Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd ar y blog hwn ar 31.07.20.
Negeseuon allweddol yr wythnos hon
- Wrth i dafarndai a bwytai canol y dref barhau i ailagor, mwynhewch, ond mwynhewch yn gyfrifol, byddwn yn cymryd camau os bydd cyfyngiadau cyfreithiol yn cael eu torri er mwyn amddiffyn iechyd preswylwyr a gweithwyr.
- Rydym ni’n parhau i ailagor gwasanaethau
- Cofrestru genedigaethau
- Ond cofiwch ddilyn yr holl ganllawiau i Gadw Wrecsam yn Ddiogel
Ond yn gyntaf – gair o ddiolch gan yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr…
“Rydym ni wrth ein bod unwaith eto yn diolch i bawb yn Wrecsam am eu cefnogaeth barhaus a’r ymdrech er mwyn ailagor ein gwasanaethau.
Mae’r nifer o asesiadau risg sy’n cael eu cynnal yn eithriadol o uchel ond maent yn gwbl angenrheidiol os ydym ni am barhau i gadw ein staff a chwsmeriaid yn ddiogel, ac mae’n rhaid rhoi teyrnged i’n staff sydd yn ymgymryd â’r dasg enfawr hon.
Fe fydd bywyd yn parhau’n wahanol iawn am beth amser, felly mae’n rhaid i bawb ohonom fod yn wyliadwrus o Covid-19 os ydym ni eisiau Cadw Wrecsam yn Ddiogel.
Yn sgil mynediad hawdd at ganolfannau profi ym Mharc Caia a Hightown yr wythnos diwethaf, cafodd 11 person allan o 1400 brawf positif am Covid-19 ac maent bellach wedi mynd drwy’r system Profi, Olrhain a Diogelu ac mae pobl yn hunan ynysu lle bo angen.
Roedd yn ganlyniad ardderchog ac rydym ni’n parhau i drafod gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn monitro beth sy’n digwydd yn Wrecsam ac rydym ni’n barod i weithredu ymhellach os bydd angen.
Diolch i bawb: Ian Bancroft, Prif Weithredwr, Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor.
Rydym ni’n parhau i ailagor gwasanaethau
Yr wythnos hon cafodd Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chaffi Cyfle ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun eu hailagor. Erbyn hyn, rydym ni’n gweithio ar gyfleusterau hamdden a fydd yn agor ar 17 Awst a gwasanaethau amrywiol eraill, ac fe fydd gennym ni newyddion i chi am y rheini pan fyddwn wedi cadarnhau’r dyddiadau.
Fe agorodd tafarndai ar draws y fwrdeistref sirol eu drysau i gwsmeriaid am y tro cyntaf ers mis Mawrth, ac rydym yn falch o ddweud fod y mwyafrif yn cymryd rhagofalon i gadw pawb yn ddiogel.
Yn anffodus, ar ôl agor eu gerddi cwrw, methodd dwy dafarn â chydymffurfio, hyd yn oed ar ôl cael rhybudd. Maent bellach wedi derbyn hysbysiad o ddiffyg cydymffurfio a bydd yr adran Drwyddedu yn cadw golwg rheolaidd arnynt a sefydliadau tebyg i sicrhau eu bod yn cymryd yr holl ragofalon angenrheidiol.
Cofrestru genedigaethau
Fe ailgychwynnodd y Gwasanaeth Cofrestru gofrestru genedigaethau ddydd Llun diwethaf, 3 Awst ar gyfer babanod a aned yn Ysbyty Maelor, Wrecsam.
Er mwyn cadw cwsmeriaid a staff yn ddiogel yn ystod argyfwng Coronafeirws (COVID-19), ac er mwyn defnyddio ein hadnoddau cyfyngedig yn y ffordd orau posibl, rydym wedi gwneud newidiadau i’r gwasanaeth.
Cofiwch ddilyn yr holl ganllawiau diogelwch
Wrth i ni ailgydio yn ein gwasanaethau a chefnogi masnachwyr a busnesau wrth iddynt ailagor, rydym yn gofyn i chi gyd gofio fod yna ganllawiau ar waith sydd angen eu dilyn os ydym ni am Gadw Wrecsam yn Ddiogel ac osgoi gorfod cael cyfnod clo arall.
Mae’n hollbwysig ein bod ni gyd:
- Yn glanhau ein dwylo’n rheolaidd naill ai gyda sebon a dŵr neu ddiheintydd.
- Yn cadw ein dwylo oddi ar ein hwyneb.
- Yn cadw pellter cymdeithasol (2 fetr) oddi wrth unrhyw un nad ydym ni’n byw â nhw
- Gwisgo gorchudd wyneb pan fo angen gwneud hynny (tacsis a rhai dulliau o gludiant cyhoeddus)
Dilyn y newyddion a’r cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Rhag ofn eich bod wedi methu…
Dyma erthyglau pwysig rydym ni wedi’u cyhoeddi yr wythnos hon rhag ofn eich bod wedi eu methu:
Mae Amgueddfa ac Archifdy Wrecsam bellach wedi ailagor
Bydd Amgueddfa Wrecsam yn ailagor i ymwelwyr ar ddydd Llun 3 Awst, rhwng 11am a 4pm.
Mae wedi bod yn amser hir, ond o’r diwedd ar ôl pedwar mis o’r cyfnod clo, maent yn cael ailagor a chroesawu pobl leol ac ymwelwyr i Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae rhywfaint o newidiadau wedi cael eu cyflwyno er mwyn sicrhau fod pawb yn teimlo’n ddiogel er mwyn i chi ymlacio a mwynhau eich ymweliad ag Amgueddfa Wrecsam.
Parcio am ddim yng nghanol y dref
Nodyn i’ch atgoffa y gallwch barcio yma ddim ym mhob un o feysydd parcio y Cyngor yng nghanol y dref. Gallwch barcio am ddim tan ddiwedd mis Medi.
Clicio a Chasglu bellach ar gael ar y Stryd Fawr
Rydym wedi creu 4 man parcio penodol ar gyfer Clicio a Chasglu ar y Stryd Fawr er mwyn helpu ein masnachwyr marchnad.
Mae nifer o fasnachwyr wedi darparu eu manylion cysylltu hyd yn hyn, felly gallwch archebu ymlaen llaw a’u casglu ganddyn nhw.
Ffigurau diweddaraf ar ddangosfwrdd ICC
Gallwch weld ffigurau diweddaraf Covid-19 ar gyfer Cymru trwy’r dangosfwrdd ar-lein sy’n cael ei ddarparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).
Mae’n darparu crynodeb defnyddiol o ddata, yn cynnwys y nifer o achosion positif o Covid-19 ym mhob ardal.
Gallwch ddarllen y diweddaraf gan ICC ar y wefan
Bydd ffioedd casglu gwastraff gardd yn berthnasol o 31 Awst
Erbyn hyn gallwch wneud taliad gyda cherdyn dros y ffôn os ydych eisiau parhau i gael gwasanaeth gwastraff gardd o 31 Awst. I wneud hyn, ffoniwch y ganolfan gyswllt ar 01978 298989.
Diwrnod Chwarae – digwyddiad rhagorol ond gwahanol
Bob blwyddyn mae ein tîm yn gweithio gyda sefydliadau ar draws Wrecsam ac adrannau eraill o’r Cyngor i gynnal Diwrnod Chwarae.
Eleni, roedd y tîm yn benderfynol o beidio â gadael i’r cyfyngiadau eu hatal rhag darparu digwyddiad ardderchog i’n plant, ac fe wnaethant droi at dechnoleg fodern i’w helpu.
Os ydych chi’n dilyn ein tudalennu ar gyfryngau cymdeithasol, byddwch wedi sylwi fod Diwrnod Chwarae wedi cymryd drosodd gyda fideos, caneuon, straeon, pethau i’w gwneud a llawer gormod i sôn amdanynt.
Roedd y canlyniadau yn anhygoel ac mae dadansoddiad o’r ystadegau yn dangos eu bod wedi cyrraedd 4 miliwn o bobl!
- Cafodd 51 ffilm eu llwytho ar YouTube a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol
- Cafodd y ffilmiau eu gwylio 843 gwaith ar YouTube (nid yw hyn yn cynnwys y nifer o bobl y’u gwyliodd yn uniongyrchol ar Facebook a Twitter) (06.08.20)
- Roedd yna 1670 clic ar y cynnwys
- Cyrraedd 4 miliwn
Maent yn dal i gael eu rhannu ac mae’r fideos yn dal i gael eu gwylio felly, fe fydd y ffigur yma’n cynyddu.
Nodyn Atgoffa – ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19
Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy: