O ran costau byw, gallai gwneud yn siŵr eich bod yn hawlio’r holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.
Mae grantiau a budd-daliadau amrywiol a allai eich helpu â phethau fel cynhesu eich cartref, anfon eich plant i’r ysgol a thalu eich rhent.
Gallwch hefyd gael cyngor ar sut i leihau eich biliau tŷ, a gofalu am eich iechyd os ydych yn poeni am arian.
Yn ddiweddar, bu i Gyngor Wrecsam sefydlu gweithgor trawsbleidiol arbennig i roi cymaint â phosibl o gymorth i gymunedau lleol, ac mae’n annog pobl i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael.
Hawliwch yr hyn y mae gennych hawl iddo
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar wefan y cyngor ar www.wrecsam.gov.uk
Mae’n cynnwys gwybodaeth am fudd-daliadau a grantiau, argymhellion ar sut i leihau eich biliau tŷ, ymdopi â phryderon ariannol a materion cysylltiedig eraill.
Gallwch hefyd ffonio Canolfan Cyngor ar Bopeth am gyngor cyffredinol a thalebau banciau bwyd ar 0300 330 1178 (dydd Llun, Mercher a Gwener 9.30am-2pm).
Sesiynau galw heibio i gael gwybodaeth
Mae sesiynau galw heibio i gael cyngor, lle gallwch siarad â rhywun wyneb yn wyneb, hefyd yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd ar draws y fwrdeistref sirol.
- Dydd Gwener, 18 Tachwedd 2022 – Llyfrgell y Waun, 10am – 2pm
- Dydd Gwener, 2 Rhagfyr 2022 – Llyfrgell Coedpoeth, 2pm – 5pm
- Dydd Gwener, 16 Rhagfyr 2022 – Llyfrgell Rhos, 11am – 3pm
- Dydd Gwener, 6 Ionawr 2023 – Llyfrgell Gwersyllt, 2pm – 5pm
- Dydd Gwener, 20 Ionawr 2023 – Llyfrgell Rhiwabon, 2pm – 5pm
- Dydd Gwener, 3 Chwefror 2023 – Llyfrgell Llai, 2pm – 5pm
- Dydd Gwener, 17 Chwefror 2023 – Llyfrgell Wrecsam, 10am – 2pm
Dewch draw i gael gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael.
Ac os ydych chi’n denant tŷ Cyngor, gallwch fynd i un o’r digwyddiadau canlynol i gael cyngor ar arbed ynni, lleihau biliau, cyngor ar ddyledion a chymorth ariannol:
- Dydd Gwener, 18 Tachwedd – Canolfan Adnoddau Gwersyllt, 10am-1pm
- Dydd Llun, 21 Tachwedd – Canolfan Gymunedol Johnstown, 1pm-4pm
- Dydd Iau, 24 Tachwedd – Canolfan Hamdden Plas Madoc, 1pm-3pm
Cadwch yn gynnes
Gyda biliau tanwydd yn codi, mae llawer o bobl yn poeni am wresogi eu cartrefi’r gaeaf hwn.
Oeddech chi’n gwybod bod yr holl lyfrgelloedd cyhoeddus ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam wedi agor eu drysau i ddarparu ‘Llochesau Cynnes’?
Mae’r rhain yn llefydd y gallwch fynd iddynt i gadw’n gynnes ac yn gyfforddus yn ystod y dydd.
Mae’r llyfrgelloedd sy’n cymryd rhan yn cynnwys Brynteg, Cefn Mawr, y Waun, Coedpoeth, Gwersyllt, Llai, Owrtyn, Rhos, Rhiwabon a Wrecsam.
Cymorth ymarferol i gymunedau
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, sy’n cadeirio’r grŵp: “Mae’r argyfwng costau byw yn her anferth ac mae’n mynd i fod yn aeaf anodd i lawer o bobl.
“Dyna pam mae’r holl bleidiau gwleidyddol ar y Cyngor yn gweithio gyda’i gilydd i geisio darparu cymaint o gymorth ymarferol â phosibl i’n cymunedau.
“Dyna pam rydym yn darparu cymorth ychwanegol i Fanc Bwyd Wrecsam, Canolfan Cyngor ar Bopeth ac asiantaethau lleol eraill hefyd.
“Os nad ydych wedi gwneud eisoes, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa gefnogaeth y mae gennych hawl iddo. Ewch ar wefan y Cyngor am wybodaeth, neu ewch i un o’n digwyddiadau galw heibio i gael cymorth a chyngor.”
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI