Dyma grynodeb o’r wybodaeth Covid-19 ddiweddaraf sy’n effeithio ar Wrecsam…
(Ond, os nad oes gennych chi amser i’w darllen, y neges yn syml ydi – cymerwch frechiad!)
Trwydded Covid ar gyfer digwyddiadau a chlybiau nos
Heddiw cyhoeddwyd Llywodraeth Cymru y bydd rhaid i bobl cael trwydded Covid er mwyn cael mynediad i glybiau nos a digwyddiadau o fis nesaf. Mae’r mesur yn cael eu cyflwyno er mwyn helpu rheoli’r lledaeniad y firws, gan fod achosion yng Nghymru yn uchel ar hyn o bryd.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cymerwch frechiad
Os ydych chi’n cael cynnig brechiad, cymerwch o.
Brechlyn ydi’r ffordd orau i gadw’n ddiogel a byw bywyd ychydig yn fwy normal.
Os ydych chi eisoes wedi cael cynnig brechiad ac wedi’i wrthod, dydi hi ddim yn rhy hwyr i chi ailfeddwl.
Mae trefnu apwyntiad i dderbyn eich brechlyncyntaf neu’ch ail frechlyn cyn hawsed ag erioed ????????????
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN
Brechiad atgyfnerthu i bobl dros 50 oed
Yn gynharach yr wythnos hon argymhellodd y Cyd-Bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu y dylai unigolion dros 50 oed dderbyn brechiad atgyfnerthu.
Dylid rhoi’r brechiad atgyfnerthu o leiaf 6 mis ar ôl yr ail frechiad.
Mae brechiad atgyfnerthu hefyd yn cael ei argymell ar gyfer pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn yn ogystal â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.
Argymhellir hefyd bod unigolion 16-49 oed sydd â chyflyrau iechyd isorweddol, ac oedolion sy’n byw gydag unigolion imiwnoataliedig, hefyd yn derbyn y brechiad atgyfnerthu.
Os ydych chi’n gymwys, does dim rhaid i chi drefnu apwyntiad – byddwch yn derbyn apwyntiad yn eich tro.
Gallwch ddarllen mwy ar wefan y bwrdd iechyd lleol.
Un brechlyn ar gyfer pobl ifanc 12-15 oed
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd pobl ifanc 12-15 oed yn cael cynnig un brechlyn Pfizer.
Yn ogystal â darparu rhywfaint o fudd iechyd, bydd hyn yn helpu i leihau lledaeniad y feirws ac atal amhariadau pellach i addysg a chymunedau.
Bydd y bwrdd iechyd lleol yn dechrau brechu’r grŵp oedran yma ddydd Llun 4 Hydref a bydd yn ysgrifennu at rieni gyda rhagor o wybodaeth.
Bydd yn rhaid i rieni a gofalwyr roi caniatâd.
Uned brofi symudol yn Johnstown
Mae’r uned brofi symudol yn dychwelyd i Johnstown i wneud pethau ychydig yn haws i drigolion lleol dderbyn prawf Covid-19.
Mae’r cyfleuster mynediad hawdd yn cynnig profion PCR yng Nghanolfan Gymunedol Johnstown rhwng 9:30am a 5pm bob dydd Llun hyd nes clywch yn wahanol.
Helpwch i gadw Covid draw o’r ysgolion
Drwy gadw at y canllawiau canlynol gan Lywodraeth Cymru fe allwch chi helpu i gadw Covid draw o’r ystafell ddosbarth yr hydref hwn…
- Os oes gan eich plentyn unrhyw symptom, dim ots pa mor ysgafn, cadwch nhw gartref ac archebwch brawf.
- Dim symptomau? Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwneud prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos ac adrodd am y canlyniadau.
- Dilynwch reolau’r ysgol o ran gorchuddion wyneb. Bydd yn rhaid i ddisgyblion uwchradd (blwyddyn 7 a hŷn) eu gwisgo ar gludiant ysgol.
- Cymerwch y brechlyn os caiff ei gynnig i chi neu’ch plentyn.
- Golchwch eich dwylo yn rheolaidd.
5 peth gallwch chi wneud i helpu cadw Covid i ffwrdd o ysgolion yr hydref hwn
Peidiwch ag anwybyddu gweithwyr olrhain cysylltiadau
Atgoffir pobl bod yn rhaid iddyn nhw ateb galwadau ffôn gan weithwyr olrhain cysylltiadau a dilyn unrhyw gyngor a ddarperir.
Yn ôl Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Wrecsam mae yna lond llaw o bobl sy’n parhau i anwybyddu galwadau a chyngor, gan roi eu hunain ac eraill mewn perygl.