Ydych chi’n derbyn ein rhybuddion e-bost yn eich atgoffa am eich bin? Os nad ydych chi, dyma ychydig o resymau pam yr hoffech chi ystyried cofrestru i’w derbyn nhw.
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: Wrth gofrestru i gael ein rhybuddion e-bost, byddwch chi’n cael neges atgoffa ddefnyddiol y diwrnod cyn eich casgliad nesaf, fydd yn rhoi gwybod i chi pa finiau a chynwysyddion ailgylchu i’w rhoi allan. Mae hefyd yn ffordd wych i ni roi gwybod i chi am unrhyw amhariadau sy’n effeithio ar y gwasanaeth.
“Bydd hi’n Nadolig cyn hir a bydd newidiadau i batrwm casglu arferol rhai preswylwyr. Byddwn ni’n defnyddio’r negeseuon hyn i roi gwybod i’n tanysgrifwyr am unrhyw newidiadau o flaen llaw. Dyma’r ffordd orai i ni roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwasanaeth.”
Ydych chi’n barod i gymryd rhan? Os nad ydych chi am fethu casgliad, ewch i’n gwefan a dilynwch y ddolen i gofrestru.
Trwy wneud hyn, fe gewch chi neges e-bost i’ch atgoffa i roi’ch biniau allan y diwrnod cyn y diwrnod casglu. Os ydych chi eisoes yn derbyn y negeseuon atgoffa yma gennym ni, does dim angen i chi wneud unrhyw beth.
DERBYN RHYBUDD I’CH ATGOFFA AM EICH BIN
Gwiriwch pa ddiwrnod y mae eich biniau yn cael eu casglu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich casgliadau
Wyddoch chi y gallwch chi wirio pryd mae eich casgliadau bin diweddaraf yn syml trwy deipio eich cod post neu stryd?
Mae’r cyfleuster Gwirio’ch diwrnod casglu biniau yn ffordd wych o gael gwybod yn union pryd mae’ch biniau yn cael eu casglu. Ni fydd angen i chi fewngofnodi i wirio’ch diwrnod casglu biniau, a gallwch wirio ar ran eich ffrindiau, aelodau o’ch teulu a chymdogion hefyd.
Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch
Os ydych yn cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost ar Wybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu, gallwn anfon ein straeon newyddion diweddaraf ac argymhellion i chi, er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan o’ch ailgylchu, cyngor lleol (gan gynnwys newidiadau sy’n effeithio arnoch chi), a manylion ar ymgyrchoedd sydd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt.