Mae ‘na lawer o hwyl a dathlu wedi bod yn Ysgol Penycae yn ddiweddar wrth i’r ysgol nodi cwblhad gwerth £2.6miliwn o waith adeiladu ac ailwampio sy’n golygu fod yr holl ddisgyblion ac athrawon bellach gyd gyda’i gilydd dan un to am y tro cyntaf.
Erbyn hyn mae gan yr ysgol 4 ystafell ddosbarth newydd, neuadd newydd, gwell cyfleusterau cegin a gwell lle chwarae.
Cwmni Reed Construction wnaeth yr holl waith gan ei gwblhau o fewn y gyllideb a’r amserlen y cytunwyd arnynt.
“Gwir ymdeimlad o gymuned”
Cllr Mark Pritchard, Leader of Wrexham Council, said: “Roeddwn i wrth fy modd cael mynd i’r ysgol i weld drosof fy hun beth mae’r gwelliannau hyn yn eu golygu i’r disgyblion a’r staff dysgu. Mae ‘na ymdeimlad o gymuned go iawn yno rŵan ac mae dyfodol yr ysgol yn edrych yn llewyrchus dros ben. Mae ein gwelliannau parhaus i’n hysgolion yn arwydd o’n hymrwymiad i wella’r amgylchedd addysgol ar gyfer disgyblion a staff. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’n cefnogi ni yn hyn o berth drwy nawdd Ysgolion yr 21ain Ganrif roeddwn yn falch iawn o weld eu cynrychiolwyr yn y dathliadau.”
“Diwrnod gwych i’r ysgol”
Meddai Cadeirydd y Llywodraethwyr, y Cynghorydd Joan Lowe: “Mae hwn yn ddiwrnod da i’r ysgol ac roeddwn i’n falch iawn o groesawu pawb i’r cyfleusterau newydd a dadorchuddio’r plac ar y cyd â dau o ddisgyblion yr ysgol. Hoffwn ddiolch i bawb oedd yn rhan o hyn a sicrhau fod y gwelliannau’n digwydd ac am ein gwneud ni i gyd mor falch o’n hysgol. Da iawn chi bawb a phob lwc i’r disgyblion a’r staff ar ddechrau’r bennod newydd hon yn hanes yr ysgol.”
“Cyfleusterau Rhagorol”
Dywedodd Kirsty Williams: “Mae ein Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif yn ymwneud nid yn unig ag adeiladau newydd ond hefyd â gwella ein hysgolion presennol er mwyn creu’r amgylcheddau dysgu gorau ar gyfer ein dysgwyr. Rydw i mor falch o weld cwblhad y prosiect hwn, a gyflawnwyd gyda nawdd cyfatebol o £1.3m gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd wedi darparu Neuadd newydd, gwell cegin, mannau parcio a lle chwarae yn ogystal ag ardal wedi’i hail-ddylunio’n gyfangwbl ar gyfer y Cyfnod Sylfaen – cyfleusterau rhagorol a fydd yn cael eu mwynhau am flynyddoedd i ddod”
Ariannwyd y gwaith gan ddefnyddio cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a nawdd cyfatebol gan Gyngor Wrecsam.
“Amcanion gwerth cymdeithasol
Dywedodd Kasia Pugh, Rheolwr Ymgynghori â Read Construction, “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyflwyno’r cynllun hwn, ynghyd â Chyngor Wrecsam a Fframwaith Gogledd Cymru, gan ddarparu amgylchedd dysgu o’r 21ain ganrif ar gyfer y disgyblion. Drwy gydol y prosiect, gwnaethom gyflawni nifer o amcanion cymdeithasol, gan gynnwys gwneud y mwyaf o hyfforddiant a recriwtio ar gyfer pobl leol i elwa’r gymuned leol.
Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cyng. John Phillips, “Mae uno’r ddwy ysgol o fudd i’r ardal gyfan. Ysgol fodern ar gyfer yr 21ain ganrif sydd ag adnoddau da ac sy’n addas at ei diben lle fydd plant yn ffynnu ac yn cyflawni cymaint ag y gallant. Mae ansawdd yr estyniad newydd yn hollol wych ac mae’n gweddu’n dda i’r adeilad gwreiddiol. Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch i bawb am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Rydyn ni’n gwerthfawrogi hynny’n fawr iawn.”
Ariannwyd y gwaith gan ddefnyddio cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a nawdd cyfatebol gan Gyngor Wrecsam.
COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR