Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Byddwch yn ffan-plastig am ailgylchu! Sut i ailgylchu plastig yn Wrecsam…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Byddwch yn ffan-plastig am ailgylchu! Sut i ailgylchu plastig yn Wrecsam…
Pobl a lleY cyngor

Byddwch yn ffan-plastig am ailgylchu! Sut i ailgylchu plastig yn Wrecsam…

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 22, 2018 2:59 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Plastic Bottles Recycling Wrexham
RHANNU

Peidiwch â drysu â phlastig!

Cynnwys
  • Pa blastig?
  • Rhowch olchiad iddyn nhw…
  • Cyngor defnyddiol…
  • Nid pethau’r gegin yn unig!
  • Helpwch ni i gyrraedd y targed!

Datgelodd erthygl ddiweddar ar Newyddion y BBC bod 47% o bobl yn anghytuno yn eu cartref am ba blastig y dylid eu hailgylchu a pha blastig na ddylid eu hailgylchu.

Mae rhan o’r broblem yn deillio o’r ffaith bod gymaint o wahanol fathau o blastig. Ond yn Wrecsam, gellir ailgylchu y rhan fwyaf o blastig wrth ymyl y ffordd.. felly, cadwch y ffraeo ar gyfer dadlau dros beth i’w wylio ar y teledu gyda’r nos 😉

Rydym eisiau bod ychydig yn gliriach ynghylch pa blastig y gellir eu hailgylchu yn Wrecsam.

Nid yw’n rhywbeth i’w ofni… rydym ni’n addo!

GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!

Pa blastig?

Gellir ailgylchu unrhyw fath o boteli plastig, pob math o hambyrddau bwyd plastig, tybiau plastig a photiau plastig (unrhyw liw) yn ymyl y ffordd yn Wrecsam. Mae mor syml â hynny!

Ni ellir ailgylchu bagiau plastig, cling ffilm, papur swigod na phacedi creision ar ymyl y ffordd.

Rhowch olchiad iddyn nhw…

Rhowch olchiad i bob un ohonynt yn eich peiriant golchi llestri cyn eu hailgylchu. Dylai pob eitem fod yn lân ac heb unrhyw weddillion bwyd a diod arnynt pan rydych yn eu hailgylchu. Os nad ydych yn siŵr, gwyliwch ein fideo 😉

Cyngor defnyddiol…

Gallwch wneud pethau’n haws i ni drwy dynnu caeadau oddi ar boteli plastig. “Sut mae hynny’n helpu?” rydych yn gofyn…

Mae’n golygu, y gallwch gael gwared â hylif a golchi’r poteli yn hawdd. Felly, cyn ailgylchu, tynnwch y caeadau, a golchwch a gwasgwch y poteli. Mae hyn yn rhoi mwy o le i chi yn eich bocs ailgylchu. Rydym yn gallu ailgylchu’r caeadau, felly taflwch nhw i mewn gyda gweddill eich plastig a chaniau.

Nid pethau’r gegin yn unig!

Mae’n deg dweud ein bod ni’n ailgylchu y rhan fwyaf o blastig ein ceginau…

Ond peidiwch ag anghofio am yr ystafell ymolchi! Gellir ailgylchu plastig eich ystafell ymolchi ar ymyl y ffordd hefyd…

Felly os ydych wedi gorffen â’ch poteli siampŵ, geliau ymolchi, glanhawyr ystafell ymolchi ac ati. Peidiwch ag anghofio ailgylchu’r rhain. Ond cofiwch eu glanhau cyn eu hailgylchu os gwelwch yn dda 🙂

Helpwch ni i gyrraedd y targed!

Y nod yng Nghymru yw ailgylchu 70% o wastraff plastig erbyn 2025. Mae Wrecsam yn ailgylchu mwy a mwy bob dydd ac rydym ni eisiau cyfrannu at gyflawni hyn.

I weld rhagor o ystadegau rhyngwladol, edrychwch ar erthygl Newyddion y BBC. Mae’n ddiddorol iawn!

Gobeithio bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch bellach i fod yn ffan-plastig am ailgylchu. Mae croeso i chi rannu’r wybodaeth arbenigol hon ag eraill 😉

Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/gwiriwch-a-golchwch-a-gofalwch-am-y-gweddillion-2-gyngor-ailgylchu-syml-ar-gyfer-gwell-wrecsam/”]DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynnig gofal plant ar gyfer Wrecsam gyfan Cynnig gofal plant ar gyfer Wrecsam gyfan
Erthygl nesaf Hanner tymor... agorwch eich dyddiaduron Hanner tymor… agorwch eich dyddiaduron

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English