Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd, 4.7.20
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd, 4.7.20
Y cyngor

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd, 4.7.20

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 17, 2020 2:15 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Covid 19
RHANNU
Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd ar y blog hwn yr wythnos diwethaf (26.6.20).

Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw

  • Beth mae diweddariad heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei olygu i Wrecsam? Gall pawb ohonom barhau i deimlo’n ddiogel a hyderus os ddilynwn ni’r arweiniad swyddogol.
  • Mae tafarndai yn Lloegr yn ailagor y penwythnos hwn, ond cofiwch fod y rheol pum milltir dal mewn grym yng Nghymru…ac mae tafarndai ochr yma’r ffin dal i fod ar gau am y tro.

Beth mae datganiad heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei olygu i Wrecsam?

Mae diweddariad heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn cynnwys tair neges bwysig…

Cynnwys
        • Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd ar y blog hwn yr wythnos diwethaf (26.6.20).
      • Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw
  • Beth mae datganiad heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei olygu i Wrecsam?
      • “Diogel a hyderus”
      • Ailagor tafarndai yn Lloegr – ond cofiwch am y rheol pum milltir
  • Toiledau Stryt Henblas yn ailagor
  • Clicio a chasglu yn Llyfrgell Wrecsam
  • Marchnad a neuadd fwyd Tŷ Pawb yn ailagor
  • Parchwch fynwentydd
  • Nodyn Atgoffa – ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19
  • Mae’r tîm sy’n rheoli’r achosion sy’n gysylltiedig â Rowan Foods wedi cofnodi cynnydd bychan o chwe achos ers dydd Mercher (gan ddod â’r cyfanswm i 289 o achosion).
  • Does dim tystiolaeth fod yr achosion newydd wedi’u seilio yn y ffatri, ac mae’r canlyniadau fel yr hyn y byddai ICC yn ei ddisgwyl wrth gynnal profion penodol.
  • Mae gennym rôl i’w chwarae wrth atal lledaeniad y feirws trwy ddilyn y canllawiau – yn cynnwys cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo’n rheolaidd, ac osgoi rhannu car gyda phobl o du allan i’n haelwyd ein hunain.

Felly beth mae hyn yn ei olygu i Wrecsam?

“Diogel a hyderus”

Mae’n golygu y gall pawb ohonom barhau i deimlo’n ddiogel a hyderus os ddilynwn ni’r arweiniad swyddogol.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol:

“Boed chi’n siopa yng nghanol y dref, yn anfon eich plant yn ôl i’r ysgol neu’n ymweld â’n parciau a mannau agored…cyn belled â’n bod yn cadw at y rheolau ac yn dilyn cyngor y llywodraeth, gall pawb ohonom deimlo’n ddiogel.

“Mae’r sefyllfa sy’n gysylltiedig â’r ffatri yn cael ei reoli’n ofalus gan y tîm aml asiantaeth dan arweiniad ICC, a dim ond chwe achos newydd sydd wedi cael eu cofnodi ers dydd Mercher.

“Mae’r nifer fawr o wybodaeth ac arbenigedd sydd ar gael yn sicrhau ymagwedd benodol a gwyddonol a ddylai roi llawer o sicrwydd i bobl yn Wrecsam.

“Serch hynny, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn iawn i’n hatgoffa fod gennym rôl i’w chwarae yn y frwydr yn erbyn y Coronafeirws. Tydi pethau ddim drosodd eto.

“Ond os weithiwn ni gyda’n gilydd trwy gadw at y rheolau, gallwn barhau i deimlo’n ddiogel ac yn hyderus yn ein bwrdeistref sirol.”

Ailagor tafarndai yn Lloegr – ond cofiwch am y rheol pum milltir

Mae tafarndai yn Lloegr yn ailagor y penwythnos hwn, ond cofiwch….mae’r rheolau yn wahanol yng Nghymru.

Er bod disgwyl i’r rheol pum milltir newid yn fuan, mae’n parhau i fod mewn grym y penwythnos yma. Felly os ydych chi’n byw yng Nghymru, ni ddylech deithio yn bellach na phum milltir am ddibenion dianghenraid (sy’n cynnwys picio dros y ffin i fynd i’r dafarn).

Mae tafarndai yng Nghymru yn parhau i fod ar gau am y tro.

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS

Toiledau Stryt Henblas yn ailagor

Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaethom ailagor toiledau Stryt Henblas i gefnogi siopa dianghenraid yn dychwelyd i ganol tref Wrecsam.

Mwy o wybodaeth…

Clicio a chasglu yn Llyfrgell Wrecsam

Rydym ni hefyd yn treialu gwasanaeth clicio a chasglu newydd yn Llyfrgell Wrecsam…i’ch helpu i gael gafael ar eich hoff lyfrau.

Mwy o wybodaeth…

Marchnad a neuadd fwyd Tŷ Pawb yn ailagor

Mae marchnad a neuadd fwyd Tŷ Pawb bellach ar agor rhwng 10am a 4pm, ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ac mae masnachwyr bwyd penodol yn cynnig bwyd i fynd tan 6pm.

Mwy o wybodaeth…

Parchwch fynwentydd

Parchwch fynwentydd. Diolch ???? #wrecsam pic.twitter.com/trNs23SlFj

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) July 11, 2020

Nodyn Atgoffa – ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19

Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:

  • Llywodraeth Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd, 26.6.20

Rhannu
Erthygl flaenorol llangollen Llangollen Arlein yn cyflwyno neges arbennig gan Dywysog Cymru ynghyd
Erthygl nesaf Light It Blue #LightItBlue

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English