- A ydych yn barod am her newydd, gyffrous?
- Eisiau swydd llawn boddhad wrth wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl?
- A ydych yn gwerthfawrogi pobl ac eisiau eu cefnogi i gyrraedd eu potensial?
 - Yna rydym eisiau siarad gyda chi! - Mae ein Hadran Gofal Cymdeithasol yn gweithio gyda chydweithwyr iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i recriwtio a hyfforddi llawer mwy o bobl i swyddi a gyrfaoedd gofal cymdeithasol. - Os bu i chi ateb ‘ydw/oes’ i’r cwestiynau uchod yna rydym eisiau clywed gennych; nid oes angen i chi fod â phrofiad blaenorol o ofal cymdeithasol gan y rhoddir hyfforddiant llawn a gallwn ddarparu cefnogaeth barhaus i chi trwy gydol y broses ymgeisio. - Rydym yn cynnig: - Gwyliau â thâl ac oriau contract parhaol
- Gweithio ar draws amrywiaeth o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
- Llwybrau Camu Ymlaen yn eich Gyrfa a chyfleoedd swyddi
- Ystod eang o hyfforddiant ar gael
- Tîm cefnogol o gydweithwyr a rheolwyr
 - Bydd ein swyddi Gweithwyr Cefnogi newydd yn gweithio ar draws timau a lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gefnogi pobl ar draws Wrecsam. Mae’r swyddi hyn yn cynnig cyfnod sefydlu a datblygu o fewn y gwasanaeth iechyd yn ogystal â gofal cymdeithasol awdurdod lleol ac yn ffurfio rhan o’n buddsoddiad a chynlluniau hirdymor i dyfu ein gwasanaeth gofal cymdeithasol a buddsoddi a datblygu ein staff. - Mae gofal cymdeithasol yn llawer mwy na gofal personol ac mae’n hynod o amrywiol; rydym eisiau gweithlu sy’n adlewyrchu amrywiaeth y bobl a gefnogwn a beth sy’n bwysig iddyn nhw. - I gael trafodaeth anffurfiol neu gymorth gyda’r broses ymgeisio, cysylltwch â: nerys.bennion@wrexham.gov.uk - 01978 298564/07467 444362 - Neu mae’r manylion yma. - Dyddiad cau: 3 Ionawr 2022 
Rydym yn edrych am Weithwyr Cefnogi – a ydych yn barod am yr her?


 
  
  
  
  
  
  
  
 