Hoffech chi wybod mwy am eich hanes teuluol ond yn ansicr lle i ddechrau?
Mae help ar gael yn llyfrgelloedd Brynteg a Choedpoeth, lle cynhelir sesiynau yn ymwneud â chreu archif deulu, yr adnoddau sydd ar gael ar-lein gan gynnwys sut i chwilio yn defnyddio Ancestry a Findmypast, a beth sydd ar gael i gynorthwyo â gwaith ymchwil i deulu yn ystafell chwilio’r Archifau.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Cynhelir y sesiwn yng Nghoedpoeth ddydd Gwener, Medi 13 rhwng 2.30-3.30pm a chynhelir y sesiwn ym Mrynteg ddydd Gwener, Medi 20 rhwng 2.15pm – 3.30pm
Mae’r sesiynau am ddim ond hoffem pe baech yn archebu lle.
Coedpoeth – 01978 722920
Brynteg – 01978 759523
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION