Mae pobl ledled Wrecsam yn cael eu hannog i rannu eu barn ar ddyfodol gwasanaethau bysiau wrth i gam nesaf y cynlluniau i wella’r rhwydwaith bysiau yng Nghymru ddechrau.
Bydd ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd wyth wythnos o hyd yn dechrau ddydd Gwener 14 Awst, gan roi cyfle i bobl roi sylwadau ar y rhwydwaith bysiau arfaethedig ar gyfer Gogledd Cymru, wedi’i gynllunio ar y cyd gan Drafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol fel rhan o raglen ddiwygio bysiau ehangach Llywodraeth Cymru.
Nod diwygio bysiau yw darparu gwasanaethau mwy dibynadwy, prisiau tecach a thocynnau ac amserlenni symlach, gyda’r rhwydwaith arfaethedig yn nodi llwybrau ac amlderau a allai weithredu o fewn y cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd.
Bydd nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu yn cael eu cynnal ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ystod mis Medi, gan roi cyfle i drigolion ddysgu mwy, gofyn cwestiynau a rhannu eu barn.
Digwyddiadau ymgysylltu yn Wrecsam
- Dydd Gwener 4 Medi – Neuadd Blwyf y Waun, 9am-1pm
- Dydd Llun 7 Medi – Gorsaf Fysiau Wrecsam, 8am-1pm a 4:30pm-7pm
- Dydd Iau 17 Medi – Canolfan Fenter Brymbo, 3pm-6pm
- Dydd Iau 24 Medi – Prifysgol Wrecsam, drwy’r dydd
- Dydd Gwener 25 Medi – Canolfan Gymunedol Johnstown, 12pm-3pm
Mae’r digwyddiad ym Mhrifysgol Wrecsam yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau i fyfyrwyr coleg a phrifysgol sydd â’r nod o annog pobl ifanc i ddweud eu dweud ar rwydwaith y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, “Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Thrafnidiaeth Cymru i baratoi’r rhwydwaith sylfaenol arfaethedig, ond rydym yn awyddus o hyd i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud a pharhau i wella gwasanaethau bysiau ledled Wrecsam.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae ein buddsoddiad o £650,000 wedi helpu i sicrhau cynnydd o 163,000 yn nifer y teithwyr, sy’n dangos pwysigrwydd parhau i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a’i gwella.
Rydym yn croesawu’r sesiynau ymgysylltu sy’n cael eu cynnal ym mis Medi a byddwn yn annog trigolion i gymryd rhan, rhannu eu profiadau a dweud wrthym beth yr hoffent ei weld o ran gwasanaethau bysiau yn y dyfodol.”
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio Trafnidiaeth Cymru, “Mae bysiau’n chwarae rhan hanfodol wrth gysylltu pobl a chymunedau yng Nghymru, ond rydym yn gwybod bod cyfleoedd i wella.
Trwy fasnachfreinio bysiau rydyn ni am ddarparu cysylltiadau gwell, gwasanaethau amlach, ac amserlenni a phrisiau symlach erbyn 2030.
Rydym nawr yn gofyn i gymunedau ledled Gogledd Cymru helpu i lunio’r cynlluniau hyn. Trwy gymryd rhan yn ein hymgysylltiad cyhoeddus, gall pobl ein helpu i adeiladu rhwydwaith bysiau sy’n gweithio’n well i deithwyr nawr ac yn y dyfodol.”
Gall pobl nad ydynt yn gallu mynd i un o’r digwyddiadau rannu eu barn ar-lein drwy wefan Trafnidiaeth Cymru, a bydd copïau papur ar gael ar gais ac yn y digwyddiadau galw heibio.



