Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Artistiaid enwog, ar bapur, yn Wrecsam…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Artistiaid enwog, ar bapur, yn Wrecsam…
ArallPobl a lleYn cael sylw arbennig

Artistiaid enwog, ar bapur, yn Wrecsam…

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 18, 2018 1:52 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Artistiaid enwog, ar bapur, yn Wrecsam...
RHANNU

Artistiaid enwog, ar bapur, yn Wrecsam...Bydd gwaith celf gan rai o artistiaid rhyngwladol mwyaf enwog y byd yn cael eu harddangos yn Nhŷ Pawb mewn arddangosfa newydd.

Cynnwys
  • Cyfle Unigryw
  • Enwau enwog ar ddangos

Mae Ar Bapur yn dangos gwaith artistiaid cyfoes ac artistiaid o’r 20fed Ganrif sydd yn gweithio gyda phapur.

Mae’r arddangosfa yn edrych ar sut mae artistiaid wedi defnyddio papur fel ffocws i’w gwaith mewn ffyrdd creadigol ac anarferol.

Bydd gweithiau gan dros 40 o artistiaid i’w gweld yn yr arddangosfa, yn cynnwys Damien Hirst, Roy Lichtenstein, Eduardo Paolozzi, Cornelia Parker, Wolfgang Tillmans a Bridget Riley, ac artistiaid o Gymru Tim Davies, Ceri Richards a James Richards, ymysg nifer o rai eraill.

Nid yn unig mae’r artistiaid sydd i’w gweld yn ‘Ar Bapur’ yn defnyddio papur fel cyfrwng, ond maent hefyd yn ei ddefnyddio fel testun ar gyfer eu celf, gan ddangos amrywiaeth o ddulliau tuag at ludwaith, darlunio a cherflunio.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Cyfle Unigryw

Dywedodd Jo Marsh, Arweinydd y Celfyddydau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb: “Bydd dod ag ‘Ar Bapur’ i Wrecsam a Thŷ Pawb yn gyfle i’n cynulleidfaoedd weld rhywfaint o weithiau celf rhagorol ac artistiaid rhyngwladol enwog, a dyma’r tro cyntaf i rai ohonynt arddangos eu gwaith yn Wrecsam.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Gydag artistiaid o’r safon yma a fydd yn rhan o arddangosfa ‘Ar Bapur’, mae Tŷ Pawb yn datgan ei fwriad i fod yn ganolfan gelfyddydau o enwogrwydd rhyngwladol, tra’n parhau i gefnogi artistiaid lleol a chymunedau sydd yn gwneud Wrecsam.”

Artistiaid enwog, ar bapur, yn Wrecsam...
Artistiaid enwog, ar bapur, yn Wrecsam...
Artistiaid enwog, ar bapur, yn Wrecsam...

Enwau enwog ar ddangos

Yn cyd-fynd â’r arddangosfa mae cyhoeddiad â darluniau, yn cynnwys traethawd gan yr awdur ac arbenigwr papur Ian Sansom, a cherdd newydd ‘Forty-Nine Moments for the Substrate’ gan Joey Connolly sydd yn cael ei ysbrydoli gan y gweithiau sydd yn yr arddangosfa.

Y rhestr lawn o’r artistiaid sydd wedi’u cynnwys yn ‘Ar Bapur’ ydi: Roger Ackling; Art & Language; Gillian Ayres; Anna Barriball; Karla Black; Derek Boshier; Ian Breakwell; Tony Carter; Prunella Clough; Jason Coburn; Tim Davies; Kate Davis; Francis Davison; Lesley Foxcroft; General Idea; Brian Griffiths; John Hilliard; Damien Hirst; Gary Hume; Gwyther Irwin; Gareth Jones; Ilya Kabakov; Tania Kovats; Jim Lambie; Langlands & Bell; Roy Lichtenstein; Linder; Richard Long; Kenneth Martin; Margaret Mellis; Henry Mundy; Paul Noble; Eduardo Paolozzi; Cornelia Parker; Roland Penrose; Simon Periton; Ceri Richards; James Richards; Bridget Riley; Jack Smith; Richard Smith; Sarah Staton; John Stezaker; Tony Swain; Harry Thubron a Wolfgang Tillmans ac Eleanor Wood.

Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys nifer fechan o eitemau ar fenthyg o Gasgliad y British Council.

Mae arddangosfa deithiol Casgliad y Cyngor Celfyddydau, ‘Ar Bapur’, yn agor yn Nhŷ Pawb, Wrecsam rhwng 28 Gorffennaf a 23 Medi 2018, cyn parhau ar daith ar hyd a lled y DU.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

Ewch i wefan Tŷ Pawb yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://bit.ly/2s6hsrw”] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwasanaeth Coffa Blynyddol Gwasanaeth Coffa Blynyddol
Erthygl nesaf cooking, oil, recycling, centre Hen Olew? Cymerwn ni hwnnw!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English