Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn briffio Covid-19 – sut i leihau eich siawns o fynd i’r ysbyty gyda Covid…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn briffio Covid-19 – sut i leihau eich siawns o fynd i’r ysbyty gyda Covid…
ArallPobl a lle

Nodyn briffio Covid-19 – sut i leihau eich siawns o fynd i’r ysbyty gyda Covid…

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 1, 2021 3:39 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cymrwch y frechiad
RHANNU

Mae’n syml. Ewch i gael eich brechu, da chi.

Cynnwys
  • Brechiadau atgyfnerthol Covid a brechiadau ffliw
  • Brechiadau Covid i rai 12 i 15 oed
    • Gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth
  • Uned brofi symudol
  • Helpwch i gadw Covid draw o’r ysgolion
  • Peidiwch ag anwybyddu gweithwyr olrhain cysylltiadau
  • Dolenni defnyddiol

Brechiadau atgyfnerthol Covid a brechiadau ffliw

Mae’r rhai sy’n gymwys yn cael eu hannog i gael brechiadau atgyfnerthol Covid a brechiadau ffliw at y gaeaf.

Mae brechiadau atgyfnerthol Covid yn cael ei cynnig i bobl 50 oed a hŷn, ac mae brechiadau ffliw ar gael i amrywiaeth eang o bobl – gan gynnwys pawb dros 50 oed, plant 2 i 15 oed a merched beichiog.

Os ydych chi’n gymwys, gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn y cynnig i’ch gwarchod rhag y ddau feirws.

Darllenwch fwy…

Rhaid amddiffyn ein gilydd dros y Gaeaf. Ewch i gael eich brechlynnau COVID-19 a'r Ffliw i helpu i gadw'ch bywyd ar agor.

Gwiriwch a ydych yn gymwys: https://t.co/tnIjeosoYq pic.twitter.com/wKL7ITgBhe

— Iechyd Cyhoeddus Cymru (@IechydCyhoeddus) September 29, 2021

Brechiadau Covid i rai 12 i 15 oed

Mae’r bwrdd iechyd lleol yn anfon gwahoddiadau at bobl 12 i 15 oed, a byddant yn dechrau brechu ddydd Llun, 4 Hydref.

Bydd angen i rieni a gofalwyr roi caniatâd a bydd y brechiadau’n cael eu rhoi mewn canolfannau brechu lleol (ni fydd pobl yn y grŵp oedran hwn yn gallu cerdded i mewn i glinigau).

Darllenwch fwy…

Gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth

Mae’n bwysig bod pobl ifanc a rhieni/gofalwyr yn gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth am frechiadau Covid.

Peidiwch ag ymddiried yn yr un ar Facebook sy’n arbenigwr ar feiroleg, mwyaf sydyn.

Gofalwch eich bod yn cael gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy fel Iechyd Cyhoeddus Cymru a’ch bwrdd iechyd GIG lleol.

Uned brofi symudol

Cofiwch fod uned brofi symudol yn Johnstown.

Mae’r cyfleuster mynediad hawdd yn cynnig profion PCR yng Nghanolfan Gymunedol Johnstown rhwng 9:30am a 5pm bob dydd Llun hyd nes clywch yn wahanol.

Darllenwch fwy…

Helpwch i gadw Covid draw o’r ysgolion

Drwy gadw at y canllawiau canlynol gan Lywodraeth Cymru fe allwch chi helpu i gadw Covid draw o’r ystafell ddosbarth yr hydref hwn…

  1. Os oes gan eich plentyn unrhyw symptom, dim ots pa mor ysgafn, cadwch nhw gartref ac archebwch brawf.
  2. Dim symptomau? Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwneud prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos ac adrodd am y canlyniadau.
  3. Dilynwch reolau’r ysgol o ran gorchuddion wyneb. Bydd yn rhaid i ddisgyblion uwchradd (blwyddyn 7 a hŷn) eu gwisgo ar gludiant ysgol.
  4. Cymerwch y brechlyn os caiff ei gynnig i chi neu’ch plentyn.
  5. Golchwch eich dwylo yn rheolaidd.

5 peth gallwch chi wneud i helpu cadw Covid i ffwrdd o ysgolion yr hydref hwn

Peidiwch ag anwybyddu gweithwyr olrhain cysylltiadau

Atgoffir pobl bod yn rhaid iddyn nhw ateb galwadau ffôn gan weithwyr olrhain cysylltiadau a dilyn unrhyw gyngor a ddarperir.

Yn ôl Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Wrecsam mae yna lond llaw o bobl sy’n parhau i anwybyddu galwadau a chyngor, gan roi eu hunain ac eraill mewn perygl.

Darllen mwy…

Dolenni defnyddiol

  • Sut i archebu prawf Covid
Rhannu
Erthygl flaenorol Cerbyd casglu sbwriel trydan ar waith yn Wrecsam Cerbyd casglu sbwriel trydan ar waith yn Wrecsam
Erthygl nesaf Flu Jab “Ni fu erioed mor bwysig” – nyrsys yn annog pobl i gael eu brechlyn ffliw y gaeaf hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English