Heddiw yw diwrnod cyntaf Wythnos Ailgylchu 2019. Mae’n amser perffaith i ni gyd wella ein hailgylchu a gwneud ein rhan i Wrecsam.
Cynhelir Wythnos ailgylchu rhwng 23-29 Medi, a byddwn yn rhoi awgrym defnyddiol am ailgylchu bob dydd ar ein cyfryngau cymdeithasol, felly cadwch olwg am y rhain.
Mae gennym ddisgyblion o Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn ymweld â’r Ystafell Addysg yng nghanolfan ailgylchu Bryn Lane.
Thema eleni yw ‘ailgylchu – o fewn ein gallu ni’ gyda dywediad WRAP “dihunodd Prydain yn 2018 i ailgylchu, 2019 yw’r flwyddyn yr ydym yn gweithredu”.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
“Gwneud argraff barhaol”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant, “Rydym wedi cyrraedd yr Wythnos Ailgylchu, mae’n gyfle gwych i atgoffa ein hunain am y pethau y gallwn eu hailgylchu a’r pethau na allwn. Rydym yn deall bod llawer o bethau i bobl gofio a gall hyn ar brydiau fod yn llethol, ond rydym i gyd angen cymryd rhan.
“Thema eleni yw ‘o fewn ein gallu’, sydd yn gywir iawn ac mae hi’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i wneud gwahaniaeth. Mae pob eitem unigol yr ydych yn ei ailgylchu yn ychwanegu gwerth, a drwy symud y fenter ymlaen i ailgylchu popeth y gallwn, dyna sut y byddwn yn gwneud argraff barhaol ac yn cyrraedd ein targed ailgylchu o 70% erbyn 2025.”
Sut y gallwn wneud gwahaniaeth?
Fel y dywedodd y Cynghorydd Bithell, un o’r problemau fwyaf i bobl yw adnabod pa eitemau y gellir eu hailgylchu a pha rhai na ellir eu hailgylchu. Ond peidiwch â gadael i hyn eich atal. Mae’r ffaith eich bod yn darllen yr erthygl hon yn dangos eich bod eisiau cymryd rhan a rydym am roi’r holl wybodaeth yr ydych ei angen fel nad yw hyn yn rwystr.
Rydym wedi treulio 2019 ar y cyfan yn dod â chyfres o erthyglau blog sydd yn cynnwys yr holl wybodaeth a gallwch eu gweld yma 🙂
Felly, allwn ni ddechrau gyda’r un mae pawb yn credu yw’r mwyaf anodd… plastig?
“Pa blastig allaf i ei ailgylchu yn Wrecsam?”
Mae’r blog hwn yn cynnwys popeth yr ydych eisiau wybod am ailgylchu plastig yn Wrecsam. Y newyddion da yn Wrecsam yw y gellir ailgylchu llawer o gynhwysion plastig, i weld pa rai ydynt cliciwch yma….
“Beth allaf i ei ailgylchu fel gwastraff bwyd?”
Ydych chi’n ailgylchu gwastraff bwyd? Mae nifer o resymau pam y dylech wneud. Canfod yr holl wybodaeth ynghylch ailgylchu gwastraff bwyd yma…
Canfod pam ei fod yn beth da cael gwagle yn eich bin du, a sut y gallwch gyflawni hyn. Darllenwch fwy yma…
Beth all canolfannau ailgylchu ei wneud i chi
Os na allwch ailgylchu ar ymyl palmant, efallai gallwch eu hailgylchu yn un o’n tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam? Rwy’n siŵr y bydd rhai o’r pethau hyn yn eich synnu…
Sut i ailgylchu bocsys cardfwrdd yn gywir
Yn Wrecsam, nid ydym yn ailgylchu cardfwrdd yn iawn. Gwnewch y pethau bach hyn i’n helpu…
Beth allai ailgylchu ar ôl fy marbeciw nesaf?
Mae’r haf bron ar ben, ond os daw’r haul allan eto, bydd rhai ohonom dal i fwynhau barbeciw. Oeddech chi’n deall y gallwch ailgylchu’r pethau hyn?
A gawsoch yr holl wybodaeth yr oeddech eisiau? Os nad ydych, defnyddiwch yr eicon chwilio (chwyddwydr) ar ochr dde ar frig y dudalen a chwilio am ‘ailgylchu’. Rydym wedi cyhoeddi dros 30 o erthyglau ailgylchu hyd yma eleni, felly efallai y byddwch yn gallu gweld yr hyn oeddech yn chwilio amdano yn yr erthyglau hyn.
Hefyd, gallwch gofrestru i gael awgrymiadau ar ailgylchu a gwybodaeth drwy e-byst. Rydym yn anfon un bob dydd Mawrth i’ch diweddaru.
COFRESTRU
Fel bob amser, diolch i chi am ailgylchu 🙂
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU