Categori: Busnes ac Addysg

  • Rydym yn chwilio am brentis i weithio gyda ni yn Swyddfa’r Wasg

    Rydym yn chwilio am brentis i weithio gyda ni yn Swyddfa’r Wasg

    Yma yn swyddfa’r wasg y Cyngor rydym yn chwilio am brentis arbennig iawn i ymuno â’n tîm.

    Byddwch yn ein helpu i ysgrifennu erthyglau ar gyfer y blog newyddion hwn ac ar gyfer y wasg, diweddaru ein safleoedd cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu erthyglau ar gyfer cylchgronau a phapurau newydd, helpu i ddadansoddi a gwerthuso’r sylw a roddir i ni yn y wasg a mynychu cyfarfodydd a sesiynau briffio. Byddwch hefyd yn helpu gyda threfnu digwyddiadau yn ôl y gofyn.

    Mae isafswm o ran cymwysterau a bydd angen i chi fod yn siaradwr Cymraeg a meddu ar 5 TGAU gradd C neu gyfystyr â hynny gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.

    Dylech hefyd fod yn frwdfrydig ac egnïol, yn mwynhau gweithio gyda phobl a dysgu sgiliau newydd, yn dda yn trefnu eich amser eich hun, yn gallu cadw amser yn dda, â’r gallu i gwrdd â thargedau a therfynau amser, yn gallu gweithio ar eich pen eich hun yn ogystal â bod yn chwaraewr tîm, yn ddibynadwy ac â pharch tuag at eraill.

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    Darperir hyfforddiant a byddwch yn astudio gydag ITEC am eich NVQ Diploma Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes, Cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif Lefel 1, Cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu Lefel 1, Cymhwyster Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol Lefel 1 a byddwch hefyd yn derbyn hyfforddiant Stiwardio.

    “cyfle cyffrous”

    Dywedodd Sue Wyn Jones, Arweinydd Brand, Digidol a Chyfathrebu am y brentisiaeth:

    “Dyma gyfle cyffrous i siaradwr Cymraeg brwdfrydig ac egnïol i ddod yn rhan o fyd y cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus a dod yn rhan o dîm dynamig sy’n gweithio yng nghanol y Cyngor. Mae popeth yr ydym yn ei wneud yn ddwyieithog ac mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y brentisiaeth hon.”

    Os ydych yn llwyddiannus gallwch ddechrau gyda ni fis Hydref. Medi 19 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ac felly os oes gennych awydd dysgu sut i weithio gyda’r cyfryngau ac ennill cymhwyster ar yr un pryd mewngofnodwch ar wefan Gyrfa Cymru:

    https://ams.careerswales.com 

    Os cewch eich cynnwys ar y rhestr fer am gyfweliad fe gewch wahoddiad am gyfweliad yn Neuadd y Dref. Yn y cyfweliad gofynnir i chi roi cyflwyniad byr ar bwnc a gaiff ei roi i chi ymlaen llaw cyn y cyfweliad. Bydd cyfweliad wyneb yn wyneb mwy ffurfiol yn dilyn hynny. Bydd rhan o’r cyfweliad yn y Gymraeg oni bai fod yr ymgeisydd yn dymuno i’r cyfweliad cyfan gael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.

    Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

  • Ydych chi am i’ch plant fynd i ysgol Gymraeg? Rydym yn creu mwy o ddewis i chi

    Ydych chi am i’ch plant fynd i ysgol Gymraeg? Rydym yn creu mwy o ddewis i chi

    Mae’r galw am addysg Gymraeg ar gynnydd yn Wrecsam, ac felly bydd Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam yn trafod cynlluniau’r mis hwn i gynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael.

    Yn ei adroddiad dywed y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol dros Bobl –Addysg, ei fod yn sylweddoli mai o drwch blewyn y caiff y galw presennol am leoedd dosbarth derbyn cyfrwng Cymraeg ei ateb, a rhagwelir y bydd y galw’n cynyddu ac felly mae angen i ni gynllunio ymlaen llaw nawr

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    Dywedodd: ‘Mae’n bleser gen i gyflwyno’r adroddiad hwn i’r Bwrdd Gweithredol. Mae’r cyfle wedi codi i ymdrin â’r cynnydd a ddisgwylir yn y galw am leoedd cynradd cyfrwng Cymraeg gan ddefnyddio’r stoc ystâd ysgolion presennol tra’n aros am gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru am ein cais ariannu sydd wedi ei gyflwyno ar gyfer Band B ysgolion yr 21ain ganrif, nad yw’n dechrau tan Ebrill 2019. Unwaith y mae wedi ei gymeradwyo, bydd yr ymgynghoriad yn mynd yn ei flaen gyda budd-ddeiliaid ac rwy’n sicr y bydd eu safbwyntiau’n ein helpu i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen.’

    Mae’r adroddiad yn amlinellu cynnig i gwblhau cyfuno ysgol Fabanod Borras a’r ysgol Iau drwy symud yr holl ddisgyblion i’r safle iau presennol. Bydd y safle babanod wedyn yn cael ei wella a’i agor fel ysgol cyfrwng Cymraeg newydd.

    Tra bod y gwaith hwn yn digwydd, bydd safle dros dro ar gyfer yr ysgol yn cael ei leoli yn hen safle ysgol babanod Hafod y Wern, gyda’r niferoedd cyntaf i gael eu derbyn ym Medi 2019 ar gyfer y dosbarthiadau meithrin a derbyn yn unig.

    Mae disgwyl i ymgynghoriad ar y cynlluniau hyn ddigwydd rhwng 26 Medi a 7 Tachwedd.

    Bydd yr ysgol newydd yn arwain at gynnydd mewn mynediad a dewis ehangach i’r rhai sy’n dymuno addysgu eu plant drwy gyfrwng y Gymraeg.

    Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

  • Ydych chi’n rhentu eiddo yng Nghymru? Darllenwch hyn…

    Ydych chi’n rhentu eiddo yng Nghymru? Darllenwch hyn…

    Ers mis Tachwedd 2016, bu’n orfodol i bob eiddo a rentir yn breifat yng Nghymru gael ei gofrestru, ac i bob landlord ac asiant i gofrestru a gwneud cais am drwydded.

    Mae Rhentu Doeth Cymru yn prosesu cofrestru landlordiaid a rhoi trwyddedau i landlordiaid ac asiantau sudd yn gorfod gydymffurfio â Deddf Tai (Cymru) 2014.

    Hyd yma mae 2,248 o landlordiaid wedi cofrestru yn ardal Wrecsam. Os nad ydych chi’n un ohonyn nhw, mae angen ichi wneud rhywbeth am hyn nawr. 

    Mae’n anghyfreithlon i landlord neu asiant weithredu heb drwydded a gallai wynebu hysbysiad cosb o £150/£250 neu hyd yn oed erlyniad.

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    Sut i wneud cais am hyfforddiant

    Mae Rhentu Doeth Cymru yn rhedeg un o’i gyrsiau hyfforddi landlordiaid yn Wrecsam y mis hwn.

    Cynhelir y cwrs ym Mhrifysgol Glyndŵr ar 15 Medi 2017.  

    Bydd y cwrs yn darparu trosolwg byr o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac yna’n symud yn gyflym i ddarparu ystod gynhwysfawr o bynciau a fydd o werth i unrhyw landlord sy’n rhentu eiddo yng Nghymru.  

    Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Hugh Jones: “Mae Rhentu Doeth Cymru yn gynllun nodedig sy’n gwella rhagolygon tai tenantiaid yn y sector rhentu preifat gan ei gwneud yn ofynnol i reolwyr landlordiaid ac asiantau ymgymryd â hyfforddiant i sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau.

    “Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ymwneud â rhentu tai preifat i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth hon ac yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael yn ardal Wrecsam.”

    Am ragor o fanylion am y cynllun trwyddedu newydd, neu i gadw’ch lle ar y cwrs hwn, ewch i wefan Rhentu Doeth Cymru neu ffoniwch 03000 133344
    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”tel:// “]FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL[/button]
    Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

  • Café in the Corner – Edrych Ymlaen at Ddyfodol Gwell

    Café in the Corner – Edrych Ymlaen at Ddyfodol Gwell

    Wrth i ni barhau ein taith o fasnachwyr canol tref annibynnol, gwnaethom alw i Café in the Corner – sydd yn Arcêd y De ar hen Farchnad y Bobl – i siarad gyda’r perchnogion, Sue a Kev Dipple.

    Mae Sue a Kev wedi bod yn Arcêd y De ers mis Medi llynedd, ar ôl symud o neuadd y farchnad cyn i’r gwaith i greu’r cyfleuster celf a marchnadoedd £4.5 miliwn newydd dechrau.

    Yn wreiddiol o Ganolbarth Lloegr, daeth Sue a Kev i Wrecsam ym 1999 pan symudodd gweithle Kev, i’r Stâd Ddiwydiannol.

    Ar ôl ychydig flynyddoedd, cafodd ei ddiswyddo, a phenderfynodd fynd i’r busnes masnachu’n llawn amser gan ei fod yn benderfynol o beidio cael ei ddiswyddo eto.

    Dechreuodd fasnachu ym marchnad Y Wyddgrug yn gwerthu tatws poeth. Parhaodd hyn yn llwyddiannus am beth amser, a gwnaeth Kev y penderfyniad i symud i’r eiddo parhaol pan ddaeth Café in the Corner ar y farchnad yn 2012.

    Bachodd ar y cyfle ac mae wedi bod yn masnachu yng nghanol y dref ers hynny.

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    Mae busnes y caffi yn eithaf araf ar hyn o bryd, gan fod cau neuadd y farchnad wedi effeithio ar nifer yr ymwelwyr yn yr ardal.

    Ond maen nhw’n optimistaidd ar gyfer y dyfodol a gallant weld manteision y darlun ehangach pan fydd y cyfleuster newydd ar agor ar gyfer busnes y flwyddyn nesaf.

    Dywedodd Kev: “Rwy’n siomedig gyda masnach ar hyn o bryd ond mae’r dyfodol yn ddisglair ac rwy’n edrych ymlaen at pan fydd y cyfleuster newydd yn agor, a fydd yn dod â marchnad newydd i ni a’n cwsmeriaid rheolaidd presennol. Rydym bob amser yn ceisio cadw ar ben ein marchnad a byddwn yn barod i newid os bydd y farchnad newydd yn golygu bod rhaid i ni.”

    Gwnaethom ofyn am eu syniadau marchnata ac roedd Kev yn gyffrous i fod yn symud i farchnata digidol ar ôl dibynnu ar farchnata ar lafar am sawl blwyddyn.

    Dywedodd:  “Er fy mod yn gwybod nad oes llawer o’n cwsmeriaid rheolaidd presennol yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol byddem yn wirion i beidio cydnabod pŵer cyfryngau cymdeithasol a sut gallai helpu ein busnes yn y dyfodol. Rydym ar Facebook a byddwn am gynyddu nifer ein dilynwyr dros y misoedd i ddod yn barod ar gyfer agor y cyfleuster newydd a chyfarfod cwsmeriaid newydd. Nid oes angen i’n cwsmeriaid rheolaidd boeni, gan ein bod yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth a’u cwsmeriaeth parhaus, a bydd croeso bob amser iddynt yma yn Café in the Corner.”

    Mae Kev eisoes yn cysylltu gyda’r celfyddydau ac mae’r caffi yn darparu lluniaeth i weithdai Oriel Wrecsam. Mae hefyd yn cael cefnogaeth a chyngor busnes gan y cyngor, sydd wedi cynnig help ariannol tra mae gwaith adeiladu yn parhau i effeithio ar ei fasnach.

    Yma yn newyddion.wrecsam.gov.uk hoffem ddiolch i Kev a Sue am eu hamser a dymunwn bob lwc iddynt at y dyfodol.

    Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio:

    “Rwy’n llongyfarch Kev a Sue am eu hymrwymiad i Wrecsam a’u penderfyniad i aros yn ffyddlon i’w cwsmeriaid yn ystod cam adeiladu’r cyfleuster celf a marchnadoedd newydd. Mae’r dyfodol yn edrych llawer mwy disglair ar gyfer y rhan hon o’r dref ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cyfleuster newydd yn rhedeg a dod â niferoedd uwch o gwsmeriaid i fusnesau annibynnol sy’n parhau i fasnachu yno.”

    Gallwch ddod o hyd o Café in the Corner ar Facebook https://www.facebook.com/Café inthecorner

    Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

  • Ewch i Charles Street am Bwdin Blasus

    Ewch i Charles Street am Bwdin Blasus

    Fel rhan o’n taith o amgylch masnachwyr annibynnol canol y dref, aethom i siop “Just Desserts” ar Charles Street i weld sut mae busnes yno.

    Wrth gerdded i mewn i’r siop gall y cwsmer arogli’r melysfwyd hyfryd sy’n eu disgwyl o bentwr o grempogau “Butter Beer” a ysbrydolwyd gan Harry Potter i doesenni wedi’u llenwi â hufen iâ – mae’r fwydlen ar y wal yn wledd i’r llygad heb sôn am y bol a gallwch roi modd i fyw i deulu o bedwar am £10.00 yn unig os yw arian yn dynn.

    Agorodd Carl a Sarah Hughes eu siop ym mis Tachwedd y llynedd ond maen nhw bellach yn mynd allan i ddigwyddiadau ac mae’r dyfodol yn edrych yn addawol iawn iddyn nhw. Maen nhw newydd sicrhau contract i weini eu melysfwyd yn gemau’r Crusaders a gynhelir yn Queensway. Roedden nhw hefyd yn nigwyddiad diwethaf ‘Rock the Park’ yn Marchwiel ac mae’r dyddiadur yn prysur lenwi gyda gwahanol ddigwyddiadau.

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    “rhaid gweithio’r oriau”

    Dywedodd Sarah:

    “Mae’n wych yma ar Charles Street gan fod pawb mor gyfeillgar ac rydym i gyd yn helpu ein gilydd. Heb os, mae’n waith caled ac er mwyn bod yn llwyddiannus mae’n rhaid i ni weithio’r oriau a bod yn barod i weithio’n galed. Rydym yn gweithio chwe diwrnod yr wythnos ond mae’n werth o. Mae pobl i’w gweld yn mwynhau ein pwdinau ac rydym yn bendant yn mwynhau eu gwneud nhw.”

    Mae ei sylfaen cwsmeriaid yn eithriadol o eang ac mae un o’n cwsmeriaid yn dod o Awstralia ac eraill o Lerpwl a Manceinion. Er hynny, roedd y cwsmeriaid o Lerpwl yn masnachu drws nesaf i ‘Just Desserts’ mewn digwyddiad diweddar ac yn teimlo cywilydd braidd pan welsom ni eu bod wedi dwyn ein ryseitiau. Mae’n debyg eu bod wedi bod ar daith ‘ymchwil’ ac wedi mwynhau’r hyn a welsant.

    “Roedd Busnes Cymru yn help mawr”

    Pan wnaethom ofyn pa gefnogaeth yr oeddent wedi’i gael i sefydlu’r busnes roedd Carl yn awyddus i gydnabod help Busnes Cymru yn y dyddiau cynnar – “Roedd Busnes Cymru yn help mawr ac fe aethom ar gwrs a redwyd ganddyn nhw yn Rhydfudr ar yr Ystad Ddiwydiannol a oedd yn wych. Mae tipyn ohonom a oedd ar y cwrs hwnnw wedi mynd ymlaen i sefydlu busnes eu hunain. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried rhedeg busnes – hyd yn oed os nad ydyn nhw’n siŵr pa fath o fusnes – i gysylltu â nhw gan eu bod yn gefnogol iawn.

    Mae Adran Diogelwch Bwyd y Cyngor hefyd wedi cael canmoliaeth gan iddyn nhw alw heibio yn gynnar iawn yn y broses. Roedden nhw wedi paratoi eu hunain i wneud llawer o newidiadau yn y gegin er mwyn cyrraedd y safon ond yn y diwedd ni fu raid iddyn nhw wneud cymaint o newidiadau ac mae gan y siop sgôr hylendid bwyd o 5.

     

    Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

  • Oes gennych chi syniad newydd ar sut i hyrwyddo’r iaith Gymraeg?

    Oes gennych chi syniad newydd ar sut i hyrwyddo’r iaith Gymraeg?

    Tra bo’r llywodraeth yn ceisio cyrraedd ei nod o gael un filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050, ceisir am syniadau newydd ac arloesol i annog mwy o bobl i siarad Cymraeg a hyrwyddo’r iaith.

    Mae’n dod yn haws i ddechrau dysgu Cymraeg, gydag ystod o wasanaethau i ddechreuwyr i ddysgwyr awyddus ar gael.

    Hefyd gall fod o fantais mawr i fusnesau , yn eu helpu i dyfu eu brand lleol ac ymgysylltu â chwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    Gan fod technoleg yn gwella a chyfleoedd a chyswllt drwy apiau a chyfryngau cymdeithasol yn gwella, bydd ffyrdd newydd yno i ddysgu Cymraeg – ac mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gefnogi unrhyw un y gall helpu i ddatgloi eu potensial.

    Mae’r llywodraeth yn chwilio am ffyrdd newydd i annog pobl i ddefnyddio Cymraeg yn eu bywydau bob dydd, gan gymryd mantais o dechnolegau newydd a gweithgareddau cymunedol.

    Fel rhan o’r apêl am syniadau newydd, cynigir grantiau hyd at £20,000 i sefydliadau i helpu i roi’r syniadau a awgrymwyd ar waith.

    Fel rhan o’r gwthiad Miliwn o Siaradwyr/One Million Speakers i gyrraedd un miliwn o bobl yng Nghymru yn siarad Cymraeg erbyn 2050, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus o ganfod ffyrdd o ddefnyddio technolegau newydd i gael bobl i ddefnyddio a siarad Cymraeg.

    Ceisir am brosiectau sy’n cynnig syniadau a gweithgareddau newydd, yn cymryd mantais o dechnolegau newydd neu’n cynnig ffyrdd gwreiddiol o annog a hyrwyddo’r iaith.

    Mae ceisiadau yn agored i fusnesau, elusennau, neu grwpiau sector cyhoeddus – neu gonsortiwm o unrhyw un ohonynt.

    Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener, 22 Medi.

    Mae rhagor o wybodaeth ar y cynllun grant ar gael yn www.gov.wales/welshlanguage, neu drwy e-bost i mewnflwch.grantiau@gov.wales.

    Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae pobl yn defnyddio mwy o apiau ac adnoddau ar-lein i ddysgu Cymraeg – ond rwy’n siŵr bod mwy o syniadau ar sut i wneud y defnydd orau o dechnolegau newydd, sydd o fantais i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg.

    “Dylai unrhyw un sydd â syniadau newydd ar sut y gall y llywodraeth berswadio pobl i ddysgu Cymraeg gysylltu â Llywodraeth Cymru a gwneud cais am y grant.”

    Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

  • Sut y cafodd plasty trefol gwag ei adnewyddu ..

    Sut y cafodd plasty trefol gwag ei adnewyddu ..

    Mae cyn blasty trefol wedi’i adnewyddu, yn barod i fynd ar y farchnad, diolch i fenter gan Gyngor Wrecsam.

    Roedd yr eiddo yn Rhosddu wedi’i adael mewn cyflwr gwael, gyda nifer o faterion mewnol ac allanol oedd yn golygu ei bod yn amhosibl byw ynddo mwy neu lai.

    Mae’r eiddo wedi cael cegin ac ystafell ymolchi newydd, yn ogystal â gwelliannu eraill fel ail-blastro’r waliau.

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    Help gan Houseproud

    Cafodd y gwaith gwneud gwelliannau i’r eiddo ei gydlynu gan Gyngor Wrecsam, trwy’r Cynllun Houseproud. Mae’r cynllun yn helpu perchnogion tai i wneud gwelliannau trwy drefnu’r holl waith ar eu rhan a sicrhau bod gweithwyr a chontractwyr dibynadwy yn cael eu defnyddio.

    Darparwyd cymorth i ariannu’r gwaith drwy fenthyciad drwy Gynllun Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru.   Mae hwn yn brosiect a ddyluniwyd i helpu i adfywio canol trefi, cymunedau arfordirol a Chymunedau yn Gyntaf ar draws Cymru.

    Cynhaliwyd y gwaith adnewyddu gan P.V. Groom Ltd.

    Paul Martin (Syrfewr Adnewyddu Tai CBSW), Sion Wynne (Swyddog Partneriaeth Tai), y Cynghorydd Terry Evans (Aelod Arweiniol dros yr Economi – Datblygu Economaidd ac Adfywio), y Cynghorydd David Griffiths (Aelod Arweiniol dros Dai)

    Arian yn cael ei ailgylchu

    Dywedodd y Cynghorydd Lleol ar gyfer Grosvenor, y Cyng Marc Jones:  “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu gwneud y gwaith ar yr eiddo hwn ac mae’n newyddion gwych y bydd ar y farchnad yn fuan.

    “Mae’n bwysig ein bod yn gwneud popeth posibl i ateb gofynion tai pobl yn Wrecsam felly mae’n gadarnhaol clywed bod cynlluniau fel hyn yn profi’n llwyddiannus ac y bydd yr arian a wariwyd yn cael ei ailgylchu i wella eiddo gwag neu segur arall yn y dyfodol.”

    Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Dyma enghraifft wych o sut y gall arian Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau lleol.

    “Mae wedi caniatáu i ni ariannu gwelliannau na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall ac mae’n golygu bod gennym nawr gartref mewn cyflwr da iawn, yn barod i fynd ar y farchnad.”

    Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Mae’r cynllun Houseproud yn cynnig gwasanaeth gwych i berchnogion tai sy’n edrych am ffyrdd diogel, hawdd i wneud y gwaith hanfodol mewn modd proffesiynol a chyda chyn lleied o drafferth â phosibl.

    “Rwy’n falch o weld ei fod wedi cyflawni canlyniadau gwych yma a’n bod wedi gallu trawsnewid yr eiddo hwn.”

    Am fwy o wybodaeth ar gynllun Houseproud ffoniwch 01978 315300

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”tel://01978315300″]FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL[/button]

    Neu ebost: <a href=”mailto:housing@wrexham.gov.uk”>housing@wrexham.gov.uk</a>

    Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

  • Llongyfarchiadau i’n myfyrwyr Lefel A!

    Llongyfarchiadau i’n myfyrwyr Lefel A!

    Da iawn i fyfyrwyr Lefel A Wrecsam, â chyrhaeddod canlyniadau ardderchog blwyddyn yma.

    Y cyfradd lwyddo Lefel A gyffredinol ysgolion Wrecsam yw 96.7%, gyda bron dri chwarter (72.2%) o’r graddau a ddyfarnwyd at A* – C.

    87.5% yw’r gyfradd lwyddo i bobl sy’n gadael chweched dosbarth ysgolion Wrecsam a wnaeth y cymhwyster Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru.

    Eleni, dilynodd 93% o fyfyrwyr chweched dosbarth ysgolion Wrecsam y cymhwyster, sy’n gofyn i fyfyrwyr lwyddo mewn ystod o gymwysterau traddodiadol academaidd, galwedigaethol a sgiliau.

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae angen llongyfarch ein pobl ifanc yn wresog am eu hymroddiad, eu gwaith caled a’u llwyddiant. Gallan nhw, ynghyd â’u teuluoedd a’u hysgolion, fod yn falch iawn o’u cyflawniadau. Rwy’n arbennig o falch o weld nifer gynyddol o fyfyrwyr Wrecsam yn llwyddo gyda Chymhwyster Bagloriaeth Cymru.”

    Dywedodd Ian Roberts, Pennaeth Addysg Wrecsam: ‘Hoffwn longyfarch myfyrwyr chweched dosbarth ysgolion Wrecsam wrth iddynt ddathlu canlyniadau eu harholiadau Lefel A a Bagloriaeth Cymru. Mae’r canlyniadau heddiw yn benllanw blynyddoedd lawer o ymrwymiad a gwaith caled gan ein pobl ifanc, gyda chefnogaeth eu teuluoedd a’u hysgolion. Dymunaf yn dda i’n holl fyfyrwyr wrth iddynt symud ymlaen i addysg uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth.“

    Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

  • Beth sydd werth dros £115 miliwn o bunnoedd i Wrecsam?

    Beth sydd werth dros £115 miliwn o bunnoedd i Wrecsam?

    Yn ôl y newyddion diweddaraf, mae’r diwydiant twristiaeth yn Wrecsam werth £115.9 miliwn i’r economi leol – swm aruthrol a chynnydd o 37% ers 2010.

    Mae’r diwydiant hefyd yn cefnogi dros 1600 o bobl leol mewn swyddi llawn amser.

    Y llynedd, fe wnaeth 2.57 miliwn o bobl ymweld â Wrecsam a llawer o’r ymwelwyr hynny yn penderfynu aros dros nos, sy’n newyddion ardderchog

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    “profiadau ardderchog i ymwelwyr”

    Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio:

    “Mae’r ffigyrau hyn yn ardderchog sy’n profi bod ein Cynllun Rheoli Cyrchfan yn llwyddiannus a bod ein partneriaid twristiaeth yn gweithio’n galed i hyrwyddo’r ardal a sicrhau profiadau ardderchog i ymwelwyr. Yn sicr mae gan Wrecsam ddigon i’w gynnig, gan gynnwys rhai o olygfeydd cefn gwlad prydferthaf yn y byd, dau safle sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, safle Treftadaeth y Byd, bwyd blasus a llety.”

    Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

  • King Street Coffee – Y Cymysgedd Perffaith ar gyfer Llwyddiant

    King Street Coffee – Y Cymysgedd Perffaith ar gyfer Llwyddiant

    Does dim dianc rhagddo. Mae siopau coffi yn dod yn fwy a mwy poblogaidd a gyda thri yn agor bob dydd ym Mhrydain, mae’n olygfa gyffredin i weld pobl yn mynd o gwmpas eu pethau o ddydd i ddydd gyda choffi i fynd yn eu llaw.

    I weld sut oedd y duedd hon yn cael effaith ar fasnach yn lleol, penderfynom bicio draw i weld Andy Gallanders a’i frawd Phil sy’n rhedeg King Street Coffee a Bank Street Coffee a agorwyd yn ddiweddar rhyngddynt.

    “roedd yn teimlo ei fod yn syniad da”

    Cafodd y brodyr ill dau eu geni a’u magu yn Wrecsam ac yn syml, roedd agor siop goffi yng nghanol y dref yn “teimlo ei fod yn syniad da”. Roedd Andy wedi bod yn edrych ar eiddo ers tro a, gydag anogaeth ei frawd, sy’n farista, aethant ati i agor ym mis Ebrill 2016 ac wedi bod yn creu coffi ers hynny.

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    Mae King Street Coffee wedi bod mor llwyddiannus fel eu bod wedi ennill Gwobr Twristiaeth Wrecsam 2017 am y caffi/te gorau.

    Gofynnom iddynt a oeddynt wedi cael llawer o help gan ein staff canol y dref i sefydlu ac roeddent yn ganmoliaethus iawn am dîm Cyrchfan Wrecsam yn benodol, sydd bob amser wedi cynnig cefnogaeth gref.

    Yn fwy diweddar, gwnaethom eu helpu i ddod o hyd i gadeiriau ar gyfer eu digwyddiad yn Un Deg Un. Digwyddiad a welodd dros 150 o bobl yn dod i’r “Voicebox Collective” wythnosol a oedd yn cynnwys y Bardd a’r bersonoliaeth YouTube Americanaidd, Neil Hilbourne, ac mae ei fideo ohono yn darllen un gerdd wedi ei weld dros 1 miliwn o weithiau! Trefnwyd y digwyddiad gan Phil ac wrth gwrs roedd King Street Coffee yn bresennol i sicrhau fod pawb yn cael penned wych o goffi.

    dydyn ni ddim yn hoffi dweud na

    Dywedodd Phil:

    “Mae’r ddau ohonom wedi gweithio’n galed iawn ac wedi bod yn barod mynd yr ail filltir, gan weithio y tu allan i oriau gwaith i fynd i ddigwyddiadau. Rydym hyd yn oed wedi darparu coffi i ystafell y wasg yn ystod y ddau etholiad diwethaf – dydyn ni ddim yn hoffi dweud na! Rydym hefyd yn ceisio cefnogi’r economi lleol gymaint ag y gallwn ni ac yn hoffi prynu’n lleol iawn yn enwedig wrth ddod o hyd i gacennau.

    “dyfodol cyffrous”

    “Fy nghyngor i fasnachwyr annibynnol eraill neu rai sy’n ystyried sefydlu busnes yn Wrecsam yw adnabod eich busnes a gwrando ar eich cwsmeriaid. Mae gan Wrecsam ddyfodol cyffrous iawn ac yn y 12 mis nesaf, dwi’n rhagweld y bydd mwy a mwy o siopau annibynnol yn agor. Y cyfleuster celfyddydau a marchnad newydd yw un esiampl o’r fath lle mae digonedd o gyfleoedd ar gael.

    Gofynnom i Phil sut roedd wedi hysbysebu ei fusnes? Ei ymateb oedd rhoi pleidlais aruthrol o blaid cyfryngau cymdeithasol.
    “Rydan ni’n defnyddio Facebook, Twitter ac Instagram ac wedi darganfod fod hynny’n denu digonedd o gwsmeriaid a dilynwyr. Mae’n rhad ac am ddim ac os byddem ni eisiau talu am hysbyseb fach ar Facebook, gallai £50 ein rhoi mewn cysylltiad ag 80,000 o bobl. Mae gan gyfryngau cymdeithasol y fantais ychwanegol o fedru mesur sawl cwsmer posibl sy’n gweld y negeseuon ac yn fwy pwysig, a ydynt yn hoffi’r hyn maent yn ei weld.”

    “Perthynas positif”

    Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio:

    “Mae King Street Coffee wedi dod yn enw cyfarwydd yn Wrecsam ac mae’r brodyr i’w llongyfarch am wneud eu gwaith cystal. Mae’n dda clywed ein bod wedi rhoi digon o gefnogaeth iddynt ac rwy’n gobeithio y bydd y berthynas gadarnhaol iawn hon yn parhau ymhell i’r dyfodol.”
    Felly os oes awydd coffi arnoch a darn ffres o gacen, does dim angen i chi edrych ymhellach na siopau annibynnol King Street Coffee neu Bank Street Coffee.

    Am fwy o fanylion ynglyn a sefydlu busnes yn Wrecsam, galwch:

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”tel://01978667300″]FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL[/button]