Mae Ysgol Rhiwabon wedi ei choroni fel enillydd cystadleuaeth a heriodd ysgolion i ysgrifennu pennill a rap gwreiddiol i’w cynnwys mewn darn cerddorol gwych o’r enw ‘Cân i Wrecsam’.
Rhoddodd aelodau Cerdd Cydweithredol Wrecsam y gân at ei gilydd ac mae’r cynnyrch terfynol yn benllanw misoedd lawer o waith caled. Cynhaliwyd gweithdai ym mhob ysgol uwchradd yn yr ardal cyn i drefnwyr y gystadleuaeth ddewis Ysgol Rhiwabon fel yr enillydd.
Fel enillwyr y gystadleuaeth, gwobr Ysgol Rhiwabon oedd gwerth £1,000 o offerynnau cerdd – cyflawniad gwych i’r ysgol.
Mae ‘Cân i Wrecsam’ yn talu teyrnged i dreftadaeth lofaol a chynhyrchu dur falch yr ardal, gyda chyfeiriadau at frics coch enwog Rhiwabon ac Eglwys San Silyn, un o saith rhyfeddod Cymru, yn ogystal â thwf presennol Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Dywedodd Wyn Pearson, arweinydd artistig Cerdd Cydweithredol Wrecsam: “Fe wnaethon ni roi pennill a chytgan at ei gilydd ac fe wnaethon ni wahodd pob ysgol uwchradd i ysgrifennu eu pennill a’u rap eu hunain i fynd gyda’r gân. Fe chwaraeodd pob myfyriwr yn Ysgol Rhiwabon ei ran, roedd yn ymdrech anhygoel.”
Mae fideo wedi cael ei ryddhau gyda’r disgyblion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth. Gwyliwch a gwrandewch…
“Poeni’n fawr am eu cymuned”
Dywedodd Sandra Tarver, arweinydd cwricwlwm cerddoriaeth yn Ysgol Rhiwabon: “Rydym wrth ein bodd bod yr ysgol wedi ennill y gystadleuaeth, mae’n gyflawniad gwych.
“Diolch yn fawr iawn i aelodau’r grŵp cerdd cydweithredol am ddod i mewn i’r ysgol a gwneud i hyn i gyd ddigwydd. Roedd yn gyfle gwych i ni i gyd gymryd rhan. Roedd y myfyrwyr wrth eu bodd â’r holl broses.
“Rydym yn ysgol gymunedol ac roedd yn amlwg iawn gyda’r syniadau roedd y myfyrwyr yn meddwl amdanynt eu bod yn poeni’n fawr am eu cymuned, ac mae hynny’n cael ei ddangos yn y geiriau y gwnaethon nhw feddwl amdanynt.”
“Mae’r canlyniad yn wych”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae’r fideo, y gerddoriaeth a’r geiriau yn fendigedig ac rwy’n gallu gweld pam mai ei henw yw ‘Cân i Wrecsam’. Hoffwn longyfarch Cerdd Cydweithredol Wrecsam ac Ysgol Rhiwabon am yr ymdrech y maent wedi’i roi i’r prosiect – mae’r canlyniad yn wych. Mae pethau fel hyn wir yn arddangos y gorau o Wrecsam.”
“Yn ffodus i allu gweithio gyda Cerdd Cydweithredol Wrecsam”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol Addysg: “Yn Wrecsam, rydyn ni mor ffodus i allu gweithio gyda Cerdd Cydweithredol Wrecsam ac mae’r prosiect hwn yn enghraifft arall o ba mor greadigol yw’r grŵp cydweithredol a’n pobl ifanc. Mae’r cynnyrch terfynol yn dangos manteision codi offeryn cerddorol a mynd amdani.”
Beth mae’r disgyblion yn ei ddweud?
Mae’r disgyblion o Ysgol Rhiwabon wrth eu boddau gyda’r gân a’r fideo gorffenedig, ac fe wnaethon nhw fwynhau’r profiad cyfan yn fawr.
Dywedodd Holly Jones, sy’n rapio un o’r penillion: “Roeddwn i mor hapus i fod yn rhan o’r gân a’r rap. Fe wnes i wirfoddoli ar unwaith i wneud y rap oherwydd roeddwn i’n teimlo fy mod i’n ddigon hyderus i’w wneud. Mae fy nheulu yn falch iawn ohonof i, mae’n un o’r pethau mwyaf rydw i erioed wedi’i wneud yn fy mywyd.”
Dywedodd Elsie Davies-Bottomley: “Rydw i’n meddwl bod y fideo yn grêt achos mae’n cynrychioli Wrecsam yn dda ac yn cynrychioli’r diwydiant cerddoriaeth hefyd. Mae’n dod â rhywbeth da i Wrecsam.”
Ychwanegodd Emily Stephenson: “Mae’r fideo yn ein gwneud ni mor falch o fod o Riwabon ac o Wrecsam.”
![Disgyblion talentog yn ysgrifennu geiriau gwych i gân newydd i Wrecsam](https://news.wrexham.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/Song-for-Wrexham-2-1024x719.jpg)
![Disgyblion talentog yn ysgrifennu geiriau gwych i gân newydd i Wrecsam](https://news.wrexham.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/Song-for-Wrexham-20-1024x668.jpg)
Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam 2025 – Newyddion Cyngor Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.