Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad i’r wybodaeth a roddwyd yn y blog hwn ar 4.7.20.
Negeseuon allweddol yr wythnos hon
- Mae Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gogledd Cymru yn recriwtio pobl i ymuno â thimau ar draws y rhanbarth, yn cynnwys Wrecsam.
- Gallwch weld ffigurau diweddaraf Covid-19 ar gyfer Cymru trwy’r dangosfwrdd ar-lein sy’n cael ei ddarparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).
- Rydym ni’n cynnal asesiadau risg unigol cyn ailagor meysydd chwarae a chaeau chwaraeon y Cyngor.
- Gwarchod yng Nghymru i ddod i ben am y tro o 16 Awst.
- Bydd y ffi flynyddol am wasanaeth casglu gwastraff gardd yn Wrecsam yn cael ei gyflwyno ar 31 Awst.
- Mae nifer o fusnesau twristiaeth wedi ymuno â chynllun ‘Barod Amdani’,sydd yn cydnabod y mesurau diogelwch sydd wedi cael eu rhoi ar waith er mwyn rhoi sicrwydd i ymwelwyr.
- Newyddion bod ymateb trawsffiniol ar waith i gefnogi gweithlu Airbus.
- Gall busnesau sydd yn gweini bwyd i gael ei fwyta ar y safle ymuno â menter ‘Estyn Llaw drwy Fwyta Allan’.
Rhag ofn eich bod wedi methu…
Mae briff heddiw yn grynodeb o gyhoeddiadau, gwybodaeth a newidiadau ers yn gynharach yr wythnos hon…
Efallai mai hon fydd eich swydd bwysicaf erioed…
Mae Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gogledd Cymru yn recriwtio pobl i ymuno â thimau ar draws y rhanbarth mewn amrywiaeth o rolau.
Gobeithio eich bod wedi clywed am ‘olrhain cysylltiadau’ erbyn hyn a sut mae’n cael ei ddefnyddio i helpu i fynd i’r afael â Covid-19 yng Nghymru.
Mae’n golygu olrhain pobl sydd wedi dod i gysylltiad â pherson heintus, a rhoi cyngor iddynt am beth i’w wneud (e.e. cael prawf, hunan-ynysu).
Oes gennych chi’r sgiliau cywir ar gyfer un o’r swyddi hyn?
Dyma Morgan Thomas, un o’r swyddogion olrhain cysylltiadau ac sy’n helpu Wrecsam yn y frwydr yn erbyn Covid-19
“Dwi’n teimlo ein bod ni’n gwneud gwahaniaeth yn yr hyn rydym ni’n ei wneud, ac mae’r teimlad o warchod y gymuned wedi bod yn werth chweil.”
Dysgwch fwy am brofiadau Morgan fel swyddog olrhain cysylltiadau. .
Ffigurau diweddaraf ar ddangosfwrdd ICC
Gallwch weld ffigurau diweddaraf Covid-19 ar gyfer Cymru trwy’r dangosfwrdd ar-lein sy’n cael ei ddarparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).
Mae’n darparu crynodeb defnyddiol o ddata, yn cynnwys y nifer o achosion positif o Covid-19 ym mhob ardal.
Mae dangosfwrdd heddiw yn dangos 1,196 achos wedi’u cofnodi yn Wrecsam ers i’r broses brofi ddechrau…12 yn fwy na ddoe. Serch hynny, mae ICC yn pwysleisio nad yw’r rhain yn achosion newydd.
Maen nhw’n hen achosion positif (‘hanesyddol’) a gafodd eu cofnodi fel ‘ardal anhysbys’ yn flaenorol, gan nad oedd hi’n glir i ba ran o Gymru roeddynt yn berthnasol.
Felly nid yw’r rhain yn 12 achos newydd, ond yn 12 hen achos allai fynd nôl mor bell â mis Ebrill.
Gallwch ddarllen y diweddaraf gan ICC ar y wefan…
Cyfleusterau chwaraeon, chwarae a hamdden
Efallai eich bod chi’n meddwl pryd fydd meysydd chwarae a chaeau chwarae y Cyngor yn ailagor.
Rydym ni’n cynnal asesiadau risg ym mhob cyfleuster ac yn edrych pa arwyddion sydd angen cael eu gosod… er mwyn i ni ailagor yn ddiogel.
Gwarchod unigolion i ddod i ben yng Nghymru ar 16 Awst
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton wedi cadarnhau na fydd angen i bobl y gofynnwyd iddynt warchod eu hunain wneud hynny bellach ar ôl 16 Awst.
Mae’r newid yn y cyngor yn golygu y gall pobl yn y grŵp cysgodi fynd i’r gwaith neu i’r ysgol neu fynd i siopa ar ôl 16 Awst, ond dylen nhw barhau i gymryd camau i ddiogelu eu hunain.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru…
Bydd ffioedd casglu gwastraff gardd yn berthnasol o 31 Awst
Yn wreiddiol roedd y ffi flynyddol am wasanaeth casglu gwastraff gardd i fod i gael ei gyflwyno nôl ym mis Ebrill.
Cafodd ei ohirio yn sgil pandemig y Coronafeirws, ond bydd bellach yn cael ei gyflwyno ar ddydd Llun, 31 Awst.
Busnesau Wrecsam yn Barod Amdani…
Mae nifer o fusnesau twristiaeth ar draws y fwrdeistref sirol wedi ymuno â chynllun cenedlaethol ‘Barod Amdani’.
Mae’r cynllun yn cydnabod y mesurau diogelwch sydd wedi cael eu rhoi ar waith yn y cefndir er mwyn rhoi sicrwydd i ymwelwyr, tra’n parhau i ddarparu profiad gwych.
Ymateb trawsffiniol i gefnogi gweithlu Airbus ar y gweill
Mae Cyngor Wrecsam a Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy wedi croesawu’r newyddion bod ymateb trawsffiniol ar y gweill i gefnogi gweithlu Airbus a’r gadwyn gyflenwi ehangach.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru…
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gwahodd busnesau i gofrestru ar gyfer ‘Estyn Llaw drwy Fwyta Allan’
Gall busnesau sy’n gweini bwyd i’w fwyta ar y safle gofrestru ar gyfer menter newydd gan y llywodraeth o’r enw ‘Estyn Llaw drwy Fwyta Allan’.
Ei nod yw gwarchod swyddi ac annog pobl i ddychwelyd i fwyta allan yn ddiogel.
Parcio am ddim yng nghanol y dref – cadwch at y terfynau amser
Parcio am ddim yng nghanol y dref tan ddiwedd Medi ???? https://t.co/R7IwZHLkqM ???? #wrecsam @wrecsam pic.twitter.com/j423rwksQR
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) July 20, 2020
Nodyn Atgoffa – ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19
Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws.
YMGEISIWCH RŴAN
Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd, 4.7.20