Heddiw, rydym yn gofyn i bawb helpu i gadw Wrecsam a gweddill Cymru yn daclus – a helpu i ofalu am ein cornel hyfryd ni o’r byd.
Fel rhan o’n hymdrechion i annog pawb i gymryd rhan, rydym yn cydweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer eu hymgyrch hirdymor newydd, ‘Caru Cymru.’
Dros y 12 mis diwethaf, mae mwy a mwy o drigolion wedi rhoi gwybod nad ydynt yn hapus â’r ardaloedd y maent yn byw ac yn gwneud ymarfer corff ynddynt yn sgil sbwriel a baw cŵn.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Mae hyn yn bwysig i bobl, ac mae bellach yn bryd i ni weithio gyda’n gilydd ar draws Wrecsam a Chymru i dacluso ein parciau, lleiniau glas a mannau agored.
Yn Wrecsam, rydym yn arbennig o lwcus i gael ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a diddordeb gwyddonol arbennig, yn ogystal â pharciau a mannau agored y Faner Werdd… felly mae’n bwysig ein bod yn eu gweld ar eu gorau, heb sbwriel a’r broblem o faw cŵn a thipio anghyfreithlon.
Yn ogystal â difethaf ein gallu i fwynhau ein hamgylchedd, mae sbwriel yn bygwth cynefinoedd a bywyd gwyllt.
Sut allaf wneud gwahaniaeth?
- Sicrhewch eich bod yn cario eich sbwriel adref gyda chi neu’n ei roi mewn bin bob amser.
- Sicrhewch eich bod yn clirio baw eich ci ar ôl iddynt faeddu.
- Trefnwch sesiwn casglu sbwriel cymunedol – gall Caru Cymru eich helpu gyda hyn a gallwch ddarganfod mwy ar-lein.
- Rhowch wybod am unrhyw graffiti neu achosion o dipio anghyfreithlon ar-lein –
- Peidiwch â chael eich dal allan â chynnig ‘dyn mewn fan’. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gwaredu eich gwastraff feddu ar Drwydded Cludydd Gwastraff. Sicrhewch eich bod yn gofyn i weld y drwydded cyn talu rhywun i waredu eich sbwriel.
Os ydych yn dod ar draws achos o dipio anghyfreithlon, peidiwch ag agor na symud unrhyw fagiau.
Os ydych yn rhoi gwybod i ni achosion o dipio anghyfreithlon, gall ein swyddogion ymchwilio i’r mater yn ddiogel a gweld a oes unrhyw fanylion y gallwn eu defnyddio i gyflwyno dirwyon, neu hyd yn oed ystyried erlyniaeth neu rybudd cosb benodedig.
Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam wedi anfon neges gref at y rhai sy’n tipio’n anghyfreithlon drwy gymeradwyo dirwyon o hyd at £400… dyma enghraifft arall o sut rydym yn gwrando ar bryderon gan drigolion lleol sy’n pryderu am dipio anghyfreithlon.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn gwerthfawrogi ein cymunedau, ac rydym yn galw ar bawb i wneud gwahaniaeth drwy helpu i’w cadw’n lân ac yn daclus.
“Gall bob un ohonom helpu gyda hyn, a chyn belled ein bod yn gallu gwneud hynny’n ddiogel, dylai bob un ohonom wneud ein rhan i atal sbwriel rhag bod yn niwsans.
“Mae pob un o’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor a dylid mynd ag unrhyw wastraff dros ben i un o’r canolfannau hyn.
“Mae clirio sbwriel a thipio anghyfreithlon hefyd yn defnyddio amser ac adnoddau gwerthfawr. Wrth ystyried maint y fwrdeistref sirol, nid oes gennym yr amser na’r adnoddau ar gyfer hyn… felly gwnewch eich rhan a chefnogwch Caru Wrecsam a Caru Cymru.”
CANFOD Y FFEITHIAU