Mae uwch swyddog o fewn y Cyngor yn bwriadu diweddu ei yrfa drwy ymgymryd â chymal cyntaf un o lwybrau beicio enwocaf y byd.
Bydd Trevor Coxon, Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid Corfforaethol Cyngor Wrecsam, sy’n ymddeol gyda hyn, yn beicio dros 120 milltir ar hyd arfordir Ffrainc i godi arian ar gyfer elusen Prostate Cancer UK.
Nid hwn fydd y tro cyntaf i Trevor ymgymryd â Grand Départ enwog – neu gymal cyntaf – Tour de France. Yn 2016 beiciodd ar hyd y llwybr rhwng Mont St Michael yn Llydaw a Thraeth Utah yn Normandi; taith 117 milltir.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Ond, y tro hwn, ar 23 Mehefin, bydd yn beicio 124 milltir mewn un diwrnod yn rhanbarth Vendee yng ngorllewin Ffrainc.
“Rydw i’n un o’r rhai ffodus”
Meddai Trevor: “Mi ges i driniaeth lwyddiannus ar gyfer canser y prostad bedair blynedd yn ôl, ac rydw i’n un o’r rhai ffodus.
“Ond mae sylw diweddar yn y wasg yn datgelu y bydd un ymhob wyth o ddynion yn y Deyrnas Unedig yn dioddef o ganser y prostad ar ryw adegau yn eu bywydau – ac mewn rhai grwpiau ethnig, gall fod yn un ymhob pedwar dyn. Hwn erbyn hyn yw’r lladdwr mwyaf ond dau o ddynion yn y Deyrnas Unedig.”
“Rydw i wedi bod yn codi arian ar gyfer Prostate Cancer UK ers fy nhriniaeth, ac maen nhw’n ymroddedig i godi ymwybyddiaeth, ac ymgyrchu am ymchwil i gyffuriau a thriniaethau newydd i ymladd yn erbyn y clefyd dinistriol hwn.”
Mae Trevor yn feiciwr brwd ac yn hyfforddi’n aml gyda’i glwb beicio, sef Clwb Beicio Merffordd a Gresffordd. Mae o hefyd yn mynychu dosbarthiadau troelli-beicio yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Byd Dŵr sy’n cael ei rhedeg gan Freedom Leisure.
Ddydd Sul, 11 Mawrth, bydd yn beicio yn nigwyddiad beicio Cape Argus, gan ddechrau yn Cape Town, De Affrica, fel rhan o’i baratoadau ar gyfer Tour de France ym mis Mehefin. Dyma un o ddigwyddiadau beicio mwyaf poblogaidd y byd, sy’n denu dros 30,000 o gystadleuwyr.
Ychwanegodd Trevor: “Wrth fynd o amgylch De Affrica byddaf yn gwisgo cit fy nghlwb beicio i geisio hyrwyddo beicio yng Nghymru. Mae’r llwybr o amgylch Penrhyn Gobaith Da yn mynd heibio i le o’r enw Llandudno Bay – mae gogledd Cymru yn amlwg wedi cael effaith ar Dde Affrica yn barod!”
“Croesawu unrhyw rodd”
Ychwanegodd Trevor: “Ar ôl gwneud y Grand Départ yn 2016, mae gen i syniad go lew am yr hyn i’w ddisgwyl ond, serch hynny, mae llawer o bethau yn dibynnu ar yr amodau a sut y byddaf yn teimlo ar y diwrnod.
“Llwyddais i drechu’r llwybr y tro diwethaf mewn chwe awr a hanner felly rydw i’n gobeithio rhagori ar fy amser y tro yma!
“Rydw i eisoes wedi derbyn rhoddion hael gan fy nghyfeillion a’m cydweithwyr yng Nghyngor Wrecsam, ac rydw i’n croesawu unrhyw rodd bellach i’r achos da yma.”
Os hoffech chi gyfrannu at daith codi arian Trevor, gallwch wneud hynny drwy’r tudalen JustGiving yn www.justgiving.com/fundraising/Trevor-Coxon3 (Dolen gyswllt Saesneg).
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU