Mae gan brosiect a phartneriaeth waith rhwng Amgueddfa Wrecsam a Phrifysgol Caer y potensial i newid ein dealltwriaeth o ogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.
Gan ddechrau yn fuan ym mis Medi, bydd cloddfa 3 wythnos o hyd yn datgelu olion fila Rufeinig a ddarganfuwyd yn ddiweddar, wedi’i leoli ar gyrion Wrecsam. Dyma’r fila Rufeinig gyntaf erioed i’w darganfod yng ngogledd-ddwyrain Cymru a’r gobaith yw y bydd yn rhoi cipolwg a mewnwelediad newydd i orffennol Rhufeinig yr ardal.
Darganfuwyd y safle drwy gydweithrediad synwyryddion metel lleol a ddaeth o hyd i ddeunydd Rhufeinig ar y safle. Sbardunodd hyn arolwg synhwyro o bell a ddatgelodd dystiolaeth glir o adeiladwaith wedi’i gladdu.
Ar ôl cerdded ar y safle, cafwyd arteffactau o ddiwedd y ganrif 1af i ddechrau’r 4edd ganrif OC, sy’n awgrymu bod y fila yn weithredol dros fwyafrif cyfnod y rheolaeth Rufeinig ym Mhrydain.
Byddai’r fila yn y lleoliad yma yn awgrymu bod patrwm anheddiad gwledig Rhufeinig yn fwy nodweddiadol o weddill y Dalaith nag yr oeddem yn ei feddwl yn flaenorol.
Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio ar gloddio’r safle o dan arweiniad arbenigol arweinwyr y prosiect Stephen Grenter o Amgueddfa Wrecsam a Dr Caroline Pudney, Uwch Ddarlithydd Archeoleg ym Mhrifysgol Caer.
Bydd diwrnod agored cyhoeddus yn cael ei gynnal ar 18 Medi a threfnir teithiau safle ar gyfer grwpiau a drefnir ymlaen llaw.
*Sylwch fod y safle ar dir preifat a dim ond drwy deithiau wedi’u trefnu neu archebu ymlaen llaw ar y diwrnod agored y bydd ymweliadau â’r safle ar gael, drwy wefan docynnau Eventbrite.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Bobl yng Nghyngor Wrecsam ac Aelod lleol ward Yr Orsedd: “Mae hanes Caer Rhufeinig ychydig dros y ffin yn hysbys ac wedi’i gofnodi’n helaeth. Mae llawer i’w ddysgu o hyd am fywyd yn ein rhan ni o Gymru yn ystod yr un cyfnod. Gobeithio y bydd y gloddfa hon, yn ogystal â darganfyddiadau diweddar eraill yn yr ardal, megis Mochyn Yr Orsedd, yn taflu goleuni newydd ar sut roeddem yn byw yn ystod y cyfnod hwnnw.”
Meddai Uwch Ddarlithydd Archeoleg ac Arweinydd Rhaglen BA Archeoleg ym Mhrifysgol Caer, Dr Caroline Pudney:
“Rydyn ni wrth ein boddau i ddechrau’r gwaith cloddio ac ateb cwestiynau mae’r darganfyddiad rhyfeddol hwn wedi’i godi am gymeriad a dwyster yr anheddiad Rhufeinig yn y rhanbarth.
“Dyma’r fila Rufeinig gyntaf o’i math sydd wedi’i hardystio’n strwythurol yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Dyma waith cloddio cyffrous iawn i’w oruchwylio.
“Yn wir, ychydig iawn o filas Rhufeinig sydd wedi’u nodi yng ngogledd-orllewin Lloegr, gogledd Cymru a’r Gororau, yn enwedig o’u cymharu â llain ganol Lloegr a de Cymru. Fodd bynnag, mae’r prosiect hwn yn tynnu sylw at weithgaredd ac anheddau mwy sylweddol nag a ddeallwyd yn flaenorol, sy’n bodoli yn yr ardal hon.
“Rydym yn edrych ymlaen at herio ac ychwanegu at ein gwybodaeth am yr ardal yn ystod y cyfnod Rhufeinig, ochr yn ochr â’n cydweithwyr o Amgueddfa Wrecsam, a rhoi cyfleoedd i’n myfyrwyr, ysgolion lleol a’r gymuned ehangach fod yn rhan o’r prosiect hwn sy’n newid hanes.”
Byddwn yn rhannu’r newyddion a’r darganfyddiadau diweddaraf yn ogystal â gwybodaeth ar sut i archebu taith ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y dolenni isod i gael y wybodaeth ddiweddaraf:
Mae’r prosiect hwn wedi cael arian drwy Ymddiriedolaeth Ymchwil Rufeinig a Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN
GWYBODAETH BELLACH:
Mochyn Yr Orsedd:
Darganfyddiad newydd yn rhoi goleuni ar Wrecsam yn oes y Rhufeiniaid.
Dadansoddiad Prifysgol yn taflu goleuni pellach ar ddarganfyddiad Rhufeinig Wrecsam.
Arddangosfa Holt cudd yn amgueddfa Wrecsam:
Holt Cudd – Hanes Rhufeinig Wedi’i ddatgelu yn arddangosfa newydd Amgueddfa Wrecsam
Prifysgol Caer:
https://www.chester.ac.uk/departments/history-and-archaeology
https://www.instagram.com/histarchchester