ein staff Amgylchedd yn brysur rhwng 21 Tachwedd a 3 Rhagfyr yn gwneud rhywfaint o waith cynnal a chadw arferol ar rai o’n priffyrdd prysuraf.
Mae’n debygol y bydd rhywfaint o darfu i ddefnyddwyr y ffyrdd er, yn ôl yr arfer â’r math hwn o waith, dydyn ni ddim yn bwriadu ymgymryd ag unrhyw waith rheoli traffig yn ystod oriau prysur.
Yn gyffredinol bydd staff yn brysur yn torri gwair ar ymylon priffyrdd, ysgubo’r ffyrdd, glanhau cafnau, llenwi ceudyllau a thrwsio goleuadau stryd ac arwyddion.
Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen yn edrych fel a ganlyn:
Ffordd gyswllt Llan y Pwll – Yr wythnos yn dechrau ddydd Llun 21 Tachwedd – dydd Mawrth 29 Tachwedd
Bydd y gwaith yn dechrau yn ystâd Ddiwydiannol JCB a bydd yn digwydd am yn ail o lôn 1 i lôn 2 tan ein bod ni’n cwblhau’r gwaith ar y dydd Mawrth canlynol.
A541 Ffordd yr Wyddgrug – Yr wythnos yn dechrau ddydd Mercher 30 Tachwedd – dydd Iau 1 Rhagfyr
Bydd y gwaith yn dechrau o gylchfan B&Q i Gylchfan Parc San Silyn, Gwersyllt. Unwaith eto, bydd y gwaith yn digwydd drwy gau lôn 1 ac yna lôn 2 am yn ail o gylchfan B&Q i Gylchfan Parc San Silyn, Gwersyllt.
A539 Rhiwabon (ffordd gyswllt o gyffordd 1 A483) – dydd Gwener 2 Rhagfyr am bythefnos, torri gwair, glanhau cafnau, casglu sbwriel
Embargo Ffyrdd wedi’i Gynllunio ar gyfer cyfnod y Nadolig
Nid yw’r gwaith hwn sydd wedi’i gynllunio’n cyfaddawdu’r Embargo cyfnod y Nadolig a ddiffinnir ar gyfer canol y dref (mae’r uchod i gyd y tu allan i’r rhwydwaith canol y dref a ddiffinnir beth bynnag) sy’n dechrau o ddydd Llun 5 Rhagfyr a bydd yn para yn ôl yr arfer tan a thrwy gyfnod y Nadolig.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI