Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae heddiw yn Ddiwrnod Diogelwch Bwyd y Byd!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae heddiw yn Ddiwrnod Diogelwch Bwyd y Byd!
Y cyngor

Mae heddiw yn Ddiwrnod Diogelwch Bwyd y Byd!

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 7, 2019 10:14 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Mae heddiw yn Ddiwrnod Diogelwch Bwyd y Byd!
RHANNU

Heddiw yw Diwrnod Diogelwch Bwyd y Byd cyntaf erioed (07.06.19) ac i ddathlu rydym yn amlygu gwaith ein tîm diogelwch bwyd sydd yn helpu i gael gwared ar fwyd sydd yn anniogel rhag cael eu gwerthu.

Tra bo problemau yn anghyffredin, mae nifer o resymau pam fod rhaid galw bwydydd yn ôl. Er enghraifft, os nad yw’r wybodaeth alergen ar y label yn gywir, neu os oes pryderon ynghylch diogelwch microbiolegol y bwyd.

Os bydd bwyd yn cael ei alw’n ôl, bydd ein tîm yn gweithio gyda busnesau bwyd a’r Asiantaeth Safonau Bwyd i wneud yn siŵr bod y cynnyrch yn cael ei dynnu oddi ar y silffoedd a’i alw’n ôl.

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi Diwrnod Diogelwch Bwyd y Byd. Un o’r ffyrdd allweddol yr ydym yn helpu i sicrhau bod bwyd yn ddiogel yn Wrecsam yw gwneud yn siŵr fod busnesau yn ail alw cynnyrch bwyd a all fod yn anniogel. “Mae heddiw yn gyfle i gryfhau’r ymdrechion i sicrhau bod y bwydydd yr ydym yn ei fwyta’n ddiogel. Mae Diogelwch Bwyd yn fusnes i bawb, os ydych naill ai’n cynhyrchu, prosesu, gwerthu neu pharatoi’r bwyd, yna mae gennych rôl i’w gadw’n ddiogel. Byddem yn annog pawb i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth rhybuddion bwyd Asiantaeth Safonau Bwyd, i gael diweddariadau brys pan fydd rhaid galw cynnyrch yn ôl a rhybuddion alergedd yn cael eu cyhoeddi.”

Dywedodd Dr Colin Sullivan, Prif Swyddog Gweithredu’r Asiantaeth Safonau Bwyd: “Mae’n bleser gennym i chwarae ein rhan i sicrhau y gall pobl ymddiried yn eu bwyd, yn arbennig drwy weithio gydag awdurdodau lleol a busnesau bwyd pan fydd angen galw bwydydd yn ôl. Cyhoeddwyd 72 galwad bwyd yn ôl a 103 rhybudd alergedd yn 2018, ac rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ein bod yn cyhoeddi ein rhybuddion cyn gynted ag y gallwn gyda gwybodaeth sydd yn ddefnyddiol a chlir. Mae ein cyngor i bobl wedi seilio bob amser ar y gwyddoniaeth a thystiolaeth orau sydd ar gael.

“Cofrestrwch i gael y rhybudd alergedd a rhybuddion bwyd”

Os ydych eisiau bod yn ddiweddar gyda rhybuddion bwyd, gan gynnwys rhybudd alergedd a galw bwydydd yn ôl, gallwch fod y cyntaf i glywed drwy gofrestru am y rhybuddion ar https://www.food.gov.uk/cy/news-alerts/subscribe

Galw bwydydd yn ôl yw pan mae bwyd sydd ddim yn ddiogel yn cael ei dynnu o’r gadwyn gyflenwi a chynghorir prynwyr i gymryd y camau priodol, er enghraifft i ddychwelyd neu gael gwared ar fwyd nad yw’n ddiogel.

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Leisure Centres Defnyddwyr gwasanaethau hamdden yn canmol y cyfleusterau
Erthygl nesaf Cyn i chi daflu sbwriel, meddyliwch am Jemima Glitter Cyn i chi daflu sbwriel, meddyliwch am Jemima Glitter

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English