Mae llawer o benderfyniadau’n cael eu gwneud yn y cyngor.
Nid yw’r dewisiadau sy’n cael eu gwneud bob amser yn rhai syml, a dyna pam yr ydym yn cael trafodaethau.
Efallai’ch bod yn meddwl bod hyn i gyd yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, ond os darllenwch ymlaen cewch weld pa mor hawdd yw cael gwybod beth sy’n digwydd.
Sut allaf ganfod beth yw pynciau trafodaethau’r dyfodol?
Gallwch weld y materion y bydd y cyngor yn eu trafod ac yn penderfynu yn eu cylch trwy edrych ar-lein ar ein Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
Mae’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei chyhoeddi a’i diweddaru bob mis ac mae’n cynnwys gwybodaeth am bob mater sy’n debygol o gael eu trafod dros y pedwar mis nesaf.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Pwy sy’n cymryd rhan yn y trafodaethau?
Y Bwrdd Gweithredol neu’r Cyngor Llawn sy’n penderfynu ar faterion gan amlaf, ond gall y Pwyllgorau Chraffu gymryd rhan hefyd.
Gallwch hefyd ganfod pa aelod arweiniol fydd yn gysylltiedig â phob pwnc trafod, a sut i gysylltu â nhw os hoffech wybod mwy, yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
Ydy’r holl sôn am fyrddau a phwyllgorau yn eich drysu?
Peidiwch â phoeni.
Gallwch ganfod sut mae’r cyngor yn cael ei rannu’n fyrddau a phwyllgorau, trwy ddarllen ein erthygl flaenorol yma.
Sut allaf wylio trafodaethau?
Ar hyn o bryd gallwch wylio holl drafodaethau’r Cyngor Llawn a’r Bwrdd Gweithredol yn fyw ar ein tudalen gweddarlledu ac os ydych yn methu un, gallwch ei wylio eto.
Mae pob gweddarllediad yn cael ei uwchlwytho cyn pen 48 awr ar ôl y digwyddiad ac mae ar gael am 6 mis wedyn.
Ydych chi ond eisiau gwyliau rhai rhannau?
Gallwch symud yn hawdd trwyddo gan ddefnyddio’r pwyntiau mynegai er mwyn neidio i rannau penodol o’r cyfarfod.
Byddwch hefyd yn gallu gwylio holl ddadleuon y Pwyllgor Craffu trwy’r gweddarllediad, gan ddechrau o fis Ionawr y flwyddyn nesaf.
Wyddoch chi bod cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol ar agor i’r cyhoedd hefyd?
Yn aml gallwch eistedd yn eu cyfarfodydd a gynhelir yn Neuadd y Dref (ar ddydd Mawrth am 10am fel arfer).
Nid yw hynny’n bosibl bob tro pan fydd gwybodaeth sensitif yn cael ei thrafod.
Ble allaf ddod o hyd i’r cofnodion?
Darllenwch am brif bwyntiau pob cyfarfod ar ein gwefan, naill ai trwy wirio’r cyfarfodydd diweddaraf, neu trwy ddefnyddio’r offeryn chwilio.
Trwy ddefnyddio’r cyfleuster chwilio manwl i chwilio am destun, gallwch ddewis y cofnod yn y ddewislen ‘math o ddogfen’.
Hoffech chi gael canlyniadau sydd hyd yn oed yn fanylach? Gallwch ddidoli’r canlyniadau yn ôl pwyllgor, dyddiad a ward hefyd.
Felly dyna chi – os nad oeddech yn gwybod cynt, byddwch yn gwybod rŵan sut i gael y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau eich cyngor lleol.
COFIWCH EICH BINIAU