Mae Senedd yr Ifanc wedi bod yn gweithio ar eu blaenoriaeth “Ein Hamgylchedd” yn dilyn pleidlais gan bobl ifanc ar draws Wrecsam y llynedd.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Cam nesaf y Senedd oedd darganfod pa faes o’n hamgylchedd y dylent weithio arno ac adnabod 6 maes lle mae modd lleihau newid hinsawdd:
Gwarchod Byd Natur e.e. Sicrhau goroesiad hirdymor mannau gwyrdd a pharciau cenedlaethol, annog pobl i beidio â defnyddio plaladdwyr, archwilio rheoli afonydd.
Ailgylchu e.e. Sicrhau bod plastig, metel, gwydr, papur a bwyd yn cael eu hailgylchu’n gywir, annog pobl i ddefnyddio cynnyrch y gellir eu hailddefnyddio.
Cludiant e.e. Lleihau’r defnydd o gerbydau petrol a disel, annog pobl i ddefnyddio cludiant gyhoeddus, rhannu car, beicio a cherdded (Yn ystod Covid 19 – yn unol â chyngor y Llywodraeth).
Tai ac Adeiladau e.e. Annog Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i sicrhau bod adeiladau yn effeithlon o ran ynni, hyrwyddo lleihau olion traed carbon.
Ffynonellau bwyd e.e. Annog pobl i fwyta cynnyrch sydd wedi’i dyfu’n lleol, dangos manteision byd-eang.
Ffynonellau Ynni e.e. Archwilio ffynonellau ynni eraill a rhai adnewyddadwy megis ynni niwclear neu ynni’r gwynt, lleihau’r defnydd o danwyddau ffosil.
Diogelu Byd Natur oedd ar y brig, a’r cam nesaf yw gofyn i bobl ifanc ar draws Wrecsam pa faes o dan ‘Diogelu Byd Natur’ maent eisiau gweithio arno.
Cadwch lygad am eu pleidlais ar ddechrau mis Hydref a fydd yn gofyn i bobl bleidleisio ar:
- Mannau gwyrdd
- Plannu coed a blodau gwyllt
- Rheoli afonydd
- Cnydau a phlaladdwyr
- Gwarchod bywyd
- Glanhau
- Gwarchod byd natur
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae pobl ifanc yn ymwybodol iawn o’u hamgylchedd ac mae’n destun mor eang bod canolbwyntio ar un agwedd yn ffordd synhwyrol iawn o symud ymlaen. Trwy roi eu holl sylw arno maent yn debygol o weld canlyniadau a ‘dwi’n edrych ymlaen at weld sut y byddant yn gwneud hyn dros y misoedd nesaf a sut y bydd yn cyd-fynd â’r gwaith y byddwn ni’n ei wneud ers i ni ddatgan argyfwng hinsawdd y llynedd.”
Dywedodd Alex Pengelly, Is-gadeirydd Senedd yr Ifanc: “Mae Diogelu Byd Natur yn destun pwysig iawn y dylai pawb ohonom boeni amdano. Mae yna lawer y gallwn ei wneud i helpu a dwi’n gwybod y bydd pobl ifanc ar draws Wrecsam yn fodlon cefnogi Senedd yr Ifanc gyda’r gwaith yma. Mae’n gyfrifoldeb ar bawb i Ddiogelu Byd Natur.”
Gallwch ddarllen mwy am y penderfyniad i ddatgan argyfwng hinsawdd yma:
Y Cyngor yn nodi’r hyn sydd angen ei wneud yn yr Argyfwng Hinsawdd
Senedd yr Ifanc yw Senedd Ieuenctid Wrecsam sydd yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed ar faterion lleol a chenedlaethol.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION