Dros y dyddiau nesaf bydd miloedd o ymwelwyr a channoedd o fandiau o Gymru ac o bedwar ban byd yn dod i Wrecsam i’r gŵyl FOCUS Wales.
Cynhelir y digwyddiad cerddoriaeth rhyngwladol clodwiw mewn nifer o leoliadau o amgylch y dref o ddydd Iau i ddydd Sadwrn yr wythnos hon ac, unwaith eto, bydd Tŷ Pawb yn chwarae rhan fawr yn y gweithgareddau!
Bydd Tŷ Pawb yn cynnal tri llwyfan o gerddoriaeth fyw, tri diwrnod o sgyrsiau rhyngweithiol yn y diwydiant, arddangosfa gelf Bands FC a bydd hefyd yn safle casglu ar gyfer tocynnau gŵyl.
Bydd ein ardal fwyd, bar, siopau ac orielau ar agor ar gyfer busnes trwy gydol yr ŵyl.
Felly p’un a ydych chi eisoes wedi cael eich tocynnau yn barod, neu os ydych chi eisiau dod draw i flasu rhywfaint o awyrgylch yr ŵyl, darllenwch ymlaen i gael gwybod beth y gallwch ddisgwyl ei weld yn Tŷ Pawb dros y penwythnos.
Bob dydd o 10.30am-5.30pm bydd gennym gerddoriaeth fyw AM DDIM (nid oes angen pas gŵyl) ar lwyfan Cwt Bugail ar ddiwedd ardal fwyd Tŷ Pawb.
Ewch i wefan FOCUS Wales i weld pwy sydd yn perfformio yma.
Arddangosfa Bands FC am Ddim
Byddwch yn gallu gweld arddangosfa gyntaf Bands FC yng Nghymru yn ystod FOCUS Cymru yn Oriel 2 yn Tŷ Pawb!
Beth yw Bandiau FC? Bandiau fel Timau Pêl-droed, Timau Pêl-droed fel Bandiau! Mae’n syml ond yn effeithiol iawn! Edrychwch ar eu gwefan i gael blas o’r hyn i’w ddisgwyl.
Mae’r arddangosfa yn rhad ac am ddim ar bob un o dri diwrnod yr ŵyl, ond sylwch y bydd mynediad yn gyfyngedig ar gyfer digwyddiadau cynhadledd ddydd Iau a dydd Gwener 11am-12pm a 2pm-3pm.
2 llwyfan o gerddoriaeth fyw bob nos
Os yw’r adloniant yn ystod y dydd yn eich tywys am fwy o amser, efallai y byddwch am gael tocyn ar gyfer yr adloniant gyda’r nos!
Bydd bandiau gwych yn perfformio ar lwyfan Sgwâr y Bobl ac yn y Gofod Perfformio ar bob un o dair noson yr ŵyl o 5.30pm tan yn hwyr.
Ewch i wefan FOCUS Wales am fwy o wybodaeth am docynnau gŵyl a’r rhestr o berfformwyr.
Cynadleddau rhyngweithiol
Mae amserlen lawn o ddigwyddiadau rhyngweithiol yn cael eu cynnal ym man perfformio Tŷ pawb bob dydd o’r ŵyl.
Bydd y gweithgareddau’n cynnwys paneli a thrafodaethau gydag arbenigwyr o bob sector o’r diwydiant cerddoriaeth, yn ogystal â sesiynau rhwydweithio ‘cyfarfod cyflym’.
Bydd y pynciau’n cynnwys popeth o hyrwyddo eich cerddoriaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i ddyfodol lleoliadau cerddoriaeth annibynnol. Mae hefyd sgwrs gyda Bethan Elfyn a Huw Stephens yn ymdrin â ’20 mlynedd o gerddoriaeth Cymru’ ar y dydd Sadwrn!
Bydd angen tocyn Gŵyl arnoch i fynd i ddigwyddiadau’r gynhadledd. Mwy o wybodaeth yma.
Gwelwch rhestr lawn digwyddiadau FOCUS Wales
Mae gan wefan FOCUS Wales bob math o ffyrdd i chi ddal i fyny â’r hyn sy’n digwydd ble yn ystod yr ŵyl-gan gynnwys ap Gŵyl!
Gallwch hefyd gael copi o ganllaw swyddogol yr ŵyl yn Tŷ pawb.
Does unman yn union fel Wrecsam yn ystod FOCUS wales! Gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli allan ar y digwyddiad anhygoel yma!
Mae gosodiad celf newydd sbon i’w weld yn yr Arcêd Ganolog diolch i Wirfoddolwr Prosiect Celf Adeiladau lleol, Wayne Price.
Gosodiad celf yw “Wrecsam, Edrychwch i Fyny!!” sydd wedi’i wneud allan o dros 200 o globau papur lliwgar uwchben y siopau yn yr Arcêd. Maent wedi cael eu gosod yn raddol dros y dyddiau diwethaf ac mae’r gorffeniadau olaf wedi cael eu gwneud i gwblhau’r gwaith. Ac maen nhw’n edrych yn wych 🙂
Maen nhw eisoes wedi achosi storm yn y cyfryngau gyda sylwadau fel “prydferth”, “anhygoel”, “hyfryd”, “tlws”, “cŵl” ac “ardderchog” yn ymddangos ar negeseuon amrywiol.
“Cyfarfod ar hap”
Meddyliwyd am y syniad yn ystod cyfarfod ar hap mewn caffi rhwng perchennog siop Abode Above yn yr Arcêd Ganolog, Daphne Roberts ac Arweinydd Gwirfoddolwyr Prosiect Celf Adeiladau Wrecsam, Wayne Price.
Penderfynodd y ddau gydweithio er mwyn dod ag ychydig o liw i’r ardal siopa ac i atgoffa pobl bod yr Arcêd Ganolog yn lle hyfryd i ymweld ag o, arweiniodd hynny at globau “Wrecsam, Edrychwch i Fyny!!”.
“Cefnogwch fusnesau annibynnol lleol”
Dywedodd Daphne, “Mae’r adborth hyd yma wedi bod yn aruthrol, mae pawb wrth eu boddau efo nhw. Rydym am i bobl wybod bod yr Arcêd Ganolog yn drysor yng nghanol Wrecsam, yn ogystal â chartref i nifer o fusnesau bach annibynnol. Felly, edrychwch i fyny, edrychwch o gwmpas, cefnogwch fusnesau annibynnol lleol a dywedwch wrth bawb bod ‘yr Arcêd Ganolog yn gymaint mwy na thramwy trwodd”
Dywedodd Wayne Price, “Yn ôl yr arfer, mae llawer o bobl y dylid diolch iddyn nhw am roi prosiect o’r maint hwn at ei gilydd. Diolch yn gyntaf i Daphne, Steven, Angie o RedCrafts a holl fasnachwyr yr Arcêd Ganolog am eu help, eu gweledigaeth a’u dyhead i gwblhau’r prosiect hwn, diolch i landlordiaid yr Arcêd Ganolog am eu caniatâd, diolch i’r gwirfoddolwyr ar y dydd, Daphne, Christian, Angie a Sharon Rogers.”
Nid dyma’r tro cyntaf i Wayne weithio yng nghanol y dref. Ym mis Tachwedd roedd yn gyfrifol am y murlun coffa ar Stryt y Bonc – ei brosiect cyntaf ac yn fwy diweddar mae wedi ailymweld â Stryt y Bonc i sbriwsio ychydig mwy o adeiladau. Gallwch ddarllen am y murlun coffa canmlwyddiant yn yr erthygl isod.
Ymwelodd y Maer, y Cynghorydd Andy Williams, â’r gosodiad pan oedd bron a chael ei gwblhau. Meddai: “Dylid llongyfarch Wayne am ei fentrau sy’n gwella ymddangosiad rhai o’n hadeiladau hynaf ar hyn o bryd. Maen nhw i gyd yn briodol iawn i’r adeiladau eu hunain a gwn fod ymwelwyr canol y dref yn gwerthfawrogi ei wreiddioldeb a’i waith caled wrth gwblhau’r prosiectau sydd wedi bod hyd yma.”
O glybiau cinio, Ioga a dosbarthiadau celf i wylio adar a dawnsio llinell. Mae’r grant yn anelu i gefnogi gweithgareddau yn y gymuned i sefydlu neu ehangu grwpiau a chlybiau cinio, swper a brecwast sy’n cefnogi annibyniaeth ac iechyd a lles unigolion sy’n byw yn eu cymuned.
Gellir anfon ceisiadau drwy’r flwyddyn i’w hystyried gan Baneli Grant chwarterol.
Yn dilyn llwyddiant y Grant Cynhwysiant Cymunedol ers 2012, rydym nawr yn ehangu’r meini prawf cymhwysedd. Mae hyn yn golygu y byddwn yn croesawu ceisiadau gan gynlluniau sy’n cefnogi oedolion hŷn ac oedolion gydag anableddau dysgu a/neu gorfforol a phroblemau iechyd meddwl, yn ogystal â gofalwyr anffurfiol.
Ers 2012 mae’r Grant wedi helpu bron i gant o grwpiau yn y Fwrdeistref Sirol.
Dywedodd Mr Phil Coops, “Mae cyllid o’r Grant Cynhwysiant Cymunedol wedi’i wneud yn bosibl i grwpiau bach gael a gwneud offer a deunydd ar gael i’w defnyddio gan y gymuned gyfan mewn modd nad oedd ar gael o’r blaen. Gallwn nawr helpu’r uwch aelodau yn yr ardal gofio eu blynyddoedd blaenorol a chofio’r gorffennol fyddant yn ei fwynhau.
“Mae’r broses ar gyfer cael y grant yn eithaf syml i’w lywio ac roedd y staff bob amser ar gael i helpu os byddai yna unrhyw broblemau. Fel grŵp, maent wedi bod yn amhrisiadwy yn ein helpu i ymgymryd â’n cais llwyddiannus a phrosiect i’r gymuned.” Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Ar ôl ymestyn y meini prawf grant mae’r grantiau hyn yn agored i amrywiaeth llawer ehangach o grwpiau cymunedol.
“Mae hwn yn newyddion ardderchog, mae’r grantiau eisoes wedi cefnogi llawer o weithgareddau cymunedol ar draws Wrecsam a byddwn yn annog unrhyw un sy’n meddwl am sefydlu grŵp cymunedol neu sy’n dymuno datblygu grŵp presennol i gysylltu â’r tîm comisiynu.”
Gellir defnyddio’r grantiau ar gyfer sesiynau sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr lle gall pobl gyfarfod yn rheolaidd ar gyfer gweithgareddau. Gwahoddir cynigion gan unigolion neu sefydliadau ar gyfer gweithgareddau megis:
Mae Llwybr Dyffryn Clywedog yn daith gerdded fendigedig bum milltir a hanner o hyd, sy’n mynd a chi drwy rai o’n parciau gwledig gorau ar hyd y ffordd.
Mae’n dechrau ym Mwyngloddiau Plwm pentref y Mwynglawdd, gyda thaith gerdded i Felin y Nant, yna byddwch yn mynd i mewn i Goedwig Plas Power (gan gynnwys Clawdd Offa), cyn mynd ymlaen drwy’r Bers (a’i holl hanes). Nesaf, byddwch yn dilyn trywydd Felin Pulestin, ac yn parhau i gerdded yn hamddenol drwy Erddig, a fydd yn dod a chi i King’s Mill, lle daw’r daith gerdded i ben.
Mae’n arbennig o boblogaidd gyda phobl leol, a gyda’r posibilrwydd fod rhywfaint o dywydd braf ar ei ffordd, efallai y byddwch eisiau gweld dros eich hun.
Mae Tîm ADTRAC yn cefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed o bob cwr o Wrecsam a Sir y Fflint ac yn eu helpu i oresgyn unrhyw rwystrau sy’n gallu ei gwneud yn anodd iddyn nhw gael swydd, lle ar gwrs hyfforddi neu fynd ymlaen i addysg bellach.
Beth mae ADTRAC yn ei gynnig?
Cymorth dwys un i un
Cynlluniau gweithredu personol
Cefnogaeth i feithrin hyder a goresgyn rhwystrau
Cymorth lles gan gynnwys cyfle i gael mynediad at ddarpariaeth ar gyfer anghenion iechyd meddwl ysgafn / cymedrol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dywedodd Jack (17), sydd wedi bod yn rhan o raglen ADTRAC ers mis Ionawr 2018: “Mae wedi fy helpu mewn ffyrdd cadarnhaol â dweud y gwir. Rydw i’n berson mwy positif, mae fy nheulu hyd oed wedi sylwi ar hynny ers i mi ddechrau ADTRAC ac ers i mi fod yn gweithio gyda Nathan rydw i wedi bod yn llawer mwy positif a hapus.”
Mae Jack hefyd yn dweud ei fod bellach yn barod i chwilio am swydd ac yn teimlo bod y prosiect wedi’i helpu i deimlo’n ddigon hyderus i wneud hynny. Nid yn unig y mae’r prosiect wedi cael effaith bositif ar gyflogadwyedd Jack ond mae wedi cael effaith bositif ar ei fywyd adref hefyd.
Meddai Jack: “Rydym ni wastad wedi bod yn deulu clos, ond ers i mi fod yn rhan o’r prosiect rydym wedi dod hyd yn oed yn agosach.”
Mae ADTRAC wedi bod ar waith ers ychydig dros flwyddyn ac mae eisoes yn gweld canlyniadau positif:
Roedd 74% o bobl ifanc wedi cael trafferth ymgysylltu ag addysg, gwaith a hyfforddiant. Gostyngodd y ffigwr hwn i 12% wrth iddynt ymadael.
Roedd 81% o bobl ifanc yn nodi diffyg hyder fel un o’u prif rwystrau i addysg, gwaith a hyfforddiant.
Roedd 63% o bobl ifanc wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir pan gawsant addysg
Mae cyfanswm o dros 468 o bobl ifanc wedi cael eu hatgyfeirio i brosiect ADTRAC ledled Wrecsam a Sir y Fflint yn y flwyddyn gyntaf. Mae’r prosiect, a gefnogir gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop, yn anelu at ddarparu cymorth pwrpasol i bobl ifanc yn unigol gan fentoriaid personol ADTRAC neu ymarferwyr iechyd meddwl y GIG, yn ogystal â chyrsiau a hyfforddiant pwrpasol a lunnir i ddiwallu anghenion penodol y bobl ifanc 16-24 oed a gwella eu lles.
Dywedodd Joseph (22), sydd wedi bod yn rhan o raglen ADTRAC ers mis Mai 2018: “Roeddwn i’n arfer aros i mewn o hyd, mynd i fy nghragen a chau’r byd allan. Doeddwn i ddim wedi cael cefnogaeth o’r blaen, felly roedd popeth yn anodd o hyd. Ond, mae help y tîm iechyd meddwl a Nathan (mentor ADTRAC) wedi bod yn help garw. Rydw i bob amser wedi bod yn angerddol am helpu pobl ac rydw i’n gwybod rŵan fy mod am ddilyn y llwybr mentora a bod yn fentor fy hun”
Gweithio mewn partneriaeth
Mae ADTRAC yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei arwain gan Grŵp Llandrillo Menai ledled gogledd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chefnogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru.
“Angen go iawn am y gwasanaeth”
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Mae hwn yn brosiect gwych ac rydw i’n edrych ymlaen at weld ei gynnydd. Gyda dros 250 o atgyfeiriadau yn Wrecsam a 211 yn Sir y Fflint ym mlwyddyn gyntaf y prosiect, mae’n dangos bod angen go iawn am y gwasanaeth a’i fod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc yn yr ardal. O wylio’r ffilmiau o’r bobl ifanc sydd wedi cael help uniongyrchol gan y prosiect gallwch weld yn union pa mor fuddiol yw’r gefnogaeth.”
Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Mae hon yn rhaglen fendigedig. Mae’r gwaith wedi helpu llawer iawn o bobl ifanc i oresgyn y pethau, beth bynnag ydyn nhw, sy’n eu rhwystro rhag medru cael swydd neu gael lle ar gwrs hyfforddiant neu gwrs addysg bellach. Maen nhw’n cael mwy o gyfleoedd i fod yn annibynnol ac yn iach. Byddwn yn dal ati wedi llwyddiant y flwyddyn gyntaf, ac yn dal i ddarparu gwasanaethau sydd ar flaen y gad o ran arferion da.”
Gallwch ganfod mwy am y prosiect yn https://www.gllm.ac.uk/adtrac neu cysylltwch â thîm ADTRAC ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint ar ADTRAC@wrexham.gov.uk am fanylion pellach ynglŷn â’r broses atgyfeirio ar gyfer sefydliadau ac ar gyfer hunan-atgyfeirio.
Mae ‘Dydd Llun 2’ ar ei ffordd ac fel rhan o’r dathliadau ar 22 Ebrill bydd y bardd Evrah Rose yn perfformio am y tro cyntaf fel bardd preswyl Tŷ Pawb.
Derbyniodd Evrah Rose lawer o sylw yn lleol ar gyfer ei cherdd ‘I am from Wrexham’, cerdd a gyhoeddodd ar You Tube ym mis Ionawr.
Ers hynny mae hi wedi cael ei gwahodd i fod yn llais barddol Tŷ Pawb ac yn cael ei chomisiynu i gyfansoddi cerddi wedi’u hysbrydoli gan arddangosfeydd a digwyddiadau sydd wedi’u cynnal yno.
Wrth siarad am ei rôl newydd, meddai Evrah Rose: “Dwi wedi gwirioni fy mod i’n cael y cyfle i gymryd rhan mewn barddoniaeth mewn cymuned mor fywiog.
“I mi yn bersonol mae Tŷ Pawb wedi dod yn ganolfan lewyrchus a dwi’n edrych ymlaen i gyfansoddi cerddi unigryw yma. Mae’n gymaint o fraint cael fy newis i gyflawni cyfnod preswyl, cyfle dwi’n hollol ddiolchgar amdano a heb os yn siŵr o wella fy sgiliau fel bardd a pherfformiwr.”
Bydd Evrah Rose yn perfformio fel rhan o ‘Dydd Llun 2’, dathlu pen-blwydd cyntaf Tŷ Pawb. Mae’r dathliad ar ddydd Llun y Pasg, 22 Ebrill, 11am-9.30pm.
Ydych chi’n cyfansoddi cerddi? Os hoffech gyngor ar eich gwaith mae Evrah Rose yn fwy na pharod i sgwrsio gyda chi a’ch helpu i gyflawni eich nodau ysgrifennu. Cysylltwch â staff Tŷ Pawb ac mi fyddan nhw’n gallu eich rhoi mewn cysylltiad â hi.
I ddathlu hyn, mae digwyddiad arbennig yn cael ei gynllunio yn yr amgueddfa i aduno aelodau o gymuned Ysbyty Pwylaidd a’u teuluoedd.
Os ydych chi’n adnabod unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod draw, rhowch wybod iddyn nhw! Byddem wrth ein bodd yn gweld cymaint o bobl â phosibl yn mynychu i rannu eu straeon ac efallai cwrdd â hen ffrindiau!
Bydd hefyd yn gyfle i weld rhai o’r eitemau gwych a achubwyd o’r ysbyty ac sydd bellach yn cael eu harddangos fel rhan o’r arddangosfa.
Sut i gymryd rhan
Cynhelir yr aduniad yn yr Amgueddfa ddydd Sadwrn, Mai 11 am 2pm
Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle, cysylltwch â’r Amgueddfa – 01978 297460 neu e-bostiwch museum@wrexham.gov.uk
Blwyddyn yn ôl, fe agorodd Tŷ Pawb ei ddrysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf. Cafwyd dathliad arbennig a llwyddodd y digwyddiad hwn i ddenu miloedd ar filoedd o bobl.
Wrth edrych yn ôl, roedd yn ddiwrnod mawr iawn i Wrecsam.
Roedd yr adeilad yn destun bob pennawd ym mhob papur newydd a’r cyfryngau cymdeithasol am fisoedd cyn yr agoriad swyddogol ac fe achosodd hyn hollt ym marn y cyhoedd. Roedd rhai yn hoff iawn o’r syniad ac yn meddwl y byddai o fudd i’r dref. Roedd eraill yn anghytuno.
Felly pan agorwyd yr adeilad ar 2 Ebrill 2018, roedd hi’n amser rhoi’r gorau i siarad a dechrau gweithredu… roedd hi’n amser i Dŷ Pawb ddechrau cyflawni’r hyn yr oeddem wedi gobeithio amdano.
Felly, sut mae pethau wedi mynd?
“Lle o fath gwahanol?”
Daeth y safle â stondinau marchnad, gweithgareddau cymunedol a chelf ynghyd o dan un to – cysyniad cwbl newydd i Wrecsam. Mewn gwirionedd, roedd yn gysyniad gwbl newydd i Brydain.
Fel unrhyw brosiect arall, rydym wedi wynebu heriau ac roedd llawer i’w ddysgu.
Ond mae nifer y bobl sy’n ymweld â Thŷ Pawb yn parhau i gynyddu – yn llawer mwy na’r disgwyl.
Yn yr erthygl hon, byddwn yn canolbwyntio ar y marchnadoedd… yn ogystal â digwyddiadau a nifer yr ymwelwyr.
“Beth yw barn masnachwyr?”
Buom yn sgwrsio â rhai o’r masnachwyr yn Nhŷ Pawb. Cymrwch olwg ar y fideo i weld beth yr oedd ganddynt i’w ddweud.
Yn ogystal â’r masnachwyr sydd â stondinau yn Nhŷ Pawb, cafwyd 30 o ymholiadau gan ddeiliad stondinau posibl yn ystod y flwyddyn gyntaf… felly mae digon o ddiddordeb.
Mae Tŷ Pawb wedi gwneud llawer i sicrhau ei bod yn hawdd i unigolion sefydlu’u hunain a dechrau masnachu ar y safle – gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer busnesau lleol ac entrepreneuriaid.
Er enghraifft, mae siopau ‘dros dro’ ar gyfer pobl sy’n awyddus i brofi’r dyfroedd cyn prydlesu.
Mae’r ganolfan fwyd hefyd wedi bod yn boblogaidd iawn. Dewch draw amser cinio, ac rydych yn siŵr o weld pobl yn mwynhau tamaid i’w fwyta gyda’u ffrindiau a’u cydweithwyr.
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym yn dal i ddysgu, ond mae Tŷ Pawb yn mynd o nerth i nerth – a dylai pawb sy’n rhan o’r prosiect hwn fod yn falch iawn o hynny.
“Mae llawer o’r masnachwyr wedi bod gyda ni o’r cychwyn cyntaf, ac rydym yn falch iawn eu bod wedi aros yma.
“Mae eraill wedi ymuno â ni drwy gydol y flwyddyn, sy’n dangos hyder yn y lleoliad, ac rydym yn dymuno mwy o lwyddiant iddynt wrth i ni gamu i’r ail flwyddyn.”
“Pa mor boblogaidd yw’r digwyddiadau?”
Pan rydych yn lleoliad sydd yn cynnal digwyddiadau, rhaid cofio geiriau doeth Dolly… ‘working 9-5 is no way to make a living’.
Mae’r digwyddiadau yn Nhŷ Pawb wedi newid o ‘9-5 ddydd Llun i ddydd Sadwrn’ ac rydym bellach yn ‘agor yn ôl y galw’.
Felly mae’r safle ar agor yn rheolaidd gyda’r nos ar gyfer grwpiau lleol sy’n ei ddefnyddio, yn ogystal â digwyddiadau penwythnos poblogaidd megis y nosweithiau comedi a meic agored.
Roedd hon hefyd yn wers yr oedd rhaid ei dysgu. Ond mae llawer o’r digwyddiadau bellach yn gwerthu allan ac mae presenoldeb da yn y digwyddiadau am ddim.
Ystyriwch y cyngherddau am ddim yn ystod amser cinio ar ddydd Iau er enghraifft. Yn aml cewch drafferth canfod sedd a dim ond lleoedd i sefyll sydd ar ôl.
Dywedodd y Cyng. Jones fod y rhaglen ddigwyddiadau “wedi synnu pawb”.
“Mae Tŷ Pawb yn darparu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n apelio at bobl a chymunedau ag anghenion a diddordebau gwahanol, mae’r ffaith fod nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu’n raddol dros y flwyddyn wedi bod yn galonogol iawn.”
“Faint o bobl sydd wedi ymweld â Thŷ Pawb?”
Cadarnhawyd yn ddiweddar fod nifer y bobl sydd wedi ymweld â Thŷ Pawb yn fwy na’r rhagfynegiadau a nodwyd yn y cynllun busnes gwreiddiol a bydd y cyfrifwyr nifer yr ymwelwyr a osodwyd yn sicrhau ffigyrau mwy cywir yn y dyfodol.
Mae’r cyfrifwyr eisoes yn dangos y bu i dros 4,000o bobl ymweld ag arddangosfa Greyson Perry yn ddiweddar, gydag 40,500 o bobl yn ymweld â Thŷ Pawb.
(Nid yw’r cyfrifwyr yn cyfri pobl sy’n mynd i mewn ac allan o’r maes parcio – dim ond ymwelwyr â’r adeilad yn unig- felly maent yn cynnig darlun eithaf cywir)
“Gadewch i ni weld beth allwn ei wneud yn yr ail flwyddyn…”
Meddai’r Cyng. Jones: “Mae Tŷ Pawb yn sicr yn canfod ei le ac yn chwarae rhan gynyddol bwysig o fewn bywyd Wrecsam.
“Ac mae hyn yn bennaf oherwydd yr holl gefnogaeth a geir gan drigolion Wrecsam.
“Y bobl sy’n siopa yma, sy’n prynu eu bwyd yma, sy’n mynychu digwyddiadau a gweithgareddau, sy’n mwynhau celf, sy’n perfformio ac yn rhoi bywyd i’r adeilad hwn. Rhain yw’r bobl sy’n sicrhau llwyddiant Tŷ Pawb.
“Gall Wrecsam – ac fe ddylai – fod yn falch iawn o’r hyn y mae wedi’i gyflawni. Nawr, gadewch i ni weld beth allwn ei wneud yn ystod yr ail flwyddyn.”
Yn yr erthygl nesaf, byddwn yn edrych ar yr agwedd ‘gymunedol’ o Dŷ Pawb, ac yn cwrdd â rhai o’r trigolion lleol sy’n defnyddio’r cyfleusterau.
Dwedodd Derek Jones, Cadeirydd y Bwrdd Cynghorol Tŷ Pawb: “Yn ystod ei blwyddyn gyntaf, mae Tŷ Pawb wedi bod yn le ardderchog am amrywiaeth eang o ddigwyddiadau gwahanol megis cerddoriaeth fyw a gigiau, arddangosfeydd, gweithdai, dyddiau cymunedol, sgriniau ffilm a nifer o ddigwyddiadau arall sy’n gysylltiedig â’r celfyddydau, marchnadoedd a chymunedau yn Wrecsam.
“Yn ogystal â darparu oriel sydd wedi arddangos gwaith celf a gynhyrchwyd gan nifer o artistiaid enwog mae Tŷ Pawb hefyd wedi darparu safle i nifer o fasnachwyr na fyddent fel arfer wedi dod i Wrecsam.
“Mae poblogrwydd ddigwyddiadau megis y Dydd Llun Pawb cyntaf ac, yn fwy diweddar, dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, yn dangos bod Tŷ Pawb wedi ennill enw da fel lleoliad cymunedol poblogaidd ac rwy’n sicr bydd hynny’n cynyddu yn y blynyddoedd nesaf. ,
“Mae dal pethau i’w dysgu, cynnydd i’w wneud a chorneli i’w throi, ond mae tîm Tŷ Pawb wedi ymateb i’r heriau ac mae’r gwaith y maent yn ei wneud yn ddigymar. Rwy’n hyderus gyda help y tîm, a chefnogaeth cymuned Wrecsam, bydd Tŷ Pawb yn mynd o nerth i nerth a chynnig cyfleuster i’r holl gymuned y gallent i gyd ymfalchïo ynddi.”
Ac i ddechrau ar ail flwyddyn Tŷ Pawb, mae dathliad wedi’i gynllunio. Darllenwch fwy am y dathliad hwn ar ein blog.
Cafodd y fideo uchod ei ffilmio ym mis Tachwedd 2018, felly peidiwch â disgwyl dod o hyd i’r holl eitemau a ddangosir yn y siop. Dim ond syniad ydyw o beth i’w ddisgwyl🙂
Yn Wrecsam, rydym yn parhau i wella o ran ailgylchu.
Rydym yn gweithio’n dda i ailgylchu jariau, caniau, poteli a phapur, ond mae’n bwysig cofio nad dyma’r unig bethau y gellir eu hailgylchu yn Wrecsam.
Yng Nghanolfan Ailgylchu Lôn y Bryn, mae siop wych lle mae modd i chi gael gafael ar fargen neu roi eitemau nad oes arnoch eu heisiau, a chofiwch hyn: mae’r cyfan yn mynd at achos da lleol!
Mae wedi cael ei ddisgrifio fel ‘ogof Aladdin’, a rhaid i ni gytuno â hynny 🙂
Mae’r siop ailddefnyddio yn cael ei redeg gan Hosbis Tŷ’r Eos, ac os byddwch yn ymweld, mae’n siŵr y dewch o hyd i offer chwaraeon, hwfers, pramiau, dodrefn, beiciau, dodrefn i’r ardd, DVDs, Blu-ray, Cryno Ddisgiau ac eitemau trydanol eraill, ymysg pethau eraill.
I’r sawl sydd yn anghyfarwydd â gwaith anhygoel Tŷ’r Eos, maent yn darparu gofal ar gyfer pobl sydd â salwch terfynol a’u teuluoedd yn rhad ac am ddim ar draws ardal eang sy’n ymestyn o Wrecsam, Sir y Fflint a Dwyrain Sir Ddinbych i Abermo a threfi’r gororau, yn cynnwys Croesoswallt a’r Eglwys Wen.
Bydd yr holl eitemau a roddir yn cael eu glanhau a’u profi o ran diogelwch cyn cael ei hail-werthu yn y siop ailddefnyddio. Fel y gallwch weld o’n fideo, mae digonedd o ddewis.
Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’r tair canolfan ailgylchu. Mae ardal hefyd felly wedi ei neilltuo yn ein canolfannau ym Mrymbo a Phlas Madoc ar gyfer rhoi eitemau.
Os ydych yn ansicr o leoliad yr ardaloedd hyn, rhowch waedd i un o’n goruchwylwyr, ac fe fyddant yn medru eich cyfeirio i’r lle iawn.
Ond dyna ddigon o fan-siarad – rydym ni am fynd i chwilio am fargen. Welwn ni chi yn y man! 🙂
Mae’r Senedd Ieuenctid Cymru cyntaf erioed wedi cael ei ffurfio a chynhaliwyd y drafodaeth gyntaf yn y Senedd yn ddiweddar.
Nod y senedd yw rhoi llwyfan i bobl ifanc siarad am bethau sy’n bwysig iddynt a gwneud effaith gadarnhaol ar ddyfodol Cymru.
Bu cyfanswm o 60 o gynrychiolwyr yn eistedd yn y Senedd ar gyfer y cyfarfod cyntaf. Cafodd 40 o’r cynrychiolwyr eu hetholi gan bobl ifanc ar draws Cymru a chafodd 20 arall eu hetholi gan bobl ifanc o sefydliadau partner.
Roedd bob unigolyn 11-18 oed yng Nghymru yn gymwys i bleidleisio, gydag oddeutu 13,000 yn cofrestru i ddewis allan o grŵp o 480 o ymgeiswyr.
Yr ymgeisydd a enillodd y bleidlais i gynrychioli Wrecsam oedd Jonathan Powell, sy’n 16 oed, a’r ymgeisydd a chafodd ei phleidleisio i gynrychioli De Clwyd oedd Talulah Thomas sy’n 18 oed.
“Mae’n fraint fawr”
Dywedodd Jonathan; “Pwrpas Senedd Ieuenctid Cymru yn syml, yw cael barn pobl ifanc ar draws Cymru, dod a newid ac i wrando arnynt. Mae’n fraint fawr ac mae’n bwysig iawn y gallwn ddweud bod gennym Senedd Ieuenctid yng Nghymru fel bod gan bobl ifanc ar draws Cymru lais.”
“Pan gyrhaeddais, meddyliais WAW!”
Yn siarad am ei phrofiad yng nghyfarfod cyntaf y Senedd, dywedodd Talulah; “Roeddwn i’n poeni, i ddechrau, mai siop siarad ar gyfer pobl ifanc oedd hwn, ac na fyddai llawer yn cael ei wneud. Ond, pan gyrhaeddais, meddyliais ‘WAW’, mae’r pobl sy’n rheoli eisiau clywed gennym ni ac eisiau gwrando ar beth sydd gennym i’w ddweud. Ar ôl bod yno, sylweddolais efallai y gallwn ddylanwadu rhywfaint ar yr hyn sy’n digwydd.”
Dewch i weld beth arall oedd ganddynt i’w ddweud yn y ffilmiau byr hyn:
Mae sefydliadau partner yn cynnwys Girlguiding Cymru, Ieuenctid Cymru, Tros Gynnal Plant, Voices from Care, Barnardo’s Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru, gyda’r nod o sicrhau amrywiaeth a chynwysoldeb ar gyfer y corff newydd.
Nod Senedd Ieuenctid Cymru yw creu trafodaeth rhwng pobl ifanc a’r Cynulliad Cenedlaethol ei hun, fel eu bod nhw’n dylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau a fydd yn effeithio eu bywydau.